Isod mae esboniad cyflym o'r broses. Fodd bynnag, cyfeiriwch at ein gweithdrefnau manwl am wybodaeth lawn.
Os ydych am wneud cwyn benodol i Ofcom, gwnewch hynny o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl i'r rhaglen gael ei darlledu.
Os byddwch yn clicio ar Gwneud Cwyn gofynnir i chi ateb nifer o gwestiynau cyflym i wirio mai Ofcom yw'r rheoleiddiwr cywir ar gyfer eich cwyn. Os nad ydym, byddwn yn rhoi manylion y corff cywir i chi. Os ydym, mae ffurflen fer y bydd angen i chi ei llenwi i gyflwyno'ch cwyn.
Os yw eich cwyn yn ymwneud â rhywbeth rydych wedi'i weld neu ei glywed ar un o raglenni'r BBC, mae'n bosib y bydd angen i chi wneud cwyn i'r BBC yn gyntaf. Dyma ragor o wybodaeth am sut rydym yn delio â chwynion am y BBC.
Mae Ofcom yn derbyn miloedd o gwynion gan wylwyr a gwrandawyr bob blwyddyn am safonau ar deledu a radio. Rydym yn asesu pob cwyn yn ofalus i weld a yw ein rheolau wedi'u torri.
Os penderfynwn nad yw'r gŵyn yn codi mater sy'n cyfiawnhau ymchwiliad pellach, byddwn yn cau'r gŵyn ac yn cyhoeddi cofnod o hyn yn ein Bwletin Darlledu ac Ar-alw, a gyhoeddir bob pythefnos.
Os penderfynwn cynnal ymchwiliad, byddwn yn cynnwys yr achos yn ein rhestr o ymchwiliadau newydd, a gyhoeddir yn y Bwletin Darlledu ac Ar-alw.
Mae ymchwiliad yn broses ffurfiol a all gymryd peth amser gan ddibynnu ar gymhlethdod y materion dan sylw.
Gall Ofcom hefyd lansio ymchwiliadau yn absenoldeb cwyn gan wyliwr neu wrandäwr.
Rydym yn cyhoeddi canlyniadau ein hymchwiliadau yn ein Bwletinau Darlledu ac Ar-alw. Efallai y byddwn yn barnu bod mater yn dor rheol, wedi'i ddatrys neu nad yw'n dor rheol. Rydym yn cadw archif o'n Bwletinau Darlledu ac Ar-alw i chi ddarllen drwyddynt.
Rydym yn cadw'r penderfyniadau hyn ar gofnodion cydymffurfio darlledwyr. Os bydd darlledwr yn torri'r rheolau dro ar ôl tro, neu mewn ffordd yr ystyriwn ei bod yn ddifrifol, mae gan Ofcom y pwerau cyfreithiol i osod sancsiynau arnynt. Ymhlith y sancsiynau posib mae dirwy sylweddol, cwtogi neu hyd yn oed dileu trwydded y sianel neu'r orsaf i ddarlledu. Rydym yn cyhoeddi pob Penderfyniad Sancsiynu ar ein gwefan.
Isod mae esboniad cyflym o'r broses. Fodd bynnag, cyfeiriwch at ein gweithdrefnau manwl am wybodaeth lawn.
Os ydych am wneud y math hwn o gŵyn i Ofcom, gwnewch hynny o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl i'r rhaglen gael ei darlledu.
Os ydych yn clicio ar Gwneud Cwyn, gofynnir i chi ateb nifer o gwestiynau cyflym i wirio mai Ofcom yw'r rheoleiddiwr cywir ar gyfer eich cwyn. Os nad ydym, byddwn yn rhoi manylion y corff cywir i chi. Os ydym, mae ffurflen y bydd angen i chi ei llenwi i gyflwyno'ch cwyn. Os yw eich cwyn yn ymwneud â rhaglen BBC yr oeddech chi, perthynas, neu eich sefydliad ynddi, gallwch gwyno i'r BBC yn gyntaf. Dyma ragor o wybodaeth am sut rydym yn delio â chwynion am yBBC.
Noder mai'r gŵyn yw eich unig gyfle i gyflwyno'ch achos i Ofcom. Gan hynny, rhowch fanylion llawn i ni am sut rydych chi'n credu y bu'r rhaglen yn annheg i chi a/neu sut y gwnaeth darfu ar eich preifatrwydd. Dylai eich cwyn gynnwys enghreifftiau perthnasol o sut a pham yr achoswyd annhegwch i chi a/neu sut y tarfwyd ar eich preifatrwydd.
Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cwyn (y cyfeiriwn ati fel cwyn tegwch a phreifatrwydd) mae'n bosib y byddwn yn gwneud Penderfyniad Ystyried (h.y. ystyried a allwn fwrw ymlaen ag ymchwilio i'r gŵyn) yn seiliedig ar y ffactorau a nodir yn y Gweithdrefnau ar gyfer gwneud cwyn tegwch a phreifatrwydd. Byddwn yn anfon copi o'n Penderfyniad Ystyried atoch. Mae'r holl ymchwiliadau tegwch a phreifatrwydd a ystyriwyd yn ddiweddar wedi'u cynnwys yn rhestr gyhoeddedig Ofcom o ymchwiliadau newydd bob wythnos.
Os penderfynwn na allwn ystyried eich cwyn, bydd yr achos yn cael ei gau.
Os penderfynwn y gallwn ystyried eich cwyn, byddwn yn gofyn i'r darlledwr ymateb iddo ac wedyn yn ystyried yr achos a gyflwynir gennych chi a'r darlledwr. Gan ddefnyddio'r wybodaeth hon, rydym yn asesu'r gŵyn yn ofalus er mwyn llunio Barn Gychwynnol ynghylch a yw ein rheolau tegwch a phreifatrwydd wedi'u torri ai beidio. Bydd copi o'r Farn Gychwynnol yn cael ei anfon atoch chi a'r darlledwr a bydd y ddau ohonoch yn cael cyfle i wneud sylwadau arni cyn i ni wneud penderfyniad terfynol (y Dyfarniad) a gaiff ei gyhoeddi ar ein gwefan.
Mae ymchwiliad yn broses ffurfiol a all gymryd peth amser gan ddibynnu ar gymhlethdod y materion dan sylw. Dylech fod yn ymwybodol y bydd angen i ni gysylltu â chi yn ystod ymchwiliad ac efallai y bydd angen gofyn am wybodaeth ychwanegol gennych. Os na fyddwch yn darparu'r wybodaeth honno erbyn y terfyn amser a nodir gennym, efallai y byddwn yn tybio nad ydych am fynd ar drywydd eich cwyn mwyach, gan olygu y byddwn yn ei chau.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol y gall y darlledwr awgrymu ffordd o ddatrys eich cwyn, drwy Ofcom, ar unrhyw adeg yn ystod y cam ystyried neu ymchwilio. Er enghraifft, efallai y bydd darlledwr yn cynnig ysgrifennu llythyr o ymddiheuriad atoch neu olygu adran benodol o raglen cyn ei hail-ddarlledu. Os bydd y darlledwr yn gwneud y fath gynnig, byddwn yn ei gyfleu i chi. Os byddwch yn derbyn y cynnig hwn, byddwn yn ystyried bod y gŵyn wedi'i datrys ac yn cau'r achos.
Mewn amgylchiadau eithriadol, gall Ofcom hefyd lansio ymchwiliadau tegwch a phreifatrwydd yn absenoldeb cwyn gan wyliwr neu wrandäwr.
Rydym bob amser yn cyhoeddi, yn llawn, y Dyfarniad terfynol o bob cwyn tegwch neu breifatrwydd yr ydym yn ei hystyried. Fel arfer, bydd y Dyfarniad yn cynnwys eich enw fel yr achwynydd (oni bai y byddai cyhoeddi eich enw ei hun yn annheg i chi neu'n tarfu ar eich preifatrwydd).
Bydd y Dyfarniad terfynol ar gŵyn naill ai'n cael ei chynnal, ei chynnal yn rhannol neu heb ei chynnal. Bydd y Dyfarniad yn cael ei gyhoeddi mewn Bwletin Darlledu ac Ar-alw ar ein gwefan. Gweler ein harchif Bwletinau Darlledu ac Ar-alw am enghreifftiau o Ddyfarniadau tegwch a phreifatrwydd blaenorol.
Noder nad oes unrhyw broses adolygu mewnol nac apelio ar gyfer Dyfarniadau terfynol.
