Dylai’r BBC gymryd mwy o risgiau wrth gynhyrchu rhaglenni newydd os yw am ailgysylltu â gwylwyr a gwrandawyr ar incwm is, yn ôl ymchwil gynulleidfa newydd a gyhoeddir heddiw gan Ofcom.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae ein hymchwil wedi nodi bod pobl mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol is - sy'n cyfrif am bron i chwarter o boblogaeth y DU - yn llai bodlon ar y BBC. Felly rydym wedi cynnal adolygiad manwl i ddeall pam y gallai hyn fod, gan siarad â gwylwyr a gwrandawyr o'r grwpiau hyn o bob cwr o'r DU.
Ein canfyddiadau
Mae cynulleidfaoedd dosbarth gweithiol yn gwylio mwy o deledu nag unrhyw un arall – 3 awr 44 munud y dydd ar gyfartaledd, o gymharu ag 1 awr 57 munud ymhlith gwylwyr dosbarth canol – ac mae’r BBC yn parhau i fod yn rhan bwysig o’u harferion cyfryngau, gan gyfrif am chwarter (26%) o'u hamser gwylio.
Fodd bynnag, roedd llawer o'r bobl y gwnaethom siarad â nhw'n teimlo bod rhaglenni'r BBC yn rhy sych a difrifol o gymharu â gwasanaethau eraill. Yn lle, mae llawer yn troi at gyfryngau cymdeithasol a phodlediadau i ddod o hyd i leisiau mwy newydd sy'n cydweddu, mewn ffordd fwy dilys, â'u profiadau bywyd go iawn.
Mynegodd pobl yn ein grwpiau ffocws ffafriaeth amlwg at wasanaethau ffrydio, oherwydd eu llyfrgelloedd cynnwys a all gael eu personoli'n gynhwysfawr, y gallant eu gwylio pan fydd yn gyfleus iddynt. Ystyrir hefyd bod gwasanaethau ffrydio a chyfryngau cymdeithasol yn cynnig cynnwys mwy gafaelgar ac ysgafn sy'n cyfateb yn well i'w hanghenion am ddihangfa a chwmnïaeth.
Teimlai’r cyfranogwyr hefyd nad oedd llawer o gynrychiolaeth ar y BBC o’r hyn yr oeddent yn ei alw’n “fywydau arferol, dosbarth gweithiol”. Hyd yn oed pan oedden nhw'n gweld 'pobl fel nhw' yn cael eu cynrychioli ar raglenni'r BBC, roedden nhw'n teimlo bod y portread yn aml yn dychwelyd i stereoteipiau neu gymeriadaeth 'symbolaidd'.
Cysylltiad â'r BBC heb gael ei golli
Er gwaetha'r heriau hyn, mae ein hastudiaeth yn dangos bod cynulleidfaoedd o gartrefi incwm is yn dal i gynnal cysylltiad â’r BBC. Mae llawer o gyfranogwyr yn cymeradwyo arlwy newyddion y BBC, tra bod eraill yn dal i'w ystyried yn hafan darllediadau o ddigwyddiadau carreg filltir arwyddocaol sy'n dod â'r genedl ynghyd.
Mae rhaglenni fel EastEnders, Match of the Day a Strictly Come Dancing yn cael eu cydnabod fel rhaglenni poblogaidd, er bod ymdeimlad ymhlith rhai bod y BBC yn dibynnu fwyfwy ar raglenni a fformatau sefydledig.
Mae mwyafrif llethol y bobl yn yr astudiaeth am weld y BBC yn cymryd mwy o risgiau wrth gynhyrchu cynnwys newydd a sicrhau bod cynulleidfaoedd yn ymwybodol o'r amrywiaeth o raglenni sydd ar gael. Mae rhai'n nodi y gallai enw da'r BBC am raglenni archif clasurol olygu bod cynulleidfaoedd yn diystyru ei raglenni mwy diweddar, a theimlodd eraill yn teimlo y gallai'r BBC wneud mwy o waith marchnata wedi'i dargedu i hyrwyddo cynnwys newydd.
Bydd y BBC yn ymwybodol o lawer o’r heriau a’r materion a godir yn ein hastudiaeth ac mae’n ymateb drwy gomisiynu mwy o gynnwys y mae’n credu y bydd yn apelio'n fwy at gynulleidfaoedd o gartrefi incwm is. Dylai’r BBC fonitro’n ofalus a yw’r cynnwys newydd hwn yn torri drwodd, ac ystyried pa gamau pellach y gallai fod eu hangen i ddiwallu eu hanghenion yn well.
Byddwn yn parhau i fonitro canfyddiadau o gynrychioli a phortreadu fel rhan o'n hasesiad parhaus o berfformiad y BBC.
Adroddiad Blynyddol ar y BBC
Hefyd heddiw, rydym wedi cyhoeddi ein chweched Adroddiad Blynyddol ar Berfformiad y BBC, yn ymdrin â'r cyfnod o fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023.
Mae ein hadroddiad yn nodi bod y BBC yn perfformio’n dda ar y cyfan o ran cyflawni ei Genhadaeth a’i Ddibenion Cyhoeddus. Mae hefyd yn nodi, wrth i gynulleidfaoedd barhau i symud ar-lein, fod y BBC yn gorfod addasu i ddiwallu eu hanghenion a’u disgwyliadau. Mae hyn yn golygu ei fod yn gorfod gwneud dewisiadau anodd i leihau gwariant mewn rhai meysydd - gan gynnwys radio lleol - er mwyn ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau ar-lein, wrth iddo symud i fod yn sefydliad 'digidol yn gyntaf'.
Wrth iddo wneud hynny, rydym yn monitro effaith y newidiadau hyn yn agos a byddwn yn dwyn y BBC i gyfrif ar ran yr holl gynulleidfaoedd, gan gynnwys y rhai sy'n dibynnu ar wasanaethau darlledu traddodiadol. Byddwn yn adrodd ar effaith newidiadau'r BBC i radio lleol yn yr Adroddiad Blynyddol ar y BBC y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn rhoi amser i'r newidiadau gael eu gweithredu'n llawn er mwyn i unrhyw effeithiau ar gynulleidfaoedd gael eu hasesu'n briodol.
Yn fwy cyffredinol, rydym yn cynnal adolygiad o'r hyn y mae cynulleidfaoedd ar draws y DU yn ei werthfawrogi am gyfryngau lleol. Disgwyliwn gyhoeddi canfyddiadau’r adolygiad hwn o gyfryngau lleol erbyn diwedd 2024.