A man using a tablet at a table surrounded by paper bills

Sut y gwnaeth tariff cymdeithasol arbed cannoedd oddi ar gostau band eang

Cyhoeddwyd: 18 Tachwedd 2022
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Gallai llawer o bobl arbed arian ar eu biliau band eang drwy newid i 'dariff cymdeithasol' - pecyn band eang am gost ostyngol sydd ar gael i bobl ar fudd-daliadau penodol.

Ac mae pedwar darparwr hefyd wedi cyflwyno pecynnau tariff cymdeithasol newydd yn ddiweddar.

Mae EE, Vodafone, Wight Fibre a Community Fibre bellach yn cynnig y gwasanaethau hyn am gost is, ochr yn ochr ag amrywiaeth o ddarparwyr eraill.

Ydy tariff cymdeithasol gystal â gwasanaethau band eang eraill?

Mae'n werth cofio nad yw tariff cymdeithasol o reidrwydd yn golygu gwasanaeth israddol. Mae'r rhan fwyaf o'r pecynnau sydd ar gael ar hyn o bryd yn cynnig band eang cyflym iawn ar gyflymder dros 30 Mbit yr eiliad - yn ddigon cyflym i chi gadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, ffrydio ffilmiau mewn HD neu siopa ar-lein.

Clywch gan rywun sydd wedi newid i dariff cymdeithasol

Rydw i wedi mynd o dalu £42 y mis am fy mand eang i £15

Mae Waleed, 61 oed, yn dod o Lundain, mae wedi ymddeol ac yn byw gyda'i bartner a'i blentyn hŷn. Roedd yn cael trafferth ymdopi'n ariannol ac yn profi problemau gyda biliau cartref cyn iddo gael ei roi mewn cysylltiad â Clean Slate, cwmni buddiant cymunedol sy'n rhoi arweiniad ar faterion ariannol, sgiliau ar-lein a chyflogaeth.

Aeth Becci, gweithiwr cefnogi Waleed, drwy Wiriad Iechyd Ariannol gydag ef, i gael syniad o'i incwm a'i wariant ac i nodi cyfleoedd i wneud arbedion neu i ddod o hyd i gymorth a chynigion.

Esboniodd Becci wrth Waleed, am ei fod yn hawlio Credyd Cynhwysol, ei fod yn gymwys i gael tariff cymdeithasol.

Doedd gen i ddim syniad am dariffau cymdeithasol", meddai Waleed. “Dwi wedi mynd o dalu £504 y flwyddyn i £180. Dwi eisoes wedi rhoi gwybod i'r rhan fwyaf o fy ffrindiau amdano, felly gobeithio y gall rhai ohonyn nhw gael bargen well hefyd.

Mae'r cyflymder yn union yr un fath, mae'n gyflym iawn ac roeddwn i'n ei chael hi'n hawdd iawn cofrestru amdano ar ôl i Becci fy rhoi ar y trywydd iawn.

Waleed
Yn ôl i'r brig