
Bydd plant yn y DU yn gallu byw bywyd mwy diogel ar-lein o dan fesurau diogelu newydd Ofcom sy’n gosod safonau diogelwch newydd uchelgeisiol i gwmnïau technoleg.
Ofcom yw rheoleiddiwr diogelwch ar-lein y DU ac mae diogelu plant yn flaenoriaeth iddo. Rydym yn benderfynol o wneud y byd ar-lein yn lle gwell iddyn nhw – ac i roi tawelwch meddwl i rieni y bydd eu plant yn cael eu diogelu’n well rhag y risgiau posibl.
Mae treulio amser ar-lein yn rhan o fywyd bob dydd i bawb yn y DU – gan gynnwys plant. Rydym yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae plant a theuluoedd yn ei gael o ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, ac rydym wedi siarad â llawer o blant a rhieni wrth lunio’r disgwyliadau rydym yn eu gosod ar gwmnïau.
Rydym eisiau i blant allu mwynhau manteision bod ar-lein, gan roi sicrwydd i rieni y bydd gwasanaethau fel gwefannau, llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, gemau ac apiau yn fwy cyfrifol nag erioed am wneud yn siŵr bod mannau ar-lein yn fwy diogel i’r plant sy’n eu defnyddio.
Dyna pam ein bod wedi gosod y mesurau newydd hyn y mae’n rhaid i wasanaethau ar-lein eu rhoi ar waith i wella eu mesurau diogelwch, yn enwedig i ddiogelu plant. Mae hynny’n golygu atal plant rhag dod ar draws y cynnwys mwyaf niweidiol sy’n ymwneud â hunanladdiad, hunan-niweidio, anhwylderau bwyta, a phornograffi. Rhaid i safleoedd ac apiau hefyd weithredu i ddiogelu plant rhag deunydd sy’n gysylltiedig â chasineb at fenywod a deunydd treisgar, cas neu sarhaus, bwlio ar-lein a heriau peryglus.
Dyma’r camau diweddaraf yn ein gwaith diogelwch ar-lein, ac mae rhagor ar y gweill. Rydym yn gwerthfawrogi na fydd y mesurau hyn yn datrys holl broblemau’r byd ar-lein, ond rydym yn hyderus y byddan nhw’n helpu i gymryd cam mawr ymlaen o ran diogelwch ar-lein i blant yn y DU. Dyna ein haddewid i rieni.
Sut bydd eich plant yn cael eu cadw’n fwy diogel?
Mae ein rheolau’n cynnwys nifer o fesurau a fydd yn helpu i wella diogelwch i bawb sydd dan 18 oed pan fyddan nhw ar-lein.
- Gwiriadau oedran effeithiol. Rhaid i lwyfannau roi gwiriadau oedran cadarn ar waith i atal plant rhag cael gafael ar gynnwys niweidiol, gan gynnwys pornograffi, anhwylderau bwyta, hunan-niweidio a chynnwys am hunanladdiad.
- Ffrydiau mwy diogel. Ni chaiff algorithmau argymell cynnwys niweidiol i blant yn eu ffrydiau.
- Gweithredu’n gyflym. Rhaid i bob safle ac ap fod â phrosesau ar waith i adolygu, asesu a mynd i’r afael yn gyflym â chynnwys niweidiol pan fyddant yn dod i wybod amdano.
- Mwy o ddewis a chefnogaeth. Mae’n rhaid i safleoedd ac apiau roi mwy o reolaeth i blant dros eu profiad ar-lein. Mae hyn yn cynnwys caniatáu iddynt nodi pa gynnwys nad ydynt yn ei hoffi, derbyn neu wrthod gwahoddiadau i sgyrsiau grŵp, rhwystro a thewi cyfrifon ac analluogi sylwadau ar eu postiadau eu hunain. Rhaid cael gwybodaeth gefnogol i blant a allai fod wedi dod ar draws, neu fod wedi chwilio am, gynnwys niweidiol.
- Trefn haws i riportio a chwyno. Rhaid iddi fod yn hawdd i blant riportio cynnwys neu gwyno am lwyfan, a dylai darparwyr ymateb drwy gymryd y camau priodol. Rhaid i’r telerau gwasanaeth hefyd fod yn ddigon clir i’r plant allu eu deall.
- Mwy o gyfrifoldeb. Rhaid i bob gwasanaeth enwi person sy’n gyfrifol am ddiogelwch plant, a dylai uwch gorff gynnal adolygiad blynyddol o’r mesurau diogelwch sydd ganddynt ar waith.
Mae’r mesurau hyn yn adeiladu ar y rheolau eraill sydd ar waith i ddiogelu defnyddwyr, gan gynnwys plant, rhag niwed anghyfreithlon ar-lein - fel meithrin perthynas amhriodol.
Yn hollbwysig, does dim ots ble mae cwmni: os oes modd i blant yn y DU gael gafael wefan neu ap, mae’r cyfreithiau’n berthnasol – ac rydym yn barod i’w gorfodi.
