Rydym yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y gorau o’ch band eang a’ch ffôn. Rydym hefyd yn goruchwylio teledu a radio, tonnau awyr di-wifr a’r post.
Fodd bynnag, efallai na fyddwn yn gallu delio â chwynion unigol ar gyfer pob un o’r meysydd hyn. Dyma drosolwg o beth rydym yn ei wneud a beth nad ydym yn ei wneud.
Rydym yn delio â chwynion gan bobl a busnesau, sy'n ein helpu ni i gymryd camau yn erbyn cwmnïau pan fyddant yn gadael cwsmeriaid i lawr.
Nid yw San Steffan wedi rhoi pwerau i ni i ddatrys cwynion pobl am eu gwasanaeth ffôn na band eang. Yn hytrach, gellir delio â’r rhain drwy Wasanaethau Amgen o Ddatrys Anghydfod.
Er nad ydym yn ymchwilio i gwynion unigol, drwy dynnu sylw at broblemau rydych yn chwarae rhan hollbwysig yn ein gwaith ac efallai byddwn yn ymchwilio i gwmni os bydd data monitro yn dangos bod problem benodol yn bodoli.
Mae gwahanol fathau o alwadau a negeseuon digroeso, ond nid yw Ofcom ond yn gyfrifol am fonitro galwadau mud a galwadau sy’n cael eu gadael.
Mae sefydliadau eraill yn delio â mathau eraill o alwadau a negeseuon digroeso.
Dysgwch sut mae eu cwyno amdanyn nhw neu sut mae amddiffyn eich hun rhagddynt drwy ddewis y math perthnasol o alwad neu neges rydych chi’n ei gael ar ein porth cwynion.
Rydym yn gwneud yn siŵr:
- bod amrywiaeth o gwmnïau yn darparu rhaglenni radio a theledu o safon sy’n apelio at gynulleidfaoedd amrywiol;
- bod gwylwyr a gwrandawyr yn cael eu hamddiffyn rhag ddeunydd niweidiol neu dramgwyddus ar y teledu, ar y radio ac ar-alw;
- bod pobl yn cael eu hamddiffyn rhag triniaeth annheg mewn rhaglenni, ac rhag i neb darfu ar eu preifatrwydd; a
- bod llwyfannau rhannu fideos a sefydlir yn y DU yn cymryd camau priodol i ddiogelu eu defnyddwyr rhag niwed.
Rydym yn ystyried pob cwyn a dderbyniwn gan wylwyr a gwrandawyr. Yn aml, byddwn yn ymchwilio ymhellach. Weithiau, byddwn yn canfod bod darlledwyr wedi torri ein rheolau.
Rydym yn rheoleiddio cynnwys y BBC (ac eithrio BBC World Service), ond mae'n rhaid i chi gofrestru cwynion am gynnwys gyda’r BBC yn gyntaf. Os nad ydych yn fodlon ar ymateb y BBC, gallwch gysylltu â ni. Dysgwch ragor am sut rydym yn delio â chwynion am wasanaethau’r BBC, ar deledu, radio a gwasanaethau ar-alw.
Rydym yn derbyn cwynion yn uniongyrchol am ddarlledwyr teledu a radio eraill rydym yn eu rheoleiddio. Dysgwch ragor am sut rydym yn delio â chwynion teledu a radio.
Rydym yn rheoleiddio rhai gwasanaethau fideo ar-alw. Dysgwch ragor am sut rydym yn delio â chwynion eraill am wasanaethau fideo ar-alw.
Rydym hefyd yn rheoleiddio llwyfannau rhannu fideos a aefydlir yn y DU ond nid ydym yn ystyried cwynion unigol. Dysgwch ragor am sut rydym yn rheoleiddio llwyfannau rhannu fideos.
Darllenwch ein rheolau ar gyfer darlledwyr.
Cwyno ynghylch teledu, radio, gwasanaethau ar-alw a llwyfannau rhannu fideos.
Er ein bod ni'n rheoleiddio'r gwasanaeth post, nid oes modd i ni archwilio cwynion unigol ynghylch gweithredwyr post.
Mae'n rhaid i unrhyw weithredwr post gael gweithdrefn cwynion ar eu gwefan.
Os ydych chi'n dymuno cwyno am y Post Brenhinol, gwnewch hynny'n uniongyrchol os gwelwch yn dda. Nid ydym ni'n rheoleiddio Parcelforce na Post Office Ltd.
.
Mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n bosib y byddwn yn ymchwilio i ymyriad i offer radio lle rydym yn fodlon:
- bod yr ymyriad yn niweidiol;
- ei fod y tu hwnt i'ch rheolaeth; ac
- y cymerwyd pob cam rhesymol i isafu'r effaith.
Mae'n bosib y byddwn yn anfon peiriannydd allan i ymchwilio iddo. Fodd bynnag, gallech fod yn atebol am gost yr ymchwiliad os gwelwn nad yw'r meini prawf uchod wedi'u bodloni.
Cyn rhoi gwybod am ymyriad i Ofcom, ac i isafu'r risg o fynd i gostau yn unol â'n telerau ac amodau cynnal ymchwilio, dylech:
- gadw cofnod o bob digwyddiad, gan gynnwys yr amser, y dyddiad a'r orsaf neu'r cyfarpar yr effeithir arnynt (yn ddelfrydol am bythefnos);
- sefydlu nad yw ffynhonnell ymyriad niweidiol o fewn eich rheolaeth chi (e.e. o fewn eich eiddo eich hun); a
- sicrhau bod yr orsaf neu'r cyfarpar yr effeithir arnynt yn gweithio'n gywir (e.e. wedi'u gosod, eu cynnal a'u peiriannu'n gywir).
Ofcom yw’r rheoleiddiwr ar gyfer diogelwch ar-lein yn y DU. Ein rôl yw sicrhau bod gwasanaethau ar-lein, fel gwefannau ac apiau, yn cyflawni eu dyletswyddau i ddiogelu eu defnyddwyr.
Rydym yn rheoleiddio'r llwyfannau rhannu fideos (VSPs) sydd wedi'u sefydlu yn y DU. VSP yw gwasanaeth sy'n galluogi defnyddwyr i uwchlwytho neu rannu fideos â phobl eraill. Mae'r VSPs a reoleiddiwn yn cynnwys BitChute, OnlyFans, TikTok a Twitch - ac mae rhestr lawn ar gael ar ein gwefan.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn rheoleiddio gwasanaethau ar-lein gan gynnwys VSPs.
Dydyn ni ddim yn delio â'r canlynol:
- anghydfod unigol rhyngoch chi a’ch darparwr ffôn cartref, bang eang neu ffôn symudol - bydd y cynllun Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR) yn delio â’r rhain;
- gwasanaethau ffôn cyfradd premiwm – mae'r rhain yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ffôn y Mae’n Rhaid Talu Amdanynt
- Safonau hysbysebu ar y teledu, y radio neu’r rhyngrwyd – mae’r rhain yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Safonau Hysbysebu;
- BBC World Service;
- ffi trwydded y BBC;
- swyddfeydd post;
- papurau newydd a chylchgronau; na’r
- hyn mae pobl yn ei ysgrifennu neu’n ei bostio ar y rhyngrwyd.
Byddwn bob amser yn gwneud ein gorau glas i ddiwallu anghenion busnesau, defnyddwyr, gwylwyr a gwrandawyr.
Ond weithiau mae pethau’n gallu mynd o chwith - neu gallwn fethu â chyrraedd ein safonau uchel.
Os bydd hyn yn digwydd, mae gennym weithdrefnau i ddelio â chwynion am Ofcom.