A person talking into a studio microphone

Mae Ofcom yn cynnig rhoi’r golau gwyrdd i dair gorsaf BBC DAB+ newydd, ond dim gorsaf Radio 2 ychwanegol na Radio 5 Sports Extra estynedig

Cyhoeddwyd: 10 Ebrill 2025

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi casgliadau dros dro ei asesiadau o gynlluniau’r BBC i lansio pedair gorsaf DAB+ newydd ac i ymestyn oriau Radio 5 Sports Extra.

Cynigion y BBC

Ym mis Tachwedd 2024, cyhoeddodd y BBC gynigion i lansio pedair gorsaf DAB+ newydd: Radio 1 Dance, Radio 1 Anthems, estyniad i Radio 2, a Radio 3 Unwind. Roedd y Gorfforaeth hefyd wedi cyhoeddi cynigion i ymestyn oriau darlledu BBC Radio 5 Sports Extra i fod yn wasanaeth a fyddai’n darlledu’n ddyddiol rhwng 9am a 7pm.

Yn unol â’r broses a nodir yn Siarter a Chytundeb y BBC, mae’n rhaid i’r BBC ac Ofcom wedyn ystyried effeithiau newidiadau ‘sylweddol’ i’w wasanaethau teledu, radio ac ar-lein ar gystadleuaeth.

Roeddem yn cytuno â’r BBC fod ei gynigion yn ‘sylweddol’, a gan eu bod yn codi nifer o faterion dadleuol, penderfynwyd cynnal Asesiadau Cystadleuaeth llawn. Mae’r asesiadau hyn yn asesu a yw gwerth cyhoeddus y cynigion yn cyfiawnhau’r effaith debygol ar gystadleuaeth deg ac effeithiol.

Ein casgliadau dros dro

Ar gyfer gorsafoedd arfaethedig Radio 1 Dance, Radio 1 Anthems a Radio 3 Unwind y BBC, roeddem o’r farn mai cyfyngedig fyddai effaith y gorsafoedd ar gystadleuaeth deg ac effeithiol, a fyddai’n cael ei chyfiawnhau gan werth cyhoeddus y cynigion. Felly, rydym yn dod i’r casgliad dros dro y gallai’r BBC fwrw ymlaen â’i gynlluniau ar gyfer y gorsafoedd hyn.

Roedd y Gorfforaeth hefyd yn cynnig estyniad i BBC Radio 2, a fyddai’n canolbwyntio ar gerddoriaeth a chynnwys o’r archif o’r 50au, y 60au a’r 70au. Roeddem o’r farn y byddai’r orsaf hon yn cynnig rhywfaint o werth cyhoeddus, ond mae’n debyg y byddai’n cael effaith ar weithredwyr masnachol, a fyddai’n arbennig o arwyddocaol ar y Radio Boom annibynnol.

Gallai’r estyniad Radio 2 newydd hefyd atal gweithredwyr radio masnachol rhag ymuno â’r farchnad a lleihau eu cymhellion i fuddsoddi yn fwy cyffredinol, yn enwedig gorsafoedd radio annibynnol a’r rheini sy’n bwriadu gwasanaethu cynulleidfaoedd y mae’r BBC wedi symud oddi wrthynt.

Rydym o’r farn y byddai hyn yn creu effaith niweidiol sylweddol ar gystadleuaeth deg ac effeithiol na fyddai gwerth cyhoeddus y cynnig yn ei chyfiawnhau, ac rydym yn dod i’r casgliad dros dro na chaiff y BBC wneud y newid hwn.

Ar wahân, mae’r BBC yn bwriadu ymestyn oriau darlledu Radio 5 Sports Extra. Roeddem o’r farn bod rhywfaint o werth cyhoeddus mewn dangos cynnwys chwaraeon y BBC i gynulleidfa ehangach, ond nad oedd y BBC wedi cyflwyno digon o dystiolaeth i ddangos y byddai’r newidiadau’n apelio’n benodol at gynulleidfaoedd targed sef pobl iau a dosbarth gweithiol, nid oedd chwaith wedi ymrwymo i roi llawer o sylw i chwaraeon nad ydynt ar hyn o bryd yn cael cymaint o sylw ar y radio.

Gallai ehangu’r orsaf hefyd gael effaith sylweddol ar radio chwaraeon masnachol, yn enwedig y Rhwydwaith talkSPORT. Rydym felly o’r farn dros dro y byddai hyn yn creu effaith niweidiol sylweddol ar gystadleuaeth deg ac effeithiol na fyddai gwerth cyhoeddus y cynnig yn ei chyfiawnhau, ac na chaiff y BBC fwrw ymlaen â’i gynlluniau yn y maes hwn.

Y camau nesaf

Rydym yn croesawu adborth ar ein casgliadau dros dro erbyn 14 Mai 2025, a byddwn yn cyhoeddi ein penderfyniadau terfynol erbyn 4 Gorffennaf.

Yn ôl i'r brig