View of BBC's regional headquarters in Salford

Adolygiad o Gyfryngau Lleol ac Adolygiad Blynyddol ar y BBC

Cyhoeddwyd: 29 Tachwedd 2024

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol ar y BBC, sy’n asesu perfformiad y Gorfforaeth o ran diwallu anghenion gwylwyr a gwrandawyr rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024. Mae hyn yn cynnwys canfyddiadau yn dilyn ymarfer siopwr dirgel i broses gwynion BBC yn Gyntaf.

Hefyd, rydym wedi cyhoeddi canfyddiadau ail ran ein Hadolygiad o Gyfryngau Lleol yn y DU, sy’n canolbwyntio ar effaith y BBC ar gystadleuaeth yn y sector newyddion lleol.

Adroddiad Blynyddol ar y BBC

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ein seithfed adroddiad blynyddol ar y BBC. Yn gyffredinol, rydym yn canfod bod y BBC yn cyflawni’n dda yn erbyn ei gylch gwaith ar gyfer gwylwyr a gwrandawyr. Er ei fod yn wynebu mwy o gystadleuaeth gan lwyfannau cyfryngau a ffrydwyr, y BBC yw’r brand cyfryngau sy’n cael ei ddefnyddio amlaf yn y DU ar y teledu, ar y radio ac ar-lein, ac mae gan 61% o oedolion farn gadarnhaol amdano.

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi gweld mwy a mwy o wrthdaro rhyngwladol a llawer o etholiadau cenedlaethol yn cael eu cynnal ledled y byd, gyda phobl yn troi fwyfwy at y cyfryngau cymdeithasol i gael newyddion. Ar yr un pryd, mae camwybodaeth a thwyllwybodaeth ar-lein – sy’n cael eu gwaethygu gan y posibilrwydd o gamddefnyddio deallusrwydd artiffisial – yn peri pryder cynyddol.

Mae’r heriau hyn yn amlygu pwysigrwydd rôl y BBC a’r angen iddo ddod o hyd i ffyrdd newydd o ddarparu ar gyfer cynulleidfaoedd, ble bynnag y maent, er mwyn cadw eu hymddiriedaeth. Mae’r BBC wedi gwneud ymdrechion i ddatblygu yn y maes hwn, gan gynnwys cyflwyno ei adnodd gwirio ffeithiau newydd, BBC Verify. Mae Ofcom eisiau gweld y BBC yn adeiladu ar ei waith ac mae’n awyddus i weld sut mae ei ymrwymiad i gefnogi ymwybyddiaeth cynulleidfaoedd o’r cyfryngau yn datblygu ymhellach yn ymarferol.

Mae ein hadroddiad hefyd yn nodi meysydd i’w gwella. Mae’r BBC yn dal i’w chael yn anodd cyrraedd pob cynulleidfa – er enghraifft, y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is. Rydym am iddo fod yn gliriach ynghylch ei gynlluniau cyffredinol ar gyfer cynyddu lefelau bodlonrwydd â’r BBC ymysg y grŵp hwn ac, yn fwy cyffredinol, sut mae’n gwerthuso cynlluniau i gyrraedd defnyddwyr llai bodlon neu sy’n defnyddio llai ar y BBC, fel pobl iau. Dylai hyn gynnwys bod yn gliriach ynghylch beth sy’n gweithio a beth sydd ddim yn gweithio i’r cynulleidfaoedd hyn.

Siopwr dirgel

Ochr yn ochr â hyn, rydym hefyd wedi cyhoeddi ymchwil heddiw ar effeithiolrwydd proses gwynion BBC yn Gyntaf. Aethom ar drywydd 500 a mwy o gwynion siopwr dirgel a wnaed dros y ffôn, drwy’r post, ar y we, ac ar ffôn testun.

Yn gyffredinol, gwelsom fod y newidiadau a wnaeth y BBC i’w brosesau, yn dilyn ein hargymhellion yn 2022, yn gweithio’n dda ar y cyfan i wylwyr a gwrandawyr. Gwelsom fod y broses yn hygyrch, bod y cyswllt cychwynnol yn hawdd ei wneud, ac mae’r rhan fwyaf o’r ymatebion yn cael eu gwneud yn ddigon prydlon. Ond mae lle i wella eto, fel sicrhau bod atebion bob amser yn glir, yn dryloyw, ac o’r un ansawdd ni waeth pa dîm yn y BBC sy’n ymateb. Rydym yn falch o weld bod y BBC wedi rhoi newidiadau ar waith yn dilyn ein hargymhellion yn 2022, a bod yr ymchwil diweddaraf hwn yn dangos bod BBC yn Gyntaf yn cyflawni’n dda ar gyfer cynulleidfaoedd o ganlyniad i’n gwaith rheoleiddio.

Adolygiad o Gyfryngau Lleol

O ystyried pa mor berthnasol yw cyfryngau lleol i lawer o ddyletswyddau Ofcom, ac i helpu i lywio ein dull rheoleiddio, fe wnaethom lansio adolygiad o’r sector hwn a oedd yn newid yn gyflym erbyn diwedd 2023.

Canfu ein hadroddiad interim, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, fod heriau cynyddol o ran cynnal newyddion lleol dibynadwy a pherthnasol ledled y DU. Mae’r rhain yn cynnwys gostyngiad mewn refeniw a chystadleuaeth ffyrnig am gynulleidfaoedd sy’n osgoi mwy a mwy o newyddion ac sy’n amharod i dalu amdano. Mae toriadau a gwaith cyfuno i ymateb i’r heriau hyn wedi effeithio ar ddarpariaeth newyddion lleol ar draws teledu, radio a phrint.

