Cwynion am Ofcom

Cyhoeddwyd: 5 Mawrth 2024

Cam un

O dan gam un, rydym yn gofyn yn gyntaf i chi gysylltu â'r tîm yn Ofcom y mae eich cwyn yn ymwneud ag ef, gan amlinellu eich pryderon. Mae hyn rhoi cyfle iddynt ymchwilio i'ch pryderon a, phan fydd angen, cywiro pethau. Yn yr achosion hyn, bydd angen i'n cydweithwyr ddeall, mewn ffordd mor glir a chryno ag sy'n bosib, sut y maent wedi methu â bodloni'r meini prawf uchod yn eich barn chi.

Os byddwch yn cysylltu ag Ysgrifennydd y Gorfforaeth heb gwblhau cam un yn gyntaf, ond bod eich cwyn dod o dan y cylch gwaith, mae'n bosib y bydd Tîm Ysgrifennydd y Gorfforaeth yn cyfeirio eich e-bost at y tîm perthnasol yn Ofcom am ymateb cychwynnol.

Os yw eich cwyn am waith Ofcom yn y Gymraeg neu ein cydymffurfiad â safonau'r Gymraeg, mae angen i chi gwblhau a chyflwyno ein ffurflen gwyno.

Cam dau

Os, ar ôl i chi gwblhau cam un, nad ydych yn credu i'ch cwyn gael ei drin yn briodol, gallwch ofyn i Ysgrifennydd y Gorfforaeth adolygu'r mater. Fel a nodwyd uchod, bydd angen i chi amlinellu'n glir ac yn gryno sut, yn eich barn chi, y mae gweithwyr Ofcom wedi methu â dilyn gweithdrefnau Ofcom a/neu drin eu cyswllt â chi'n briodol. Mae penderfyniad Ysgrifennydd y Gorfforaeth yn derfynol ac nid oes modd symud y mater ymhellach ymlaen o fewn Ofcom.

Camau pellach

Mae Ofcom yn rheoleiddiwr annibynnol ac rydym yn atebol i Senedd y DU. Os ydych wedi cwblhau proses gwynion lawn Ofcom ac nid ydych yn tybio bod eich cwyn wedi'i datrys, mae'n bosib y bydd modd i chi gyflwyno'ch cwyn i'r Ombwdsmon Gwasanaethau Seneddol ac Iechyd sy'n gwneud penderfyniadau terfynol ar gwynion heb eu datrys. Bydd angen i'ch Aelod Seneddol lofnodi'ch cwyn.

Cysylltu ag Ysgrifennydd y Gorfforaeth

Gellir cysylltu ag Ysgrifennydd y Gorfforaeth yn corporationsecretary@ofcom.org.uk. Am ddulliau cysylltu eraill, gweler ein tudalen cysylltu â ni. Os dymunwch wneud eich cwyn i Ysgrifennydd y Gorfforaeth dros y ffôn, nodwch hynny pan fyddwch yn cysylltu ag Ofcom. Bydd y gweithwyr yn Ofcom sy'n trin eich cyswllt yn nodi'ch cais ac yn trefnu i swyddfa Ysgrifennydd y Gorfforaeth ffonio chi'n ôl.

Rydym yn cydnabod bod rhanddeiliaid weithiau'n cysylltu â ni ar ôl i bob cam arall fethu. Rydym yn deall hefyd y gall pobl ymddwyn allan o gymeriad pan fyddant wedi'u cynhyrfu neu mewn trallod, neu y gall fod gan bobl ofynion arbennig yn unol ag amgylchiadau personol, er enghraifft, oherwydd anabledd neu salwch.

Rydym yn ceisio gwneud ein gwasanaeth yn hygyrch i bawb. Mae croeso felly i chi ein hysbysu am unrhyw beth a allai fod yn berthnasol i, neu yr ydych yn ystyried y gallai effeithio ar, ein cyswllt â chi ac unrhyw gamau ychwanegol y tybiwch efallai y gallwn eu cymryd i'ch cefnogi chi. Byddwn yn ceisio gwneud addasiadau rhesymol i'n dull o gyfathrebu â chi a'r ffordd y byddwn yn trin eich achos er mwyn cymryd y fath amgylchiadau i ystyriaeth.

