Diogelu eich plentyn yn y byd digidol

Cyhoeddwyd: 22 Mawrth 2021

Mae mynd ar-lein a gwylio teledu yn rhan o fywyd pob dydd plant.

Yn aml, mae gan blant eu dyfeisiau cyfryngau a’u setiau teledu eu hunain, ac mae gwefannau a theclynnau newydd yn ymddangos byth a hefyd.

Dydi hi ddim yn hawdd cadw eich gwybodaeth yn gyfoes am bopeth ac mae'r llinell rhwng annog a diogelu yn fain iawn.

Efallai bod cynnwys anaddas ar y rhyngrwyd ac ar y teledu dydych chi ddim am i’ch plentyn ei weld.

Ond mae’n bosibl cymryd camau i ddiogelu eich plentyn rhag y peryglon posibl ac mae'r canllaw hwn yn esbonio sut mae gwneud hyn.

Mae ein hymchwil yn dangos bod mwy o rieni’n poeni am yr hyn mae eu plant yn ei wneud a’i weld ar y cyfryngau maent yn eu defnyddio nawr nag yr oedd yn 2016. Serch hynny, mae yna lawer o bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu i ddiogelu eich plentyn.

Gosod PIN ar eich gwasanaeth Teledu

Mae'r mwyafrif o bobl yn gallu gosod PIN yn wirfoddol ar eu set teledu neu ar eu gwasanaeth teledu i gyfyngu ar fynediad plant i gynnwys anaddas. Dylai eich darparwr gwasanaeth Teledu neu wneuthurwr eich Teledu roi cyngor i chi ar sut i wneud hyn.  Gallwch hefyd osod PIN ar wasanaethau dal-i-fyny a gwasanaethau ar-alwad. Mae rhagor o wybodaeth am osod PIN a rheolyddion eraill ar gael yn y ddogfen canllaw i rieni ar ddulliau rheoli gan Internet Matters.

Ewch ati i ymgyfarwyddo â’r gwefannau y mae plant yn eu defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae gan lawer o wefannau cyfryngau cymdeithasol ofynion o ran isafswm oedran ar gyfer eu defnyddio.

Er enghraifft, 13 yw'r oed yng nghyswllt Facebook a WhatsApp. Gwiriwch y gofyniad isafswm oedran ar gyfer yr apiau a’r gwefannau cyfryngau cymdeithasol y mae eich plentyn yn eu defnyddio ac ystyried a ydych chi’n hapus iddyn nhw weld y math o gynnwys sydd ar gael drwyddynt. I ddysgu mwy am y rhwydweithiau cymdeithasol y mae plant yn eu defnyddio, ewch i NetAware, arweiniad yr NSPCC i wefannau cyfryngau cymdeithasol.

Gosodwch hidlyddion cynnwys er mwyn diogelu'r dyfeisiau sydd gennych yn eich cartref.

Gallwch osod hidlyddion cynnwys i helpu i rwystro eich plant rhag gweld cynnwys anaddas ar-lein. Gallwch wneud hyn drwy feddalwedd rheoli ar gyfer rhieni sy’n cael ei osod ar ddyfais benodol, neu hidlyddion ar lefel rhwydwaith y mae eich darparwr gwasanaeth rhyngrwyd yn eu cynnig ac sy’n diogelu pob dyfais sy’n cael ei defnyddio ar eich gwasanaeth band eang gartref.  Gall eich darparwr gwasanaeth rhyngrwyd roi gwybodaeth i chi am sut mae mynd ati i osod hidlyddion cynnwys. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar y ddogfen canllaw i rieni ar ddulliau rheoli gan Internet Matters.

Meddyliwch am reolyddion neu osodiadau ar eich dyfeisiau

Mae rheolyddion a gosodiadau eraill ar gael y gallwch eu defnyddio ar y dyfeisiau y mae eich plant yn eu defnyddio. I gael gwybod sut mae rhoi nodweddion diogelwch ar ddyfeisiau, edrychwch ar y ddogfen Saesneg allanol Canllaw i Rieni ar Dechnoleg yr UK Safer Internet Centre.

Siaradwch gyda’ch plnant am gadw eu hunain yn ddiogel ar-lein

Hyd yn oed os ydych chi wedi gosod PIN a hidlyddion, mae’n bosibl y bydd plant yn dal yn gallu gweld cynnwys y byddai’n well gennych chi iddyn nhw beidio â’i weld. Sgwrsiwch gyda’ch plant am beth maen nhw’n ei wneud ar-lein a beth i'w wneud os ydyn nhw’n gweld pethau sy’n eu hypsetio. Edrychwch ar syniadau ar gyfer dechrau sgwrs Childnet neu wefan ShareAware yr NSPCC am awgrymiadau a syniadau ynghylch sut i ddechrau sgwrs gyda'ch plentyn am beth maen nhw’n ei weld neu'n ei wneud ar-lein.

Byddwch yn ymwybodol o seiberfwlio

Bydd deall peryglon seiberfwlio hefyd yn eich helpu i gadw eich plentyn yn ddiogel ar-lein. Mae help a chefnogaeth ar gael ar y gwefannau allanol Saesneg hyn:

Helpu eich plentyn i adnabod stori newyddion ffug

Mae ‘newyddion ffug’ yn fwy cyffredin nag erioed. Gall Becyn Cymorth Full Fact helpu eich plentyn i wahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen.

Yn ôl i'r brig