Trwyddedau darlledu gwasanaethau radio

Close up of faders on a broadcast radio desk

Radio rhyngrwyd

Radio rhyngrwyd

Ffordd fwy syml o sefydlu gwasanaeth radio yw dechrau gorsaf radio rhyngrwyd/mewnrwyd. Nid ydym yn rheoleiddio gwasanaethau radio ar-lein yn unig, ac felly nid oes angen trwydded gan Ofcom ar y gorsafoedd hyn.

Fodd bynnag, i chwarae unrhyw gerddoriaeth ar orsaf ar-lein, bydd angen y trwyddedau perthnasol arnoch gan yr asiantaethau casglu breindaliadau cerddoriaeth, sef PPL a PRS for Music. Mae’r sefydliadau hyn yn gweithredu ar wahân i Ofcom ac mae angen i chi gysylltu â nhw’n uniongyrchol i gael gwybod a oes unrhyw ofynion neu gostau ychwanegol.

Trwydded Gwasanaethau Ychwanegol

Ar ôl hysbysebu’r Drwydded Gwasanaeth Ychwanegol ym mis Rhagfyr 2021, dyfarnodd Ofcom y drwydded i INRIX UK Ltd. Bydd y drwydded hon yn dod i ben erbyn 30 Ebrill 2031 fan bellaf.

Yn ôl i'r brig