Os ydych chi'n credu bod cydweithwyr Ofcom wedi methu â dilyn y weithdrefn yn gywir neu na wnaethom drin ein cyswllt â chi'n briodol, mae gennym broses dau gam ar gyfer ymdrin â'ch cwyn, sydd wedi'i amlinellu isod.

Cam un

O dan gam un, gofynnwn i chi gysylltu â'r tîm yn Ofcom y mae eich cwyn yn ymwneud ag ef yn gyntaf, gan amlinellu eich pryderon. Mae hyn yn rhoi cyfle iddynt ymchwilio i'ch pryderon a, lle bo angen, cywiro pethau. Yn yr achosion hyn, esboniwch i'n cydweithwyr, mor glir ac mor gryno â phosibl, sut rydych chi'n credu eu bod wedi methu â dilyn y weithdrefn yn gywir neu drin eu cysylltiad â chi yn briodol.

Os byddwch yn cysylltu ag Ysgrifennydd y Gorfforaeth heb gwblhau cam un, gall Tîm Ysgrifennydd y Gorfforaeth gyfeirio eich e-bost at y tîm perthnasol yn Ofcom i gael ymateb cychwynnol.

Cam dau

Os ydych chi, ar ôl cwblhau cam un, yn credu nad yw'ch cwyn wedi cael ei thrin yn briodol, gallwch ofyn i Ysgrifennydd y Gorfforaeth adolygu'r mater. Fel y nodwyd uchod, bydd angen i chi amlinellu'n glir ac yn gryno sut rydych chi'n credu bod cydweithwyr Ofcom wedi methu â dilyn gweithdrefn Ofcom a/neu drin eu cysylltiad â chi'n briodol. Bydd Tîm Ysgrifennydd y Gorfforaeth yn cynghori a allwn fwrw ymlaen â'ch cwyn ac, os felly, byddwn yn ymchwilio. Penderfyniad Ysgrifennydd y Gorfforaeth fydd cam olaf y broses gwyno yn Ofcom ac nid oes unrhyw hawl i fynd â'r mater ymhellach o fewn Ofcom.

Cyn cysylltu ag Ysgrifennydd y Gorfforaeth dylwech wirio a allwn ni ystyried eich cwyn.

Gallant ystyried cwynion os ydych yn credu bod cydweithwyr Ofcom wedi methu â dilyn gweithdrefnau'n gywir neu drin ein cyswllt â chi'n briodol.

Mae'n bwysig nodi nad apêl yw ymchwiliad gan Ysgrifennydd y Gorfforaeth. Ni allant ail-ymchwilio i ganlyniad unrhyw benderfyniad gwreiddiol gan Ofcom, ac ni allant wneud penderfyniadau ar ran adrannau eraill Ofcom.

Ni allant ymchwilio i achosion lle rydych yn anhapus bod cydweithwyr Ofcom wedi cynghori'n gywir nad yw mater yr ydych wedi'i godi neu gamau yr hoffech iddynt eu cymryd o fewn cylch gwaith neu bwerau rheoleiddiol Ofcom.

Yn gyffredinol, ni allwn ond ystyried eich cwyn os caiff ei chyflwyno i ni gydag un mis ar ôl i chi dderbyn ymateb terfynol gan y tîm perthnasol.

Enghreifftiau o'r hyn y gellir ac na ellir ymchwilio iddynt

  1. Mae rhywun wedi cwyno i Ofcom drwy e-bost ac yn meddwl bod Ofcom wedi bod yn anghwrtais yn ei hymateb. Mae hyn yn ymwneud â sut mae cydweithwyr Ofcom wedi delio â chyswllt ac felly gellir ymchwilio iddo o dan broses Ysgrifennydd y Gorfforaeth.
  2. Mae gan rywun sydd wedi cyflwyno cais am drwydded bryderon nad yw Ofcom wedi ymdrin â'u cais yn unol â'r canllawiau neu'r gweithdrefnau perthnasol. Mae hyn yn ymwneud ag a yw cydweithwyr Ofcom wedi dilyn gweithdrefn Ofcom yn gywir ac felly gellir cynnal ymchwiliad o dan broses Ysgrifennydd y Gorfforaeth.
  3. Mae rhywun yn anghytuno â phenderfyniad Ofcom ynghylch a oedd rhaglen deledu yn torri'r Cod Darlledu. Mae hyn yn ymwneud â phenderfyniad a wnaed gan Ofcom, yn hytrach nag a wnaeth cydweithwyr Ofcom ddilyn y weithdrefn yn gywir neu drin eu cysylltiad â'r achwynydd yn briodol. Ni all Ysgrifennydd y Gorfforaeth ystyried hyn gan nad yw'n dod o fewn cylch gwaith eu proses.
  4. Mae rhywun wedi gofyn i Ofcom orchymyn cwmni i dynnu fideo o'u llwyfan y maent yn ei ystyried yn dramgwyddus. Mae hyn yn ymwneud â chais sydd y tu hwnt i bwerau Ofcom ac felly ni ellir ymchwilio iddo o dan broses Ysgrifennydd y Gorfforaeth.

Pan fyddwch yn cysylltu ag Ysgrifennydd y Gorfforaeth

  1. Gallwch gysylltu ag Ysgrifennydd y Gorfforaeth drwy e-bost yn corporationsecretary@ofcom.org.uk.
  2. Bydd eich cwyn yn cael ei hasesu i weld a all gael ei hystyried gan Ysgrifennydd y Gorfforaeth.
  3. Os nad ydych wedi cwblhau Cam Un o'r broses gwyno a bod eich cwyn yn dod o fewn eu cylch gwaith, gall Tîm Ysgrifennydd y Gorfforaeth gyfeirio eich e-bost at dîm perthnasol Ofcom i gael ymateb cychwynnol.
  4. Os na ellir ystyried cwyn, bydd Tîm Ysgrifennydd y Gorfforaeth yn eich hysbysu am hyn.
  5. Os yw eich cwyn yn dod o fewn cwmpas cylch gwaith Ysgrifennydd y Gorfforaeth a bod Cam Un wedi'i gwblhau, byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth o hyn. Yn dilyn ymchwiliad, byddwch yn derbyn ymateb maes o law.

Ein nod yw sicrhau bod ein gwasanaeth yn hygyrch i bawb. Felly, mae croeso i chi ein hysbysu am unrhyw beth a allai fod yn berthnasol i, neu y credwch a allai effeithio ar, ein cyswllt â chi ac unrhyw gamau ychwanegol y credwch y gallwn eu cymryd i'ch cefnogi. Byddwn yn ceisio gwneud addasiadau rhesymol i'n dull o gyfathrebu â chi a'n dull o ymdrin â'ch achos er mwyn ystyried amgylchiadau o'r fath. Er enghraifft, pe na bai modd i chi anfon e-bost atoch, cysylltwch ag Ofcom gan ddefnyddio'r manylion ar ein tudalen cysylltu â ni a nodwch hyn i'r cydweithiwr sy'n ymdrin â'ch cyswllt. Byddant yn trefnu i swyddfa Ysgrifennydd y Gorfforaeth ddarparu addasiad rhesymol i chi.

Wrth ddarparu gwasanaeth yn y Gymraeg, rydym yn ceisio sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn ddim llai ffafriol na'r Saesneg.

Mae gwybodaeth bellach am hyn ar gael yma. Os hoffech wneud cwyn am waith Ofcom yn y maes hwn, cwblhewch a chyflwynwch ein ffurflen gwyno ar-lein. Byddwn yn adolygu eich achos ac yn ymateb mor fuan â phosib.

Mae Ofcom yn rheoleiddiwr annibynnol ac rydym yn atebol i Senedd y DU. Os ydych wedi cwblhau proses gwyno lawn Ofcom ac nad ydych yn credu bod eich cwyn wedi'i hystyried yn llawn, mae'n bosibl i chi gyflwyno eich cwyn i'r Ombwdsmon Gwasanaethau Seneddol a Iechyd sy'n gwneud penderfyniadau terfynol ar gwynion nad ydynt wedi'u datrys. Bydd angen i'ch Aelod Seneddol lofnodi eich cwyn.

Yn ôl i'r brig