
Heddiw, anfonodd Ofcom y llythyr canlynol at Dr Samir Shah CBE, Cadeirydd y BBC.
Annwyl Samir,
Rhaglen y BBC: Gaza: How To Survive A Warzone
Rwy’n ysgrifennu yn dilyn datganiad diweddar y BBC ar yr adolygiad cychwynnol a gynhaliodd BBC News i wneud y rhaglen uchod.
Mae darparu rhaglenni newyddion, materion cyfoes a ffeithiol sy’n ddigon cywir a diduedd wrth galon Cenhadaeth a Dibenion Cyhoeddus y BBC, a dylid darparu ei gynnwys yn ôl y safonau golygyddol uchaf.
Mae’r BBC wedi cydnabod yn gyhoeddus y bu methiannau difrifol wrth gynhyrchu’r rhaglen hon, sydd wedi codi cwestiynau pwysig y mae’n rhaid i’r BBC eu hateb. Mae gan Ofcom bryderon parhaus am natur a difrifoldeb y methiannau hyn a’u heffaith negyddol ar ymddiriedaeth cynulleidfaoedd yn newyddiaduraeth y BBC. Mae’n hanfodol yr ymchwilir i achosion y gwallau hynny, a bod systemau’n cael eu rhoi ar waith i sicrhau na fyddant yn gallu digwydd eto.
Fel y gwyddoch, yn unol â’r dull gweithredu BBC yn Gyntaf a’r gweithdrefnau rydym wedi’u cyhoeddi, dim ond cwyn sydd wedi cael ei hystyried gan y BBC yn gyntaf y bydd Ofcom fel arfer yn ei derbyn. Mewn amgylchiadau eithriadol, caiff Ofcom gamu i mewn er mwyn delio â chŵyn nad yw wedi cael ei datrys gan y BBC. Bydd ein penderfyniad i gamu i mewn yn gynt yn dibynnu ar y ffeithiau perthnasol ym mhob achos.
Ar hyn o bryd, rydym wedi penderfynu rhoi cyfle i’r BBC gynnal ei ymchwiliadau ei hun i’r rhaglen hon, fel y mae Bwrdd y BBC wedi penderfynu. Rydym yn disgwyl i’r ymchwiliad i’r gwynion sy’n cael ei arwain gan yr Uned Cwynion Golygyddol a’r adolygiad canfod ffeithiau sy’n cael ei arwain gan Peter Johnston gael eu cynnal mor drwyadl â phosibl, a gyda chraffu llawn gan Fwrdd y BBC.
Byddwn yn parhau i adolygu’r sefyllfa’n fanwl a byddwn yn disgwyl diweddariadau rheolaidd gan y BBC ynghylch amserlenni a chynnydd ac yn cadw’r hawl i ddefnyddio ein pwerau i gamu i mewn os byddwn yn teimlo bod angen gwneud hynny, o ystyried bod Bwrdd y BBC wedi penderfynu bod y rhain yn ymchwiliadau mewnol. O ystyried pwysigrwydd tryloywder, rydym yn bwriadu cyhoeddi’r llythyr hwn.
Yn gywir,
MICHAEL GRADE
(Arglwydd Grade o Yarmouth)