
Heddiw, mae Ofcom wedi agor ymchwiliad i weld a yw’r darparwr cyfathrebiadau, Primo Dialler, wedi camddefnyddio rhifau sydd wedi’u hail-neilltuo iddo, gan gynnwys i gyflawni sgamiau.
Mae Ofcom yn dyrannu rhifau ffôn, fel arfer mewn blociau mawr, i gwmnïau telegyfathrebiadau. Mae’r cwmnïau hynny wedyn yn gallu trosglwyddo’r rhifau i gwsmeriaid unigol neu i fusnesau eraill.
Yn unol â rheolau diogelu defnyddwyr Ofcom a chanllawiau’r diwydiant, rhaid i gwmnïau ffôn beidio â chamddefnyddio rhifau sydd wedi cael eu hail-neilltuo iddynt. Rhaid i wasanaethau hefyd sicrhau bod rhifau’n cael eu defnyddio’n gywir yn unol â’r Cynllun Rhifau Ffôn Cenedlaethol.
Rydym wedi casglu gwybodaeth sy’n rhoi rheswm i ni gredu bod y rhifau sydd wedi’u hail-neilltuo i Primo Dialler o bosibl yn cael eu camddefnyddio, gan gynnwys i hwyluso sgamiau.
Bydd ein hymchwiliad yn ceisio canfod a yw Primo Dialler yn cydymffurfio â’i rwymedigaethau – yn benodol Amodau Cyffredinol B1.8, B1.9(b), B1.9(c), ac Adran 138(5) o’r Ddeddf Cyfathrebiadau.
Rhaglen orfodi barhaus Mae’r ymchwiliad hwn yn dod o dan ein rhaglen orfodi a lansiwyd y llynedd, sy’n edrych yn benodol ar sgamiau ffôn a negeseuon testun. Nod y rhaglen hon yw diogelu cwsmeriaid drwy gefnogi arferion gorau o ran defnyddio rhifau ffôn, a sicrhau bod darparwyr yn dilyn rheolau Ofcom.
Os bydd gennym sail resymol dros amau bod ein rheolau wedi cael eu torri, efallai y byddwn yn lansio ymchwiliadau pellach a fydd yn cael eu cyhoeddi ar dudalen ein bwletin gorfodi.