Rheolau diogelwch ar-lein: beth mae angen i chi ei wybod

Cyhoeddwyd: 26 Hydref 2023
Diweddarwyd diwethaf: 26 Hydref 2023

Ofcom yw’r rheoleiddiwr ar gyfer diogelwch ar-lein yn y DU o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Ein rôl yw sicrhau bod gwasanaethau ar-lein, fel gwefannau ac apiau, yn cyflawni eu dyletswyddau i ddiogelu eu defnyddwyr.

Bydd yn rhaid i wasanaethau wedi’u rheoleiddio ddilyn amryw o reolau, gan gynnwys diogelu defnyddwyr rhag cynnwys a gweithgarwch anghyfreithlon ar-lein, a diogelu plant rhag cynnwys a gweithgarwch niweidiol ar-lein. Mae’n bosib y bydd gan rai gwasanaethau ddyletswyddau eraill, a hynny i sicrhau:

  • bod gan bobl ragor o ddewis a rheolaeth dros yr hyn maen nhw’n ei weld ar-lein;
  • bod gwasanaethau’n fwy tryloyw a bod modd eu dal i gyfrif am eu gweithredoedd;
  • bod gwasanaethau’n diogelu rhyddid mynegiant.

Byddwn yn sicrhau bod gwasanaethau wedi’u rheoleiddio yn dilyn y rheolau

Ein rôl yw sicrhau bod gwasanaethau wedi’u rheoleiddio yn cymryd camau priodol i ddiogelu eu defnyddwyr.  Nid ydym yn mynnu bod cwmnïau’n tynnu negeseuon, lluniau neu fideos, na chyfrifon penodol. Ein rôl ni yw adeiladu bywyd mwy diogel ar-lein drwy wella’r systemau mae cwmnïau’n eu defnyddio i atal niwed.

Bydd gennym amrywiaeth o adnoddau i sicrhau bod gwasanaethau’n dilyn y rheolau. Ar ôl ymgynghori arnynt, byddwn yn gosod codau ymarfer ac yn darparu arweiniad ar sut gall gwasanaethau gyflawni eu dyletswyddau. Daw’r rheolau newydd i rym pan fydd Senedd y DU wedi cymeradwyo’r codau a’r arweiniad.

O dan y rheolau newydd, bydd gennym bwerau i gymryd camau gorfodi, gan gynnwys rhoi dirwyon i wasanaethau os nad ydynt yn cyflawni eu dyletswyddau. Nid yw ein pwerau wedi’u cyfyngu i ddarparwyr gwasanaethau yn y DU.

Wrth gyflawni ein cyfrifoldebau rheoleiddio, rydym bob amser yn ystyried hawliau defnyddwyr i breifatrwydd a rhyddid mynegiant.

Mae’r rheolau’n wahanol ar gyfer gwahanol fathau o wasanaethau ar-lein

Defnyddiwch y tabiau isod i weld pa reolau sy’n berthnasol i bob math o wasanaeth:

Rhoi gwybod am rywbeth rydych chi wedi’i weld ar-leine

Cysylltu â’r gwasanaeth gyntaf

Mae llawer o wasanaethau ar-lein eisoes yn darparu ffyrdd i chi roi gwybod am gynnwys neu ymddygiad niweidiol, neu i gwyno am rywbeth rydych chi wedi’i weld. Os oes gennych broblem gyda rhywbeth rydych chi wedi’i weld neu ei brofi ar wasanaeth ar-lein, dylai rhoi gwybod yn uniongyrchol i’r gwasanaeth fod yn gam cyntaf.

Os ydych chi wedi gwneud hynny ac yn dal yn bryderus, gallwch roi gwybod i Ofcom.

Ni allwn ymateb i gwynion unigol nac ymchwilio iddynt

Er na allwn ymateb i’ch cwyn, bydd yn ein helpu i asesu a yw gwasanaethau wedi’u rheoleiddio yn gwneud digon i ddiogelu eu defnyddwyr – ac a ddylem gymryd unrhyw gamau.

Gallwch gwyno i ni am wasanaethau ar-lein wedi’u rheoleiddio. Mae gwasanaethau ar-lein wedi’u rheoleiddio yn cynnwys:

  • gwefannau ac apiau sy’n lletya cynnwys wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddwyr (fel cyfryngau cymdeithasol);
  • peiriannau chwilio;
  • gwasanaethau gyda chynnwys pornograffig;
  • llwyfannau rhannu fideos.

Ffoniwch 999 mewn argyfwng sy’n peryglu bywyd

Dylech ffonio’r heddlu pan fydd trosedd yn digwydd, neu pan fydd rhywun mewn perygl uniongyrchol.

Ffynonellau cymorth eraill

Mae llinellau cymorth a gwasanaethau cymorth sy’n gallu eich helpu os ydych chi wedi gweld cynnwys anghyfreithlon, niweidiol neu sy’n peri gofid ar-lein.

Rate this page

Thank you for your feedback.

We read all feedback but are not able to respond. If you have a specific query you should see other ways to contact us.

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig