Sut mae Ofcom yn ymdrin â chwynion yn ymwneud â theledu, radio ac ar-alw y BBC

Cyhoeddwyd: 1 Awst 2023

Rydym wedi rhoi esboniad byr o’r broses isod. Fodd bynnag, darllenwch ein gweithdrefnau manwl i gael y wybodaeth lawn.

Ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, bydd Ofcom dim ond yn ystyried eich cwyn os ydych chi eisoes wedi cwyno wrth y BBC yn gyntaf. Ewch i dudalen gwyno’r BBC i wneud cwyn i’r BBC.

Os byddwch chi’n anfodlon ag ymateb terfynol y BBC, gallwch wedyn gyflwyno cwyn i Ofcom.

Rydym yn asesu pob cwyn am y BBC yn ofalus er mwyn gweld a yw ein rheolau wedi cael eu torri.

Os byddwn ni’n penderfynu nad yw’r gŵyn yn codi materion y bydd angen ymchwilio ymhellach iddynt, byddwn yn cau’r achos ac yn cyhoeddi cofnod o’r mater yn ein Bwletin Broadcast and On Demand, sy’n cael ei gyhoeddi bob pythefnos.

Os byddwn ni’n penderfynu ymchwilio, byddwn yn cynnwys yr achos mewn rhestr o’n hymchwiliadau newydd, sy’n cael ei chyhoeddi yn y Bwletin Broadcast and On Demand.

Mae ymchwiliad yn broses ffurfiol sy’n gallu cymryd cryn dipyn o amser, gan ddibynnu ar ba mor gymhleth yw’r materion dan sylw.

Gall Ofcom hefyd lansio ymchwiliadau pan na fydd cwyn wedi dod i law gan wyliwr neu wrandäwr, os byddwn o’r farn y gallai fod yn fater difrifol.

Rydym yn cyhoeddi canlyniadau ein hymchwiliadau am y BBC yn ein Bwletinau Broadcast and On Demand. Byddwn yn barnu bod mater wedi torri ein rheolau, wedi’i ddatrys neu ddim wedi torri ein rheolau. Mae archif o’n Bwletinau Broadcast and On Demand ar gael er gwybodaeth.

Rydym yn cadw’r penderfyniadau hyn ar gofnodion cydymffurfio'r BBC. Os bydd y BBC yn torri’r rheolau dro ar ôl tro neu mewn ffordd sydd – yn ein barn ni – yn ddifrifol, mae gan Ofcom y pwerau cyfreithiol i osod sancsiynau arno. Mae’r sancsiynau posib yn cynnwys rhoi dirwy. Rydym yn cyhoeddi pob Penderfyniad am Sancsiynau ar ein gwefan..

Rydym wedi rhoi esboniad byr o’r broses isod. Fodd bynnag, darllenwch ein gweithdrefnau manwl i gael y wybodaeth lawn.

Rydym yn eich annog i ddilyn gweithdrefnau cwyno’r BBC yn gyntaf. Gallwch wneud hynny drwy fynd i dudalen gwyno’r BBC.

Os ydych chi am gyflwyno’r math hwn o gŵyn i Ofcom, dylech wneud hynny o fewn 20 diwrnod gwaith i’r dyddiad y cafodd y rhaglen ei darlledu, neu’r dyddiad diwethaf yr oedd y rhaglen ar gael ar BBC iPlayer.

Cofiwch mai’r gŵyn yw’ch unig gyfle i egluro’ch achos i Ofcom. Felly, rhowch yr holl fanylion i ni ynghylch pam rydych chi’n credu bod y rhaglen yn annheg â chi a/neu fod y rhaglen wedi tarfu ar eich preifatrwydd. Dylai’ch cwyn gynnwys enghreifftiau perthnasol o sut a pham mae hyn wedi achosi annhegwch i chi a/neu wedi tarfu ar eich preifatrwydd.

Ar ôl i ni gael eich cwyn (byddwn yn cyfeirio ati fel cwyn yn ymwneud â thegwch a phreifatrwydd) gallwn wneud Penderfyniad Ystyriaeth (h.y. ystyried a allwn fwrw ymlaen â’r gŵyn er mwyn ymchwilio iddi) ar sail y ffactorau yn y Gweithdrefnau ar gyfer gwneud cwyn yn ymwneud â thegwch a phreifatrwydd. Byddwn yn anfon copi o’n Penderfyniad Ystyriaeth atoch chi. Mae pob ymchwiliad i gŵyn yn ymwneud â thegwch a phreifatrwydd a ystyriwyd yn ddiweddar yn cael ei gynnwys yn rhestr Ofcom o ymchwiliadau newydd, sy’n cael ei chyhoeddi bob wythnos.

Os byddwn yn penderfynu na allwn ystyried eich cwyn, bydd yr achos yn cael ei gau.

Os byddwn yn penderfynu y gallwn ystyried eich cwyn, byddwn yn gofyn i’r BBC ymateb iddi ac wedyn yn ystyried yr achos a gyflwynwyd gennych chi a'r BBC. Gan ddefnyddio’r wybodaeth hon, byddwn yn ystyried y gŵyn yn ofalus i lunio Safbwynt Rhagarweiniol ynghylch a yw ein rheolau tegwch a phreifatrwydd wedi cael eu torri. Bydd copi o’r Safbwynt Rhagarweiniol yn cael ei anfon atoch chi a’r BBC, a bydd y BBC a chithau yn cael cyfle i wneud sylwadau arno cyn i ni wneud penderfyniad terfynol (y Dyfarniad), a fydd yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan.