Heddiw, rydym wedi nodi ein barn ar sefyllfa’r BBC yn y sectorau newyddion lleol. Rydym hefyd yn amlinellu ein dull o ystyried yr effaith gystadleuol bosibl unrhyw newidiadau i wasanaethau newyddion lleol y BBC yn y dyfodol. Yn gryno, ar sail yr amodau a’r dadansoddiad presennol o’r farchnad, rydym yn canfod:

  • Newyddion radio lleol/cenedlaethol. Mae’n annhebygol y byddai cynyddu newyddion lleol ar ei wasanaethau radio yn cael effaith sylweddol ar gystadleuwyr, gan fod cynulleidfaoedd radio yn gyffredinol yn gwrando ar orsafoedd masnachol lleol/cenedlaethol y BBC am wahanol resymau.
  • Newyddion teledu rhanbarthol. Pe bai’r BBC yn cynyddu neu’n gwella’r hyn mae’n ei gynnig, mae mwy o botensial i wylwyr symud oddi wrth newyddion rhanbarthol Sianel 3 i’r BBC. Fodd bynnag, ni allwn asesu i ba raddau y byddai unrhyw newidiadau arfaethedig yn cael effaith ar gystadleuaeth heb wybod beth yn union y gallent fod.
  • Newyddion lleol ar-lein. Ers i’r BBC ehangu ei allbwn yn y maes hwn yn 2023, mae nifer yr ymweliadau â’i dudalennau lleol wedi cynyddu, ac mae lefelau gwylio newyddion ar-lein masnachol (lleol a heb fod yn lleol) wedi gostwng. Fodd bynnag, nid yw ein dadansoddiad wedi dod o hyd i dystiolaeth sylweddol bod cysylltiad achosol rhwng y ddau. Mae’n ymddangos bod y gostyngiad yn nifer yr ymweliadau â thudalennau masnachol yn rhan o duedd tymor hir a oedd yn bodoli cyn newidiadau’r BBC, er ein bod yn cydnabod y gallai’r newidiadau hyn fod yn cyfrannu i ryw raddau. 
  • Wrth edrych i'r dyfodol, rydym yn cydnabod bod mwy o newyddion lleol ar-lein gan y BBC yn rhan o’r heriau sy’n wynebu cyhoeddwyr lleol, ac o bosibl bydd rhai ardaloedd lleol lle mae lefelau gwylio’r BBC yn disodli lefelau gwylio masnachol. Mae hefyd yn bosibl y bydd newidiadau’r BBC yn y dyfodol yn cael effaith wahanol ar gyhoeddwyr masnachol, ac felly efallai y bydd angen i’r BBC ac Ofcom eu hystyried yn ofalus.

Mae’r canfyddiadau hyn yn fan cychwyn ar gyfer cynnal unrhyw asesiadau o gystadleuaeth yn y dyfodol. Bydd angen i’r BBC ac Ofcom ystyried effaith y newidiadau sylweddol y mae’r Gorfforaeth yn bwriadu eu gwneud o hyd ac ystyried sut y gallai’r newidiadau hyn effeithio ar gystadleuaeth. O’r flwyddyn nesaf ymlaen, byddwn hefyd yn rhoi diweddariad blynyddol o’n barn ar sefyllfa’r BBC yn y sectorau newyddion lleol yn ein Hadroddiad Blynyddol ar y BBC.

Mae’r adroddiad heddiw hefyd yn casglu barn ar ffyrdd posibl o gefnogi’r sector newyddion lleol, gan gynnwys:

  • cronfa arloesi, sy’n canolbwyntio ar ddarparu cyllid tymor byr ar gyfer darparwyr newyddion lleol;
  • Sefydliad Newyddion Cyhoeddus i helpu i gefnogi newyddion er budd y cyhoedd yn y DU i fod yn fwy cynaliadwy;
  • ehangu neu wella’r Bartneriaeth Newyddion Lleol a’r Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Leol;
  • sut gallai awdurdodau lleol a meiri metro chwarae rhan yn y gwaith o gefnogi cyfryngau newyddion lleol yn eu hardaloedd ; a
  • rhaglenni llythrennedd newyddion sy’n cael eu cynnal gan y sector ar gyfer eu cymunedau lleol.

Er nad argymhellion Ofcom yw’r rhain, maent yn syniadau a fydd, gobeithio, yn ysgogi trafodaeth bellach yn y sector, yn enwedig wrth i’r Llywodraeth ddatblygu Strategaeth Cyfryngau Lleol newydd.

Y camau nesaf

Byddwn yn parhau i fonitro’n agos sut mae’r BBC yn cyflawni ar gyfer cynulleidfaoedd a’r economi greadigol. Hefyd, byddwn yn craffu ar unrhyw newidiadau perthnasol y mae’r BBC yn cynnig eu gwneud, er mwyn i ni allu ymyrryd yn gyflym os oes angen.

Ym mis Mai, daeth Deddf Cyfryngau 2024 yn gyfraith. Ochr yn ochr â’n gwaith o weithredu gwahanol fesurau'r Ddeddf ar draws y diwydiant, rydym yn cyfrannu at drafodaethau rhwng y Llywodraeth a’r BBC ynghylch unrhyw newidiadau angenrheidiol i Gytundeb Fframwaith y BBC i adlewyrchu hyn.

Yn ystod y blynyddoedd nesaf, byddwn hefyd yn cynnal adolygiad cyfnodol i asesu i ba raddau mae’r BBC yn cyflawni ei Genhadaeth ac yn hyrwyddo ei Ddibenion Cyhoeddus, gan gynnwys adolygiad ehangach o system gwynion ‘BBC yn Gyntaf’. Bydd ein hadolygiad yn cyfrannu at Adolygiad y Llywodraeth o’r Siarter.

Yn ôl i'r brig