Ymwadiad: Mae'r dadansoddiadau, y safbwyntiau a'r canfyddiadau yn yr erthygl hon yn cynrychioli barn yr awduron, ac ni ddylid eu dehongli fel safbwynt swyddogol Ofcom. Ysgrifau ystyriol anffurfiol gan economegwyr Ofcom yw erthyglau Safbwyntiau Economaidd. Maent yn cael eu hysgrifennu fel mater o ddiddordeb. Ni fwriedir iddynt fod yn ddatganiad swyddogol o bolisi neu syniadau Ofcom.
Cyflwyniad
Mae’r ffordd y mae pobl yn gwylio rhaglenni teledu yn newid yn gyflym ac mae mwy a mwy o gystadleuaeth am sylw gwylwyr. Rôl y BBC yw gweithredu er budd y cyhoedd a gwasanaethu pob cynulleidfa gyda chynnwys sy’n hysbysu, yn addysgu ac yn diddanu. Mae ei wasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu gan ffi’r drwydded. Fel sefydliad mawr sy’n cael arian cyhoeddus, mae’n anochel bod y BBC yn cael effaith ar gystadleuaeth yn y farchnad cyfryngau ehangach yn y DU. Does arno ddim angen gwneud elw yn yr un ffordd â chwmni masnachol ac mae’n cynnig ei wasanaethau cyhoeddus yn rhad ac am ddim, heb hysbysebion. O ganlyniad, mae’n cael mantais gystadleuol nad yw ar gael i ddarlledwyr masnachol.
Diogelu cystadleuaeth deg ac effeithiol yw rôl Ofcom. Yn benodol, pan fydd y BBC yn dymuno gwneud ‘newidiadau perthnasol’ i’w wasanaethau cyhoeddus (hynny yw, newidiadau a allai effeithio’n sylweddol ar gystadleuaeth), mae’n ofynnol i ni asesu a yw’r gwerth cyhoeddus yn cyfiawnhau unrhyw effaith niweidiol ar gystadleuaeth. Mae cynnig y BBC i ymestyn y cynnwys sydd ar gael ar BBC iPlayer yn enghraifft o’r fath. Ei nod yw trawsnewid BBC iPlayer o fod yn wasanaeth dal-i-fyny i fod yn gyrchfan yn ei hawl ei hun – lle i ddarganfod cynnwys, boed hynny’n fyw neu ar-alw, yn newydd neu o’r archif.
Gall pryderon ynghylch cystadleuaeth godi os ystyrir bod gweithgareddau gwasanaeth cyhoeddus y BBC yn gwthio cystadleuaeth i ffwrdd, yn atal cwmnïau eraill rhag buddsoddi neu arloesi neu’n gwneud drwg i gystadleuaeth mewn mannau eraill yn y byd darlledu neu yn y gadwyn gyflenwi ehangach ar gyfer y cyfryngau. Felly, wrth asesu newid arfaethedig i wasanaethau cyhoeddus y BBC, mae arnom angen ystyried effaith ar y farchnad, ochr yn ochr ag unrhyw fanteision gwerth cyhoeddus.
Rydym yn cydnabod bod angen i’r BBC ymateb ac addasu i gadw i fyny â disgwyliadau’r gynulleidfa ar adeg pan nad yw’r gystadleuaeth am ei sylw erioed wedi bod mor ffyrnig. Eglurodd yr her hon yn ei Brawf Budd y Cyhoedd ei hun:
“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r farchnad teledu wedi newid yn sylweddol. Arferai gwasanaethau teledu gael eu rhedeg fesul tiriogaeth, ond mae'r rhyngrwyd wedi galluogi cwmnïau byd-eang enfawr sydd â digonedd o gyllid i ddod i'r amlwg. Maen nhw’n gallu creu cynnwys unwaith a’i ddosbarthu i lawer o danysgrifwyr mewn nifer o wledydd ar yr un pryd. Mae’r gwasanaethau fideo ar-alw newydd yma, fel Netflix ac Amazon Prime Video, wedi gosod meincnod newydd o ran yr hyn mae cynulleidfaoedd yn ei ddisgwyl gan lwyfannau ar-lein. Mae’r holl sefydliadau darlledu, gan gynnwys y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, yn ymateb i'r heriau hyn.”
