A person looking at the Welsh BBC news site on a tablet device

Adolygiad o asesiad perthnasedd y BBC o’r ffrydiau newydd arfaethedig ar BBC Sounds

Cyhoeddwyd: 16 Gorffennaf 2024

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi ei adolygiad o asesiad y BBC ynghylch a yw ei gynigion ar gyfer tair ffrwd gerddoriaeth newydd ar BBC Sounds yn ‘newidiadau perthnasol’ i’w weithgareddau gwasanaeth cyhoeddus.

Cyn gwneud unrhyw newidiadau i’w wasanaethau sy’n cael eu hariannu gan ffi’r drwydded, rhaid i’r BBC ystyried yn gyntaf, o dan y Siarter a’r Cytundeb, a yw’r newidiadau’n berthnasol. Mae hyn yn golygu asesu a allai’r newidiadau gael effaith sylweddol er gwaeth ar gystadleuaeth deg ac effeithiol.

Yn yr achos hwn, daeth y BBC i’r casgliad nad yw ei ffrydiau cerddoriaeth newydd arfaethedig ar BBC Sounds – sy’n estyniadau i’w rwydweithiau cerddoriaeth presennol ar BBC Radio 1, BBC Radio 2 a BBC Radio 3 – yn newidiadau perthnasol.

Adolygiad Ofcom

Rydym wedi adolygu asesiad y BBC yn ofalus, ynghyd â thystiolaeth bellach a ddarparwyd gan y Gorfforaeth a rhanddeiliaid eraill yn y diwydiant.

Rydym wedi dod i’r casgliad y gallai lansio ffrwd estyniad Radio 2 ar BBC Sounds gael effaith sylweddol er gwaeth ar gystadleuaeth deg ac effeithiol. O’r herwydd, rydym o’r farn ei fod yn newid perthnasol.

O ystyried ein canfyddiad o berthnasedd, rydym nawr yn cyfarwyddo’r BBC i roi’r gorau ar yr agwedd hon o’i gynigion. Pe bai’r BBC yn dymuno parhau i lansio ffrwd ymestyn Radio 2 ar Sounds yn unig, byddai angen iddo gynnal prawf budd y cyhoedd.  

O ran ei ffrydiau estyniad arfaethedig ar gyfer Radio 1 a Radio 3 ar BBC Sounds, rydym yn cytuno â’r BBC nad ydynt, yn unigol nac ar y cyd, yn newidiadau a allai gael effaith sylweddol er gwaeth ar gystadleuaeth deg ac effeithiol, ac felly nid ydynt yn berthnasol. Cytunwn hefyd nad yw’r newidiadau arfaethedig gan y BBC i’w ffrwd Radio 1 Dance bresennol yn berthnasol. Mae hyn yn golygu y caiff y BBC fwrw ymlaen â’r elfennau hyn o’i gynlluniau.

Prawf budd y cyhoedd ar orsafoedd radio DAB+ newydd arfaethedig

Mae ein hadolygiad o asesiad perthnasedd y BBC ar gyfer y ffrydiau BBC Sounds newydd arfaethedig yn broses wahanol i broses prawf budd y cyhoedd y BBC sydd ar waith ar bedair gorsaf radio DAB+ newydd arfaethedig – dau estyniad i Radio 1, yn ogystal ag estyniadau i Radio 2 a Radio 3.

Ar ôl cael prawf budd y cyhoedd y BBC, ac ar ôl i Ofcom wneud asesiad cychwynnol, bydd Ofcom yn cynnal asesiad cystadleuaeth o fewn chwe mis, i benderfynu a gaiff y BBC fwrw ymlaen â’r newidiadau hyn ai peidio.

Yn ôl i'r brig