Porth trwyddedu Ofcom ar gyfer radio awyrennau, radio amatur a radio llongau

Cyhoeddwyd: 4 Gorffennaf 2024

Defnyddiwch borth trwyddedu Ofcom i wneud cais am drwydded radio awyrennau, radio amatur neu radio llongau. Gallwch hefyd ddefnyddio’r porth i reoli eich trwydded bresennol.

Hysbysiad Cyffredinol

Ar 11 Rhagfyr 2023, fe wnaethom gyhoeddi Hysbysiad Cyffredinol ar ein gwefan. Mae’r hysbysiad yn rhybuddio ein bod yn bwriadu amrywio telerau ac amodau trwyddedau radio amatur er mwyn eu cysoni â’r newidiadau rydym wedi’u gwneud fel rhan o’n hadolygiad o’r fframwaith trwyddedu radio amatur. Nod y newidiadau hyn yw sicrhau bod radio amatur yn gallu parhau i ffynnu a bod yn rhan fywiog a gwerthfawr o’r dirwedd gyfathrebu ehangach am flynyddoedd i ddod.

Darllen rhagor o wybodaeth am yr hysbysiad cyffredinol a’r broses amrywio.

Cofrestru neu fewngofnodi

Cwsmeriaid newydd

Cofrestrwch gyda chyfeiriad e-bost dilys drwy ddilyn y ddolen isod.

Mewngofnodi neu gofrestru

Cwsmeriaid presennol

Os ydych wedi cofrestru’n flaenorol ar yr hen borth gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost fel yr enw defnyddiwr, cofrestrwch eto  gan ddefnyddio'r un e-bost.

Os nad ydych yn gallu cofio neu os ydych wedi newid eich e-bost, cysylltwch â ni er mwyn i ni allu newid eich manylion er mwyn i chi allu cofrestru.

Os ydych wedi mewngofnodi o'r blaen gan ddefnyddio enw defnyddiwr a gynhyrchwyd gan Ofcom, cysylltwch â ni gyda’r wybodaeth ganlynol:

  •  cyfeiriad e-bost dilys
  •  rhif trwydded cyfredol
  •  arwydd galw a’ch cod post

Mewngofnodi neu gofrestru

Guide to using the online licensing portal for aircraft, amateur and ships radio licences (PDF, 460.8 KB)

Defnyddiwch ein porth ar-lein i wneud cais am drwydded awyrennau newydd. Gallwch hefyd ddefnyddio’r porth i wneud y canlynol:

  • rheoli eich manylion personol
  • rheoli pob trwydded awyren
  • cofrestru ar ran sefydliad

Gwneud cais ar ran sefydliad

I wneud cais ar ran sefydliad, bydd angen i chi gofrestru ar-lein fel defnyddiwr newydd.

Wrth wneud cais am drwydded awyren, nodwch fod y drwydded ar gyfer sefydliad.

Os oes gan y sefydliad rydych yn gwneud cais ar ei ran drwydded awyren yn barod, cysylltwch â'r tîm Trwyddedu Sbectrwm i roi cyfeiriad e-bost dilys iddyn nhw. Bydd hyn yn caniatáu i chi gofrestru eto, a chael gafael ar y trwyddedau rydych yn gyswllt ar eu cyfer o dan y cyfrif hwn

Ar ein system ar-lein, gallwch wneud cais am y canlynol a’u rheoli:

  • eich gwybodaeth bersonol
  •  pob trwydded Radio Amatur, gan gynnwys trwyddedau clwb
  • hysbysiad o amrywiad mewn Gorsafoedd Digwyddiadau Arbennig

HAREC

Rhaid i Amaturiaid Radio’r DU a fyddai’n hoffi gwneud cais am drwydded radio amatur mewn gwlad arall sy’n cymryd rhan yn Argymhelliad CEPT T/R 61/02 gael HAREC y DU

Mae HAREC y DU bellach yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â phob tystysgrif pasio arholiad llawn a gyhoeddir yn y DU. Mae CEPT ar wahân i’r UE. Felly, bydd y trefniadau hyn yn parhau am gyfnod amhenodol, y tu hwnt i 31 Rhagfyr 2020.

Hysbysiad Amrywiad

Gallwch nawr wneud cais am NoV Digwyddiad Arbennig a’i dyfarnu drwy’r 
System Trwyddedu Ar-lein.
.

Applying for Special Event Station Notice of Variations Online User Guide. (PDF, 504.1 KB)

I wneud cais am y NoVs canlynol, bydd angen i chi lenwi ffurflen gais a’i hanfon at y tîm Trwyddedu Sbectrwm drwy'r post neu dros e-bost.

  • Hysbysiad Amrywiad Gorsaf Digwyddiad Arbennig
  • Hysbysiad Amrywiad Gorsaf Digwyddiad Arbennig 

OfW287 Application for a Notice of  Variation (NoV) for a Special Event Call sign PDF, 35.9 KB

  • Trwydded Ymchwil Arbennig

OfW306 Application for an Amateur Radio Special Research Permit  PDF, 28.9  KB

Special Event Stations in 2016  PDF, 26.7 KB

Trefniadau ar gyfer Gorsafoedd Digwyddiadau Arbennig i nodi canmlwyddiant Sgowtiaid y Cybiaid a digwyddiadau’r Rhyfel Mawr

Amrywiad ar gyfer Arwydd Galw Cystadleuaeth Arbennig

Mae’r RSGB yn prosesu ceisiadau am arwyddion galw Cystadleuaeth Arbennig ar gyfer Ofcom, er mai penderfyniad Ofcom yw a ddylid caniatáu amrywiad ai peidio.