Yn yr erthygl hon, rydym yn canolbwyntio ar sut roeddem wedi asesu effaith cynigion BBC iPlayer ar fuddsoddiad cystadleuwyr, ochr yn ochr â’u gwerth cyhoeddus tebygol. Yn gyffredinol, daethom i’r casgliad fod gwerth cyhoeddus cynigion BBC iPlayer yn cyfiawnhau’r effaith niweidiol ar gystadleuaeth a nodwyd gennym. Felly roeddem yn caniatáu i’r BBC fwrw ymlaen â’i gynigion, yn amodol ar amodau penodol.
Effaith cystadleuaeth ar fuddsoddi ac arloesi
Nid yw effaith cystadleuaeth ar fuddsoddi yn gwestiwn newydd ym myd economeg. Yn fras, mae yna farn “Schumpeteraidd” y gallai gwobrau sy’n deillio o fwy o bŵer y farchnad ysgogi arloesi er mwyn cyflawni’r enillion hyn. Yna, ceir dadl “Arrow” fod monopolydd yn wynebu llai o gymhelliant i arloesi na chwmni mewn marchnad gystadleuol, oherwydd diddordeb monopolydd yn y status quo.
Ysgrifennodd Carl Shapiro bapur diddorol iawn ar y pwnc hwn yn 2012, a daeth i’r casgliad bod Schumpeter ac Arrow, ill dau, yn gywir. Mae’r posibilrwydd o gael mwy o elw yn hanfodol ar gyfer arloesi, ond ar yr un pryd mae gan gwmni sydd â buddiant breintiedig yn y status quo lai o gymhelliant na chwmni newydd i ddatblygu neu gyflwyno technoleg newydd sy’n amharu ar hynny. Nid oes gwrthdaro rhwng y ddwy sefyllfa.
Sut mae hyn yn berthnasol i BBC iPlayer?
Yn yr achos penodol hwn, fe wnaethom ofyn i ni’n hunain a oedd y BBC, wrth wella ei sefyllfa gystadleuol drwy ddarparu rhagor o gynnwys o ansawdd uchel, yn ysgogi neu’n lleihau buddsoddiad gan ei gystadleuwyr mewn gwirionedd? Gallai’r ffaith bod rhagor o gynnwys ar gael ar BBC iPlayer arwain at dynnu gwylwyr oddi wrth ei gystadleuwyr, gan fod yn fwy o gyfyngiad cystadleuol a lleihau ei refeniw. Ond sut byddai hynny’n effeithio ar eu cymhellion i fuddsoddi? Cyn mynd i’r afael â hyn, mae gofyn i ni asesu a fyddai hyn yn effeithio ar refeniw cystadleuwyr, a faint:
- Yn gyntaf, roeddem wedi gweld faint yn fwy o wylio y gallai BBC iPlayer ei gyflawni. Roeddem wedi defnyddio data gwylio’r BBC, dull modelu a gyflwynwyd gan y BBC a’i gystadleuwyr, a’n dadansoddiad ein hunain i lunio barn sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n canolbwyntio ar ddata.
- Yn ail, fe wnaethom ystyried o ble byddai'r lefelau gwylio ychwanegol yn dod – yn y bôn, pa wasanaethau eraill y byddai gwylwyr yn troi oddi wrthynt. Yn wahanol i’r diffiniad o’r farchnad mewn achosion cyfraith cystadleuaeth neu adolygiadau o’r farchnad telegyfathrebiadau, sy’n ystyried symud oddi wrth y cynnyrch dan sylw at gystadleuwyr, mae’r dadansoddiad o gystadleuaeth agos yn yr achos hwn yn canolbwyntio ar symud at y BBC oddi wrth gystadleuwyr. Yn ein hasesiad, gwnaethom gynnal arolwg defnyddwyr i nodi’r patrymau symud tebygol a fyddai’n deillio o’r cynigion.
- Yn drydydd, roedd arnom angen llunio barn ynghylch y berthynas rhwng newidiadau tybiedig mewn gwylio fideo ar-alw a refeniw hysbysebu gwasanaethau fideo ar-alw sy’n eiddo i ddarlledwyr yn y DU, fel ITV Hub ac All4. Wrth wneud hynny, gwnaethom dybiaeth ynghylch y berthynas rhwng gwylio fideo ar-alw a refeniw hysbysebu yn seiliedig ar adborth rhanddeiliaid, gan adlewyrchu ein barn y byddai’r gostyngiad yn y niferoedd sy’n gwylio fideo ar-alw yn ôl ein model ni, yn annhebygol o arwain at godi prisiau hysbysebion fideo ar-alw drwy arwain at fwy o brinder.
Llun: stockcam ar iStock
Asesu’r effaith ar fuddsoddiad gan gystadleuwyr masnachol
Fe wnaethom rai sylwadau wrth ystyried effaith cynigion BBC iPlayer ar gymhellion buddsoddi cystadleuwyr. Yn gyntaf, roeddem yn cydnabod bod tueddiadau ehangach yn y diwydiant - er enghraifft, twf gwasanaethau fideo ar-alw drwy danysgrifio fel Netflix, rhagor o wasanaethau fideo ar-alw drwy danysgrifio, (SVOD), newid yn arferion gwylwyr - o bosibl yn dylanwadu mwy ar fuddsoddiad na chynigion y BBC. Yn ail, er ein bod yn cydnabod y gall mwy o gystadleuaeth ysgogi buddsoddi, roeddem hefyd o’r farn y gallai BBC iPlayer yn gwthio’i gystadleuwyr o’u lle gael effaith negyddol ar eu buddsoddiad, oherwydd:
- Nid gwasanaeth masnachol ‘arferol’ yw BBC iPlayer. Yn wahanol i ddarlledwyr eraill, gall ddarparu rhagor o gynnwys yn rhad ac am ddim i ddefnyddwyr heb orfod ystyried proffidioldeb yr hyn mae’n ei wneud, felly nid yw’r amodau yr un fath i bawb. Mae hyn, o bosibl, yn golygu bod dadl Arrow, y bydd rhagor o gystadleuaeth yn ysgogi buddsoddi, yn llai perthnasol. Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod nad oes gan y BBC ryddid llwyr i weithredu o’i wirfodd, oherwydd bod rhaid iddo fodloni ei Genhadaeth a’i Ddibenion Cyhoeddus, yn ogystal â gofynion a bennir gan Ofcom;
- Mae’n bosibl mai ychydig iawn o bosibilrwydd sydd yna o gael effeithiau cadarnhaol ar fuddsoddiad. Yn 2019, nid yw fideo ar-alw yn wasanaeth newydd lle gall y BBC sbarduno diddordeb cynulleidfaoedd; nid yw fideo ar-alw yn sector lle mae cystadleuaeth yn wan ar hyn o bryd chwaith, felly gall y BBC roi hwb mawr i fuddsoddiad (er hyn, roeddem yn cydnabod bod angen i BBC iPlayer barhau i ddatblygu).
- Efallai y bydd cynigion BBC iPlayer yn lleihau’r refeniw y gall gwasanaethau cystadleuol ei gynhyrchu ac yn lleihau nifer y gwylwyr y mae buddsoddiadau cystadleuwyr yn eu denu neu’n eu cadw. O ganlyniad, gall cwmnïau masnachol ymateb i’r cynigion drwy leihau buddsoddiad – er enghraifft, gallent gynhyrchu llai o raglenni mewn genres drud fel drama. Gallai hyn gael effaith negyddol ar ddefnyddwyr os bydd yn arwain at lai o ddewis yn gyffredinol. Posibilrwydd arall yw bod cystadleuwyr masnachol yn ailsefydlu eu hunain i fod yn wahanol i BBC iPlayer. Gallai hyn effeithio ar wahanol wylwyr mewn gwahanol ffyrdd, gyda rhai yn cael mwy o raglenni sydd at eu dant ac eraill yn cael llai.
At ei gilydd, daethom i’r casgliad y gallai’r dirywiad tebygol mewn refeniw gwasanaethau fideo ar-alw sy’n eiddo i ddarlledwyr yn y DU (yn dibynnu ar y sefyllfa wrthffeithiol) leihau eu cymhellion i fuddsoddi. Gellid gweld bod hyn yn gogwyddo mwy tuag at ochr Schumpeter o’r ddadl yn hytrach na dadl Arrow, gyda chystadleuaeth yn lleihau buddsoddiad. Ond, mewn gwirionedd, mae’r casgliad hwn yn dibynnu mwy ar nodweddion y gwasanaethau hyn na disgyn ar un ochr i’r ddadl athronyddol. Mae’r nodweddion hyn yn deillio o natur y BBC a dynameg y sector a ddisgrifir uchod. Fodd bynnag, roeddem o’r farn nad oedd yn debygol y byddai effaith sylweddol ar gymhellion buddsoddi gwasanaethau fideo ar-alw drwy danysgrifio cwmnïau rhyngwladol mawr fel Netflix ac Amazon Prime Video. Mae’r rhain yn gwmnïau mawr byd-eang ac mae dadl gref fod pob darlledwr gwasanaeth cyhoeddus (gan gynnwys y BBC) yn ymateb i weithgareddau’r cwmnïau hyn yn hytrach na’r ffordd arall; mae cyfyngiad cystadleuol “anghymesur”.