Mae ymchwiliad yn broses ffurfiol sy’n gallu cymryd cryn dipyn o amser, gan ddibynnu ar ba mor gymhleth yw’r materion dan sylw. Cofiwch y bydd angen i ni gysylltu â chi yn ystod ymchwiliad, ac y bydd angen i ni ofyn am wybodaeth ychwanegol gennych chi o bosib. Os na fyddwch chi’n cyflwyno’r wybodaeth honno erbyn y dyddiad cau gofynnol, mae’n bosib y byddwn yn cymryd bod hynny’n golygu nad ydych am i ni fwrw ymlaen â’ch cwyn mwyach, a byddwn felly’n cau’r achos.

Cofiwch hefyd y gall y BBC, drwy Ofcom, awgrymu ffordd o ddatrys eich cwyn unrhyw bryd yn ystod y cam ystyried neu ymchwilio. Er enghraifft, efallai y bydd y BBC yn cynnig anfon llythyr o ymddiheuriad atoch chi neu olygu rhan benodol o’r rhaglen cyn ei hailddarlledu. Os bydd y BBC yn gwneud cynnig o’r fath, byddwn yn ei drosglwyddo i chi. Os byddwch chi’n derbyn y cynnig hwn, byddwn yn cymryd bod y gŵyn wedi cael ei datrys a bydd yr achos yn cael ei gau.

Mewn amgylchiadau eithriadol, gall Ofcom hefyd lansio ymchwiliadau tegwch a phreifatrwydd pan na fydd cwyn wedi dod i law gan wyliwr neu wrandäwr.

Byddwn bob amser yn cyhoeddi Dyfarniad terfynol llawn pob cwyn yn ymwneud â thegwch a phreifatrwydd y byddwn yn ei hystyried. Fel arfer bydd y Dyfarniad yn cynnwys eich enw fel yr achwynydd (oni bai y byddai cyhoeddi’ch enw ynddo’i hun yn annheg â chi neu’n tarfu ar eich preifatrwydd).

Bydd y Dyfarniad terfynol ar gŵyn naill ai’n ei chadarnhau, ei chadarnhau’n rhannol neu ddim yn ei chadarnhau. Bydd y Dyfarniad yn cael ei gyhoeddi mewn Bwletin Broadcast and On Demand ar ein gwefan. Ewch i’n harchif o Fwletinau Broadcast and On Demand i weld enghreifftiau o Ddyfarniadau tegwch a phreifatrwydd blaenorol.

Cofiwch nad oes adolygiad mewnol na phroses apelio ar gyfer Dyfarniadau terfynol.

Os bydd Ofcom yn cadarnhau eich cwyn, cofiwch nad yw hynny o reidrwydd yn golygu y bydd yn rhaid i’r BBC ddarlledu crynodeb o benderfyniad Ofcom. Hefyd, ni all Ofcom fynnu bod y BBC: yn darlledu cywiriad neu ymddiheuriad; yn golygu’r rhaglen cyn iddi gael ei hailddarlledu o gwbl; nac yn talu iawndal i chi.

Rydym yn cadw ein holl benderfyniadau ar gofnodion cydymffurfio'r BBC. Os bydd y BBC yn torri’r rheolau dro ar ôl tro neu mewn ffordd sydd – yn ein barn ni – yn ddifrifol, mae gan Ofcom y pwerau cyfreithiol i osod sancsiynau arno. Mae’r sancsiynau posib yn cynnwys rhoi dirwy. Ewch i’n tudalen Penderfyniadau am Sancsiynau i ddarllen am benderfyniadau blaenorol ynghylch sancsiynau.

Y BBC sy'n gyfrifol am safonau golygyddol ei ddeunydd ar-lein, yn unol â'i Siarter a Chytundeb a osodwyd gan y Llywodraeth a'r Senedd.

Dylech wneud cytundeb am ddeunydd ar-lein i'r BBC yn gyntaf. Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd cafodd eich cwyn ei datrys gan y BBC; gallwch ofyn am farn annibynnol Ofcom.

Gallwn ni ystyried eich cwyn ac ymateb y BBC iddi, os ydyw'n ymwneud â chynnwys ar wefan y BBC neu apiau. Mae hyn yn cynnwys testun ysgrifenedig, delweddau a deunydd fideo a sain. Nid yw'n cynnwys y cyfryngau cymdeithasol. Bitesize. deunydd y BBC ar wefannau trydydd parti a chynnwys y World Service.

Os ydy eich cwyn yn ymwneud â rhywbeth wnaethoch chi weld neu ei glywed ar BBC iPlayer -lle mae'n rhaid i raglenni cydymffurfio gyda'n Cod Darlledu -defnyddiwch ein ffurflen gwyno.

Rydym yn asesu'r holl gwynion rydym yn eu derbyn am ddeunydd ar-lein y BBC. Os ydym o'r farn bod cwyn yn codi mater o bwys a ddylid ei ystyried ymhellach, gallwn gynnig barn os wnaeth y BBC gydymffurfio â'i ganllawiau golygyddol yn y deunydd ar-lein. Bydd ein barn ac unrhyw argymhellion, yn cael eu hanfon at y BBC a'u cyhoeddi ar wefan Ofcom. Bydd y BBC yn ystyried safbwyntiau Ofcom a byddwn ni'n penderfynu os oes angen gweithredu ymhellach.

Cewch ragor o wybodaeth am gwynion sy'n ymwneud â deunydd ar-lein y BBC yn ein crynodeb am weithdrefnau ymdrin â chwynion

Os oes gennych chi gŵyn am gystadleuaeth deg ac effeithiol mewn perthynas â’r BBC, cyflwynwch y gŵyn honno i BBCCompetitionComplaints@ofcom.org.uk I gael rhagor o wybodaeth am yr elfen hon, darllenwch weithdrefnau perthnasol Ofcom

Yn ôl i'r brig