Os bydd Ofcom yn cynnal eich cwyn, dylech fod yn ymwybodol nad yw hynny o reidrwydd yn golygu y bydd yn ofynnol i'r darlledwr ddarlledu crynodeb o benderfyniad Ofcom. At hynny, ni all Ofcom fynnu i'r darlledwr: ddarlledu cywiriad neu ymddiheuriad; golygu'r rhaglen cyn unrhyw ail-ddarllediad; neu dalu iawndal i chi.
Rydym yn cadw ein holl benderfyniadau ar gofnodion cydymffurfio darlledwyr. Os bydd darlledwr yn torri'r rheolau dro ar ôl tro, neu mewn ffordd yr ystyriwn ei bod yn ddifrifol, mae gan Ofcom y pwerau cyfreithiol i osod sancsiynau arnynt. Ymhlith y sancsiynau posib mae dirwy, cwtogi neu hyd yn oed dileu trwydded y sianel neu'r orsaf i ddarlledu. Gweler ein tudalen Penderfyniadau Sancsiynu i ddarllen penderfyniadau sancsiynu blaenorol.
Mae Ofcom yn trwyddedu gorsafoedd radio a theledu i ddarlledu eu gwasanaethau. Mae'r trwyddedau hynny'n cynnwys nifer o ofynion megis rhwymedigaeth y darlledwr i ddarparu gwybodaeth a recordiadau i Ofcom. Mae rhai o'r trwyddedau hefyd yn cynnwys rheolau ynghylch pa fath o gynnwys all gael ei ddarlledu, er enghraifft y math o gerddoriaeth y mae gorsaf radio yn ei chwarae, Ymrwymiadau Allweddol gorsaf radio gymunedol, neu i ba raddau y darperir isdeitlo ar y teledu.
Rydym wedi cyhoeddi gweithdrefnau ynghylch sut rydym yn ymdrin â chwynion am yr holl faterion hyn, o'r enw Gweithdrefnau cyffredinol ar gyfer ymchwilio i achosion o dorri trwyddedau darlledu (PDF, 244.6 KB).
Os daw eich cwyn o fewn cylch gwaith y gweithdrefnau hyn, byddwn yn ei ystyried yn ofalus i benderfynu a yw'n codi materion y mae angen ymchwilio ymhellach iddynt. Ni waeth p'un a ydym yn penderfynu bod angen ymchwiliad ai beidio, byddwn yn ysgrifennu atoch i'ch hysbysu am ganlyniad eich cwyn. Gall hyn gymryd peth amser gan ddibynnu ar gymhlethdod y materion dan sylw. Bydd ein penderfyniad fel arfer yn ein Bwletin Darlledu ac Ar-alw hefyd, sy'n cael ei gyhoeddi ar ein gwefan bob pythefnos.
Os na daw eich cwyn o fewn y cylch gwaith hwn, bydd eich cwyn yn cael ei chofnodi ond ni fyddwch yn derbyn ymateb pellach gennym.
Gall Ofcom hefyd lansio ymchwiliadau heb fod angen derbyn cwyn gan wyliwr neu wrandäwr.
Os credwch nad yw sianel neu orsaf yn glynu wrth y rheolau trwyddedu sy'n berthnasol i'w gwasanaeth, llenwch ein ffurflen cwynion am drwyddedu darlledu.
Fel arfer, byddwn yn cyhoeddi canlyniadau ein hymchwiliadau yn ein Bwletinau Darlledu ac Ar-alw neu yn adran drwyddedu ddarlledu berthnasol ein gwefan. Efallai y byddwn yn barnu bod mater yn dor rheol, wedi'i ddatrys neu nad yw'n dor rheol. Gallwch archwilio'r archif o Fwletinau Darlledu ac Ar-alw.
Rydym yn cadw'r penderfyniadau hyn ar gofnodion cydymffurfio darlledwyr. Os bydd darlledwr yn torri'r rheolau dro ar ôl tro, neu mewn ffordd yr ystyriwn ei bod yn ddifrifol, mae gan Ofcom y pwerau cyfreithiol i osod sancsiynau arnynt. Ymhlith y sancsiynau posib mae dirwy sylweddol, cwtogi neu hyd yn oed dileu trwydded y sianel neu'r orsaf i ddarlledu. Gallwch fynd i'n tudalen Penderfyniadau Sancsiynu i ddarllen penderfyniadau sancsiynu blaenorol.