Asesu gwerth cyhoeddus
Nid yw’r cysyniad o ‘werth cyhoeddus’ yn cael ei ddiffinio yn Siarter a Chytundeb y BBC. Roedd asesiad gwerth cyhoeddus y BBC ei hun yn ei Brawf Budd y Cyhoedd yn ystyried i ba raddau y bydd ei gynigion ar gyfer BBC iPlayer yn cyfrannu at gyflawni ei Genhadaeth a hyrwyddo ei Ddibenion Cyhoeddus.
O safbwynt economaidd, byddai gwerth cyhoeddus yn cynnwys gwerth preifat (neu bersonol) gwylio cynnwys a ddarperir gan y BBC i unigolion. Byddai hefyd yn cynnwys y gwerth cymdeithasol a gynhyrchir yn sgil unigolion yn defnyddio’r cynnwys hwn. Gellir disgrifio’r rhain fel allanoldebau cadarnhaol – fel poblogaeth fwy gwybodus ac addysgedig sy’n gallu cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yn well.
Popeth yn iawn hyd yma, yn gysyniadol. Ond mae yna broblem fach. Y mesur y dylid ei ddefnyddio yw gwerth cyhoeddus “net”, neu mewn geiriau eraill, y gwerth cyhoeddus ychwanegol sy’n gysylltiedig â chynnig y BBC. Er bod y gwerth cyhoeddus sy’n gysylltiedig â gwasanaeth BBC yn debygol o fod yn gadarnhaol (ar yr amod ei fod yn cael ei ddefnyddio), efallai y bydd y gwerth cyhoeddus net yn is (ar ôl ystyried unrhyw ostyngiad mewn gwerth cyhoeddus sy’n gysylltiedig â gwylio llai ar wasanaethau eraill y gallai gwylwyr fod wedi’u gwylio fel arall, boed y rheini’n rhai’r BBC neu’n rhai masnachol).
At ei gilydd, daethom i’r casgliad y gallai gwerth cyhoeddus sylweddol fod yn gysylltiedig â chynigion BBC iPlayer, oherwydd y byddai cynulleidfaoedd yn cael mwy o ddewis a mynediad at fwy o gynnwys darlledu gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys rhaglenni sy’n canolbwyntio ar y DU a rhagor o raglenni plant o ansawdd uchel.
Casgliad
Er mwyn gwneud ein penderfyniad terfynol, roedd yn rhaid i ni ystyried yn ofalus y dadleuon ynghylch y berthynas rhwng cystadleuaeth a buddsoddi a oedd yn codi yng nghyd-destun cynigion BBC iPlayer; eu gwerth cyhoeddus tebygol; a’r amgylchiadau unigryw yn y sector fideo ar-alw yn y DU lle nad oes angen i’r BBC, sy’n cael ei ariannu’n gyhoeddus, wneud elw yn yr un ffordd ag y mae’n rhaid i’w gystadleuwyr masnachol wneud. Daethom i’r casgliad nad oedd gwasanaethau fideo ar-alw drwy danysgrifio cwmnïau mawr rhyngwladol fel Netflix ac Amazon yn debygol o wynebu llai o gymhellion i fuddsoddi, ond gallai gwasanaethau fideo ar-alw llai sy’n eiddo i ddarlledwyr yn y DU fel All4 a My5 wynebu sefyllfa o’r fath. Ond, ar y cyfan, fe wnaethom benderfynu bod gwerth cyhoeddus cynigion BBC iPlayer yn cyfiawnhau’r effaith niweidiol ar gystadleuaeth y gwnaethom ei nodi. Felly roedd hyn yn caniatáu i newidiadau arfaethedig y BBC fwrw ymlaen, yn amodol ar amodau penodol.
Roedd hwn yn achos diddorol iawn o ran asesu effaith ehangu sefydliad a ariennir gan ffi’r drwydded ar gystadleuaeth a buddsoddi mewn diwydiant deinamig iawn. Rydym yn disgwyl adeiladu ar y profiad hwn a pharhau i ddatblygu ein syniadau ynghylch cystadleuaeth yn y sector fideo ar-alw, sy’n tyfu o hyd.
Daniel Coleman ac Adrien Cervera-Jackson – barn yr awduron sydd yma, ac nid yw’n cynrychioli barn Ofcom.