Mae ein hymchwil Ein Gwlad Ar-lein ddiweddaraf yn bwrw golwg ar sut mae pobl yn y DU yn treulio eu hamser ar-lein. Gwnaethom weld bod plant a'r rhai yn eu harddegau ar flaen y gad o ran dod i ben â thechnoleg sy'n dod i'r amlwg fel deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, yn ogystal ag amlygu amrywiaeth o dueddiadau eraill. Yma, cymerwn gip ar rai o'r prif ganfyddiadau.
Rydym yn treulio dau ddiwrnod ychwanegol ar-lein bob blwyddyn
Mae cyfartaledd yr amser dyddiol sy'n cael ei dreulio ar-lein wedi gweld cynnydd cymedrol o wyth munud, i 3 awr a 41 munud y dydd ym mis Mai 2023. Mae hyn yn golygu bod yr oedolyn ar-lein cyffredin bellach yn treulio tua 56 diwrnod y flwyddyn ar-lein – dau ddiwrnod yn fwy nag yn 2022.
Oedolion ifanc 18-24 oed ar-lein sy’n treulio’r amser mwyaf ar-lein, sef 4 awr 36 munud bob dydd ym mis Mai 2023.
Facebook yn cael ei fwrw oddi ar y brig
Bu i fwy o oedolion ar-lein y DU sy’n defnyddio ffonau clyfar, llechi neu gyfrifiaduron ymweld â YouTube na Facebook.
Ymwelodd naw deg un y cant o oedolion ar-lein â YouTube ym mis Mai 2023, gan ragori ar Facebook (90.7%) a welodd niferoedd ei ymwelwyr yn gostwng 1.4 miliwn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mileniaid yw'r defnyddwyr apiau ffôn clyfar mwyaf toreithiog
Pobl 25-44 oed ar gyfartaledd a ddefnyddiodd y nifer fwyaf o apiau ffôn clyfar ym mis Mai 2023 – 41 o'i gymharu â chyfartaledd o 36 ar draws yr holl oedolion ar-lein.
Yr apiau cyfryngau cymdeithasol a chyfathrebu sy'n eiddo i Meta, sef WhatsApp, Facebook, Facebook Messenger ac Instagram, oedd yr apiau ffôn clyfar yr ymwelwyd â nhw fwyaf gan oedolion ar ddiwrnod nodweddiadol ym mis Mai 2023.
Mae bron i chwarter yr oedolion ar-lein yn rhoi cynnig ar Threads
Roedd tua chwarter y defnyddwyr rhyngrwyd 16+ oed (23%) wedi rhoi cynnig ar wasanaeth newydd Meta, Threads, o leiaf unwaith yn y ddau fis cyntaf ers ei lansio ym mis Gorffennaf 2023.
Fodd bynnag, mae cyrhaeddiad Threads yn parhau'n sylweddol is na chyrhaeddiad X, a gafodd ei ddefnyddio gan 52% o ddefnyddwyr ar-lein 16+ oed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Mae gan fwy nag un o bob pump o blant oedran cyfryngau cymdeithasol ffug o 18+
Mae plant hŷn a phobl ifanc (11-18 oed) yn teimlo’n fwy hyderus wrth gyfathrebu ar-lein na wyneb yn wyneb (71% o'i gymharu â 53%). Dywedodd eraill wrthym sut y maent yn elwa o’r byd ar-lein, o gymorth gyda gwaith ysgol (81%), meithrin a chynnal eu grŵp o ffrindiau (68%), cefnogi eu creadigrwydd (81%), a’u helpu i wella gwneud y pethau maen nhw'n eu hoffi (86%).
Fodd bynnag, mae gan fwy nag un o bob pump (22%) o’r rhai 8-17 oed sydd â phroffil cyfryngau cymdeithasol ar o leiaf un o’r llwyfannau a restrir yn ein hastudiaeth, oedran defnyddiwr ffug o 18 neu hŷn, sy’n golygu eu bod mewn mwy o berygl o ddod ar draws cynnwys niweidiol ar-lein sy'n amhriodol i'w hoedran.
Roedd traean o bobl yn gweld niwed yn eu ffrwd bersonol
Adroddodd dau draean (68%) o oedolion eu bod wedi gweld neu brofi un niwed posibl neu fwy ar-lein yn ystod y pedair wythnos flaenorol. Daeth dros draean (35%) o oedolion i gysylltiad â'r niwed a welwyd yn fwyaf diweddar wrth sgrolio trwy eu ffrwd bersonol neu dudalen 'for you', sy'n gweini cynnwys wedi'i deilwra gan yr algorithm i ddefnyddwyr.
Dywedodd cyfran debyg o'r rhai yn eu harddegau (71%) 13-17 oed iddynt ddod ar draws un niwed posibl neu fwy ar-lein yn ystod y pedair wythnos diwethaf. Y tri phrif bryder ymhlith y rhai 13-17 oed yw cynnwys sy'n dangos creulondeb i anifeiliaid (67%), cynnwys sy'n annog hunanladdiad (66%) a chynnwys sy'n annog hunan-niweidio (61%). Roeddent hefyd wedi profi ceisiadau neu negeseuon ymgyfeillio neu ddilyn digroeso (30%) a throlio (23%).
Mae gwasanaethau pornograffi ar-lein yn denu mwy o ymwelwyr yn ystod oriau'r dydd
Ymwelodd traean o oedolion sy’n defnyddio’r rhyngrwyd (29% neu 13.8 miliwn) â gwasanaethau ar-lein ar gyfer cynnwys pornograffig ar 23 Mai – y mwyafrif ohonynt yn ddynion (73% neu 10.1 miliwn).
Roedd oedolion yn fwy tebygol o gyrchu gwasanaethau pornograffi ar-lein rhwng 9am a 5:29pm nag ar amserau eraill o'r dydd ym mis Mai 2023.
Pornhub oedd y wefan bornograffi fwyaf poblogaidd, yr ymwelwyd â hi gan 8.4 miliwn o oedolion ym mis Mai 2023.