Mae tariffau cymdeithasol yn becynnau band eang a ffôn rhatach i bobl sy'n hawlio Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn a rhai budd-daliadau eraill. Mae rhai darparwyr yn eu galw'n fand eang 'essential' neu 'basic'.
Maen nhw'n cael eu darparu yn yr un ffordd â phecynnau arferol, dim ond am bris is. Gyda chostau byw ar gynnydd, mae Ofcom yn annog cwmnïau i gynnig tariffau cymdeithasol i helpu cwsmeriaid sydd ar incwm isel.
Sut y gallai tariff cymdeithasol eich helpu chi
- Mae ar gael i'r rhai sydd ar amrywiaeth o fudd-daliadau. Os ydych chi neu rywun yn eich cartref yn hawlio Credyd Cynhwysol, gallech newid i unrhyw un o'r tariffau sydd ar gael.
- Mae'n rhatach na phecyn rheolaidd. Mae'r prisiau presennol yn amrywio o £10 i £20.
- Band eang cyflym, diderfyn. Mae'r rhan fwyaf o dariffau yn cynnig band eang cyflym iawn ar gyflymder dros 30 Mbit yr eiliad - yn ddigon cyflym i chi gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, ffrydio ffilmiau HD neu siopa ar-lein.
- Byddwch chi'n talu bron i ddim byd mewn costau gosod. Os oes rhaid i chi dalu unrhyw gostau gosod, dylai'r rhain fod yn fach iawn. Dylai eich darparwr ddweud wrthych cyn cofrestru.
- Fe allai gostio dim byd i newid. Os yw eich darparwr yn cynnig tariff cymdeithasol, gallwch newid iddo unrhyw bryd, yn rhad ac am ddim.
- Ni fydd y pris yn mynd i fyny yng nghanol y contract. Fyddwch chi ddim yn talu mwy na'r hyn rydych chi'n cytuno ar ddechrau'r contract.
- Nid yw'n costio dim i'w adael. Ni fyddwch yn talu ffi i adael y tariff cyn diwedd eich contract.
Mae rhai darparwyr yn cynnig pecynnau band eang rhatach sydd ond ar gael i gwsmeriaid ar fudd-daliadau penodol. Mae BT a KCOM hefyd yn darparu tariffau llinell dir rhatach i aelwydydd cymwys. Mae manylion y rhain yn y dolenni BT a KCOM isod.
Pwy allai fod yn gymwys
Os ydych chi, neu rywun yn eich cartref, yn hawlio Credyd Cynhwysol, gallech chi newid i unrhyw un o’r tariffau sydd ar gael. Mae pob prif ddarparwr hefyd yn cynnwys pobl ar Gredyd Pensiwn, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Lwfans Ceisio Gwaith a Chymhorthdal Incwm a gallai rhai darparwyr gynnwys budd-daliadau ychwanegol fel y Taliad Annibyniaeth Personol a Lwfans Gweini. Bydd angen i’r sawl sy’n derbyn y budd-dal fod y prif berson ar y contract.
Sut i wneud cais
Yn gyntaf, gwiriwch a yw eich darparwr presennol yn cynnig tariff cymdeithasol. Mae ein tabl isod yn rhestru'r holl dariffau sydd ar gael nawr. Gallwch wneud cais am y rhan fwyaf o dariffau ar-lein, neu ffonio'ch darparwr a gofyn am newid.
Os nad yw eich darparwr yn cynnig tariff cymdeithasol, gallwch newid i ddarparwr sy'n darparu nhw Efallai y bydd eich darparwr yn caniatáu i chi adael eich contract presennol heb dalu ffi gosb. Darllenwch ein canllaw i newid band eang am ragor o wybodaeth.