Beth allwch chi ei wneud fel rhiant
Rydym yn gwerthfawrogi efallai eich bod yn poeni am ddiogelwch eich plant ar-lein. Ac rydym hefyd yn gwybod bod y rhan fwyaf o blant wedi dod ar draws cynnwys a gweithgarwch niweidiol ar-lein. Mae’n gallu cael effaith ddifrifol ar lesiant corfforol a meddyliol plant.
Er bod y cwmnïau technoleg yn gyfrifol am gadw plant yn ddiogel – ac rydym ni’n eu dal i gyfrif i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud hynny – dyma ambell awgrym i helpu rhieni i reoli’r risgiau i’w plant ar-lein:
- Siaradwch yn rheolaidd â’ch plant am yr hyn maen nhw’n ei wneud pan fyddan nhw ar-lein. Anogwch nhw i ddweud wrthych chi os ydyn nhw wedi gweld rhywbeth ar-lein sy’n niweidiol yn eu barn nhw.
- Gwnewch yn siŵr bod eich plant yn cofrestru â gwasanaethau ar-lein gan ddefnyddio eu hoedran go iawn, er mwyn helpu i’w hatal rhag cael gafael ar gynnwys sy’n addas i unigolion hŷn yn unig.
- Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod sut mae riportio cynnwys amhriodol neu niweidiol, sut mae rhwystro cyfrifon sy’n ei rannu a’u hannog i beidio â’i rannu eu hunain. Os yw’r cynnwys yn anghyfreithlon, rhowch wybod i’r heddlu. Ni all Ofcom ddelio â chwynion unigol am gynnwys ar-lein.
- Mae Rheolaethau rhieni yn adnodd defnyddiol, sy’n eich helpu i fonitro a chyfyngu ar yr amser mae eich plant yn ei dreulio ar-lein, a’r hyn maen nhw’n ei wneud pan fyddan nhw yno.
Mae amrywiaeth o adnoddau defnyddiol ar gael hefyd gan wahanol sefydliadau:
- Mae gan The Safer Internet Centre – y corff sy’n gyfrifol am Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, y mae Ofcom yn ei gefnogi – wybodaeth i’ch helpu i gadw eich plant yn ddiogel ar-lein.
- Mae gan yr NSPCC hefyd hyb diogelwch ar-lein sy’n cynnwys cyngor i rieni ac i blant, gan gynnwys awgrymiadau ar sut i siarad â’ch plant am ddiogelwch ar-lein.
- Mae Internet Matters yn cynnig gwybodaeth a chyngor i rieni ac i ofalwyr i helpu eu plant i fynd i’r afael â’r byd digidol – gan gynnwys pecyn cymorth digidol y gallwch ei deilwra yn ôl anghenion eich teulu.
Beth yw’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein?
Mae mesurau heddiw yn rhan o’r rheolau diogelwch ar-lein ehangach. Mae’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn gyfres newydd o gyfreithiau sy’n diogelu pawb rhag cynnwys anghyfreithlon ar-lein, ac sy’n diogelu plant rhag cynnwys niweidiol.
Mae’n gwneud cwmnïau technoleg yn gyfreithiol gyfrifol am ddiogelwch eu defnyddwyr. Ac mae’n rhoi pwerau i Ofcom fel rheoleiddiwr diogelwch ar-lein i orfodi’r cyfreithiau hyn – gan gynnwys cymryd camau yn erbyn cwmnïau nad ydynt yn cydymffurfio â’u dyletswyddau diogelwch ar-lein.
Bydd pob safle ac ap y gallai plant eu defnyddio – p’un a ydynt yn cael eu defnyddio ar ffôn clyfar, tabled, cyfrifiadur neu lwyfan gemau – yn gorfod ddilyn ein rheolau newydd, er mwyn i blant gael profiadau mwy diogel ar-lein.
Ydy’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn atal plant rhag defnyddio cyfryngau cymdeithasol?
Nid yw’r ddeddf yn gwahardd plant rhag cyfryngau cymdeithasol, ac nid yw’n pennu isafswm oedran iddynt eu defnyddio. Mae’n dweud bod yn rhaid i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol orfodi eu cyfyngiadau oedran yn gyson a diogelu eu defnyddwyr sy’n blant – ond dylai rhieni fod yn ymwybodol nad oes gan rai gwefannau ac apiau poblogaidd unrhyw ofynion oedran sylfaenol i’w defnyddwyr.
Ac er ein bod yn gwerthfawrogi bod cryn drafod wedi bod ynghylch a ddylai plant - neu pryd y dylai plant - allu bod yn berchen ar ffonau clyfar, nid yw’r ddeddf yn delio â hyn felly nid oes gan Ofcom unrhyw bwerau cyfreithiol yn y maes hwn.
Ond bydd y newidiadau y bydd yn rhaid i safleoedd ac apiau eu gwneud o ganlyniad i’n rheolau, yn sicrhau bod plant o bob oed yn fwy diogel ar-lein.