Mae’r Ddeddf Cyfryngau wedi’i llunio i ddiogelu darlledu gwasanaeth cyhoeddus ac i feithrin arloesedd, er mwyn i gynulleidfaoedd y DU allu mwynhau’r gwasanaethau, y cynnwys fideo a’r rhaglenni maen nhw’n eu mwynhau. Rydym wedi ymrwymo i roi’r rheolau newydd hyn ar waith fel y nodir ar ein hamserlen, a hynny cyn gynted â phosibl mewn ffordd sy’n deg, yn gymesur ac yn effeithiol.