Ceisiadau drwy’r post

Cofiwch fod ceisiadau drwy’r post yn cynnwys ffi weinyddol o £20 ar gyfer ymgeiswyr dan 75 oed.

Amateur radio licence application form (PDF, 645.5 KB)

Amendment to an amateur radio licence (PDF, 758.2 KB)

Gan ddefnyddio ein system ar-lein, gallwch wneud cais am y canlynol a’u rheoli:

  • eich gwybodaeth bersonol
  •  pob trwydded radio llongau/radio symudol llongau
  • cofrestriadau ar-lein ar ran sefydliadau

Gwneud cais ar-lein ar ran sefydliad

  • Bydd angen i chi gofrestru ar-lein fel defnyddiwr newydd
  • Wrth wneud cais am drwydded radio llongau/radio symudol llongau, nodwch fod y drwydded ar gyfer sefydliad
  •  Os oes gan y sefydliad rydych yn gwneud cais ar ei ran drwydded radio llongau yn barod, cysylltwch â’r tîm trwyddedu sbectrwm i gael eich rhif cwsmer gan y bydd hyn yn ofynnol gyda’r broses ymgeisio ar-lein
  • Os oes gennych gyfrif ar ran sefydliad yn barod, bydd angen i chi gysylltu â'r tîm Trwyddedu Sbectrwm i roi cyfeiriad e-bost dilys iddyn nhw. Bydd hyn yn eich galluogi i gofrestru eto, a chael gafael ar y trwyddedau rydych yn gyswllt ar eu cyfer o dan y cyfrif hwn

ATIS

Os oes angen rhif ATIS arnoch, gallwch ychwanegu'r rhif hwn at eich trwydded radio llongau. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw diwygio eich trwydded ac ychwanegu un neu fwy o ddarnau o offer ATIS.

Ffurflenni ac adnoddau y gellir eu llwytho i lawr ar gyfer radio llongau

Ships radio: guidance notes for licensees (PDF, 532.7 KB)

Group MMSI request form  (PDF, 56 kB)

OfW347: Ships Radio Application Form (PDF, 1.8 MB)

OfW347a: Ships Radio Amendment and Surrender Form (PDF, 654.0 KB)

Mae gennym nifer o opsiynau i’ch cefnogi ar-lein, gan gynnwys:

  • Fy Nghyfrif - Mae’n eich galluogi i reoli eich cyfrif ar-lein, gwneud cais am drwyddedau ychwanegol neu ildio ac amrywio trwyddedau presennol. Sylwch y dylech ildio trwyddedau diangen neu efallai y bydd Ofcom yn ymweld â chi am eich bod yn defnyddio’r sbectrwm radio yn anghyfreithlon.
  • Cymorth a Chefnogaeth – Dod o hyd i atebion defnyddiol a chanllawiau cam wrth gam, neu gysylltu â ni dros e-bost neu dros y ffôn.

Guide to using the online licensing portal for aircraft, amateur and ships radio licences (PDF, 460.8 KB)

  • Fel rhan o raglen barhaus i adnewyddu'r system, cynyddu swyddogaethau ar-lein a gwella profiad cwsmeriaid
  • Sicrhau bod ein Gwasanaethau Ar-lein yn ddiogel ac yn gyfleus.
  • Er mwyn i chi allu cadw eich newidiadau a dod yn ôl yn nes ymlaen i gwblhau eich cyflwyniad, gan helpu’r broses i weithio o’ch cwmpas chi.
  • Sicrhau ein bod yn casglu gwybodaeth gywir a chyflawn am geisiadau

Fel gydag unrhyw broses uwchraddio, ni allwn ddiystyru’r posibilrwydd o rai mân ddiffygion a allai effeithio ar nifer y galwadau rydym yn eu cael. Byddwn yn gwneud ein gorau i ymateb i alwadau a negeseuon e-bost cyn gynted â phosibl, ond gall hyn gymryd mwy o amser nag arfer. Hoffem ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a diolch i chi am eich amynedd.

Y Porth Trwyddedu Amatur a Llongau yw cam cyntaf rhaglen adnewyddu barhaus a byddem yn gwerthfawrogi adborth ar eich profiad. Anfonwch e-bost atom yn licensing.feedback@ofcom.org.uk. Rydym yn gwerthfawrogi’r holl adborth ond cofiwch na fyddwn yn gallu ymateb i negeseuon e-bost unigol.

Os ydych yn cael trafferth defnyddio’r porth, anfonwch e-bost at y tîm Trwyddedu Sbectrwm yn spectrum.licensing@ofcom.org.uk.

Rate this page

Thank you for your feedback.

We read all feedback but are not able to respond. If you have a specific query you should see other ways to contact us.

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig