Mae'r gwiriwr symudol a band eang sydd ar gael yn Gymraeg yn eich galluogi i:
- wirio argaeledd symudol dan do/awyr agored ar gyfer gwasanaethau llais a data yr holl prif ddarparwyr, yn ogystal ag argaeledd gwasanaethau 5G yn yr awyr agored
- gweld argaeledd a chyflymder band eang ar gyfer unrhyw gyfeiriad yn y DU
- cael awgrymiadau ar sut i wella eich cysylltiad rhyngrwyd neu ddarpariaeth symudol.
Rhowch god post i weld darpariaeth symudol fesul darparwr, neu argaeledd gwasanaethau band eang (safonol, cyflym iawn a gwibgyswllt). Gallwch hefyd weld y canlyniadau ar fapiau rhyngweithiol. Cofiwch newid y dewis iaith ar frig y dudalen i 'Cymraeg' i weld fersiwn Gymraeg y gwiriwr.
Os na allwch chi gael cyflymder llwytho i lawr o 10Mbit yr eiliad, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer Rhwymedigaeth Gwasanaeth Band Eang (USO).
Defnyddiwch y gwiriwr symudol a band eang
Gallwch ddefnyddio'r gwiriwr yn Gymraeg trwy newid yr iaith ar frig y dudalen ar y dde. I gael rhagor o wybodaeth am y gwiriwr, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin.
API band eang a data symudol
Mae’r data band eang a symudol sefydlog ar gael drwy API hefyd.
Eisiau gwirio statws y rhwydwaith yn eich ardal?
Ni all ein gwiriwr darpariaeth eich hysbysu am waith cynnal a chadw neu broblemau sydd wedi eu hadrodd yn eich ardal. Mae'n bosib y bydd eich darparwr yn dangos yr wybodaeth hon ar eu gwefan.