Rhestr lawn o dariffau band eang a ffôn cymdeithasol
Dechreuwch deipio enw eich darparwr. Bydd y tabl yn diweddaru wrth i chi deipio
Pecyn | Pris | Cyflymder cyfartalog | Ble mae ar gael* |
---|---|---|---|
4th Utility Social Tariff | £13.99 y mis | 30 Mbit yr eiliad | Lloegr |
BT Home Essentials | £15 y mis | Tua 36 Mbit yr eiliad | Y Deyrnas Unedig |
BT Home Essentials 2 | £20 y mis | Tua 67 Mbit yr eiliad | Y Deyrnas Unedig |
Community Fibre Essential | £12.50 y mis | 20 Mbit yr eiliad | Lloegr (Llundain) |
Connect Fibre Basic Essentials | £20 y mis | 50 Mbit yr eiliad | Lloegr (Swydd Caergrawnt, Essex, Swydd Nottingham, Swydd Efrog a Swydd Derby) |
Connect Fibre Essentials | £25 y mis | 150 Mbit yr eiliad | Lloegr (Swydd Caergrawnt, Essex, Swydd Nottingham, Swydd Efrog a Swydd Derby) |
Country Connect Social Tariff | £15 y mis | 50 Mbit yr eiliad | Cymru (Casnewydd) |
County Broadband Essential Broadband Tariff | £15 y mis | 15 Mbit yr eiliad | Dwyrain Lloegr |
EE Basics | £12 y mis | Hyd at 25 Mbit yr eiliad | Y Deyrnas Unedig |
G.Network Essential Fibre Broadband | £15 y mis | 50 Mbit yr eiliad | Lloegr (Llundain) |
Grayshott Gigabit Connect | £20 y mis | 100 Mbit yr eiliad | Lloegr |
Hey!Broadband Everyday Fibre | £16 y mis | 100 Mbit yr eiliad | Lloegr (De-ddwyrain Lloegr) |
Hyperoptic Fair Fibre 50 | £15 y mis | 50 Mbit yr eiliad | Cymru, Lloegr a’r Alban |
Hyperoptic Fair Fibre 150 | £20 y mis | 150 Mbit yr eiliad | Cymru, Lloegr a’r Alban |
KCOM Full Fibre Flex | £14.99 y mis | 30 Mbit yr eiliad | Lloegr (Hull) |
Lightning Fibre Social Tariff | £15 y mis | 50 Mbit yr eiliad | Lloegr (Dwyrain Sussex a Swydd Caint) |
Lothian Broadband Social Tariff | £19.99 y mis | 100 Mbit yr eiliad | Yr Alban (Lothian) |
NOW Broadband Basics | £20 y mis | 36 Mbit yr eiliad | Y Deyrnas Unedig Shell Essentials Fast Broadband |
Quickline Social Tariff | £16.50 y mis | 100 Mbit yr eillad | Lloegr (Swydd Efrog a Swydd Lincoln) |
RunFibre social tariff | £20 y mis | 100 Mbit yr eiliad | Lloegr (De Swydd Gaerloyw) |
Shell Essentials Fast Broadband | £15 y mis | 11 Mbit yr eiliad | Y Deyrnas Unedig |
Shell Essentials Fibre Broadband | £20 y mis | 38 Mbit yr eiliad | Y Deyrnas Unedig |
Sky Broadband Basics | £20 y mis | 36 Mbit yr eiliad | Y Deyrnas Unedig |
SMARTY Social Tariff | £12 y mis | 5G lle bo ar gael | Y Deyrnas Unedig |
toob essentials | £20 y mis | 50 Mbit yr eliad | Hampshire, Southampton, and Surrey’ |
Truespeed Basic | £20 y mis | 30 Mbit yr eiliad | Lloegr (De Orllewin) |
Virgin Media Essential Broadband | £12.50 y mis | 15 Mbit yr eiliad | Y Deyrnas Unedig |
Virgin Media Essential Broadband Plus | £20 y mis | 54 Mbit yr eiliad | Y Deyrnas Unedig |
Vodafone Fibre 1 Essentials | £12 y mis | 38 Mbit yr eiliad | Y Deyrnas Unedig |
Vodafone Fibre 2 Essentials | £20 y mis | 73 Mbit yr eiliad | Y Deyrnas Unedig |
VOXI For Now | £10 y mis | 5G lle bo ar gael | Y Deyrnas Unedig |
Wildanet Helping Hand Social Tariff** | £20 y mis | 30-100 MB yr eiliad | Lloegr (Cernyw a Dyfnaint) |
WightFibre Essential Broadband | £16.50 y mis | 100 Mbit yr eiliad | Lloegr (Ynys Wyth) |
YouFibre social tariff | £15 y mis | 50 Mbit yr eiliad | Y Deyrnas Unedig |
* Efallai na fydd darparwyr yn gwasanaethu pob eiddo yn y rhanbarthau a restrir. Ewch i wefan y darparwr i gael rhagor o wybodaeth am ddarpariaeth, neu defnyddiwch wiriwr darpariaeth band eang Ofcom.
**Mae tariff cymdeithasol Wildanet ar gael i ddechrau i’r rheini sy’n cael Credyd Cynhwysol; maent yn ystyried cynnwys budd-daliadau ychwanegol.
Efallai y bydd cymorth arall ar gael i gwsmeriaid sydd yn methu mynd ar-lein. Os ydych yn cael trafferth talu eich bil ffôn symudol neu fand eang, siaradwch â'ch darparwr cyn gynted â phosib i weld sut y gallent eich helpu.
Awgrymiadau i dorri eich costau
Mae llawer o bobl yn poeni am y cynnydd mewn costau byw ac yn chwilio am ffyrdd o arbed arian ar y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio bob dydd. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau ffôn, band eang a theledu-drwy-dalu.
Bwrw golwg ar ein hawgrymiadau i weld a allent eich helpu.