Sut mae Ofcom yn delio â chwynion yn ymwneud â fideo ar alwad

Cyhoeddwyd: 15 Chwefror 2021

Gallwch ddarllen ein gweithdrefnau manwl am sut rydym yn archwilio achosion o dorri rheolau ar ein gwefan.

Rydym wedi rhoi crynodeb syml o’r broses isod. Fodd bynnag, darllenwch ein gweithdrefnau manwl i gael y wybodaeth lawn.

Os ydy eich cwyn yn ymwneud â gwasanaeth ar-alwad y BBC (h.y. BBC iPlayer), efallai y bydd angen i chi gwyno wrth y BBC yn gyntaf. Os byddwch chi’n anfodlon ag ymateb terfynol y BBC, gallwch gyfeirio’ch cwyn at Ofcom. Darllenwch ein gweithdrefnau manwl i gael y wybodaeth lawn.

Os oes gennych chi gŵyn am raglen ar wasanaeth rhaglenni fideo ar-alwad sy’n cael ei reoleiddio, cysylltwch â darparwr y gwasanaeth. Mae rhestr o ddarparwyr gwasanaeth a ffyrdd o gysylltu â nhw ar gael ar y wefan.

Os byddwch chi’n anfodlon â’r ymateb a gewch chi, neu os na allwch chi ddod o hyd i ddarparwr y gwasanaeth fideo ar-alwad ar y rhestr, gallwch gwyno wrth Ofcom drwy ddefnyddio ein ffurflen gwyno ar gyfer gwasanaethau rhaglenni ar-alwad.

Mae Ofcom yn asesu pob cwyn yn ofalus er mwyn gweld a yw ein rheolau wedi cael eu torri. Gallwch ddarllen mwy am ein rheolau ar ein gwefan.

Os byddwn ni’n penderfynu nad yw’r gŵyn yn codi materion y bydd angen ymchwilio ymhellach iddynt, byddwn yn cau’r achos ac yn cyhoeddi cofnod o’r mater yn ein bwletin Darlledu ac Ar Alwad. Mae’r bwletin yn cael ei gyhoeddi pob pythefnos, a gallwch ei ddarllen ar ein gwefan.

Os byddwn ni’n penderfynu ymchwilio, byddwn yn cynnwys yr achos mewn rhestr o’n hymchwiliadau newydd, sy’n cael ei chyhoeddi yn y Bwletin Darlledu ac Ar Alwad.

Mae ymchwiliad yn broses ffurfiol sy’n gallu cymryd cryn dipyn o amser, gan ddibynnu ar ba mor gymhleth yw’r materion dan sylw.

Gall Ofcom hefyd lansio ymchwiliadau pan na fydd cwyn wedi dod i law.

Rydym yn cyhoeddi canlyniadau ein hymchwiliadau yn ein Bwletin Broadcast and On Demand. Byddwn yn barnu bod mater wedi torri ein rheolau, wedi’i ddatrys neu ddim wedi torri ein rheolau. Gallwch fwrw golwg dros yr archif o Fwletinau Darlledu ac Ar Alwad..

Rydym yn cadw’r penderfyniadau hyn ar gofnodion cydymffurfio darparwyr gwasanaeth. Os bydd darparwr gwasanaeth yn torri’r rheolau dro ar ôl tro neu mewn ffordd sydd – yn ein barn ni – yn ddifrifol, mae gan Ofcom y pwerau cyfreithiol i osod sancsiynau arno. Mae’r sancsiynau posib yn cynnwys dirwy sylweddol neu atal gwasanaeth rhaglenni ar-alwad dros dro. Darllenwch ein penderfyniadau blaenorol am sancsiynau.

Yn ôl i'r brig