woman under stress HERO (1336 × 560px) (1)

Ofcom yn ymchwilio i fforwm hunanladdiad ar-lein

Cyhoeddwyd: 9 Ebrill 2025

Heddiw, mae Ofcom wedi lansio ymchwiliad i weld a yw darparwr fforwm hunanladdiad ar-lein wedi methu cydymffurfio â’i ddyletswyddau o dan Ddeddf Diogelwch Ar-lein y Deyrnas Unedig. 

Dyma’r ymchwiliad cyntaf i ddarparwr gwasanaeth ar-lein unigol o dan y cyfreithiau newydd hyn. Yn benodol, rydym yn ymchwilio i weld a yw’r darparwr hwn wedi methu gwneud y canlynol:

  • rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith i ddiogelu ei ddefnyddwyr yn y Deyrnas Unedig rhag cynnwys a gweithgarwch anghyfreithlon;
  • cwblhau – a chadw cofnod o – asesiad risg niwed anghyfreithlon addas a digonol; a
  • ymateb yn ddigonol i gais statudol am wybodaeth.

Oherwydd ei natur, rydym wedi penderfynu peidio ag enwi’r darparwr na’r fforwm.

Rhwymedigaethau cyfreithiol dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein

Roedd gan ddarparwyr gwasanaethau sydd o fewn cwmpas y Ddeddf[1] tan 16 Mawrth i asesu pa mor debygol yw pobl yn y Deyrnas Unedig o ddod ar draws cynnwys anghyfreithlon ar eu gwasanaeth, a sut gellid defnyddio eu gwasanaeth i gyflawni neu hwyluso troseddau ‘blaenoriaeth’ – gan gynnwys annog neu gynorthwyo hunanladdiad.[2]

Ar 17 Mawrth, daeth dyletswyddau i rym sy’n golygu bod yn rhaid i ddarparwyr yn awr gymryd camau i ddiogelu eu defnyddwyr yn y Deyrnas Unedig rhag cynnwys a gweithgarwch anghyfreithlon, gan gynnwys drwy ddefnyddio mesurau cymesur i wneud y canlynol:

  • lliniaru’r risg y bydd eu gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio i gyflawni neu hwyluso trosedd â blaenoriaeth;
  • atal unigolion rhag dod ar draws cynnwys anghyfreithlon sy'n cael blaenoriaeth; a
  • tynnu cynnwys anghyfreithlon i lawr yn gyflym pan fyddant yn dod yn ymwybodol ohono.

Mae codau ymarfer a chanllawiau Ofcom yn nodi ffyrdd y gall darparwyr gydymffurfio â’r dyletswyddau hyn.

Yn ogystal, mae’n rhaid i ddarparwyr ymateb i bob cais statudol gan Ofcom am wybodaeth, a hynny mewn ffordd gywir, gyflawn ac amserol.

Camau gorfodi cynnar

Ein man cychwyn ar gyfer sicrhau cydymffurfiad yw rhoi cyfle i ddarparwyr gwasanaethau ymgysylltu â’n timau cydymffurfio pwrpasol ynghylch yr hyn y mae angen iddynt ei wneud o dan eu dyletswyddau newydd.

Fodd bynnag, rydym wedi bod yn glir y gallai methu cydymffurfio â’r dyletswyddau diogelwch ar-lein newydd neu ymateb yn ddigonol i’n ceisiadau am wybodaeth arwain at gamau gorfodi, ac na fyddem yn oedi cyn gweithredu’n gyflym pan rydym yn amau bod achosion difrifol o dorri’r dyletswyddau.

Rydym wedi gwneud sawl ymdrech i ymgysylltu â’r darparwr gwasanaeth hwn mewn perthynas â’i ddyletswyddau o dan y Ddeddf ac wedi cyflwyno cais cyfreithiol rwymol i gyflwyno’r cofnod o’i asesiad risg niwed anghyfreithlon i ni.

Ar ôl cael ymateb cyfyngedig i’n cais, a gwybodaeth anfoddhaol am y camau sy’n cael eu cymryd i ddiogelu defnyddwyr y Deyrnas Unedig rhag cynnwys anghyfreithlon, rydym wedi lansio ymchwiliad heddiw i weld a yw’r darparwr yn cydymffurfio â’i rwymedigaethau cyfreithiol o dan y Ddeddf.

Proses ymchwilio Ofcom

Mae cyfraith y Deyrnas Unedig yn nodi’r broses mae’n rhaid i Ofcom ei dilyn wrth ymchwilio i ddarparwr unigol a phenderfynu a yw wedi methu cydymffurfio â’i rwymedigaethau cyfreithiol.

Byddwn yn awr yn casglu ac yn dadansoddi tystiolaeth i benderfynu a oes tramgwydd wedi digwydd. Os bydd ein hasesiad yn dangos methiant o ran cydymffurfio, byddwn yn rhoi hysbysiad dros dro o dramgwyddo i’r darparwr, a fydd wedyn yn gallu cyflwyno sylwadau ar ein canfyddiadau, cyn i ni wneud ein penderfyniad terfynol.

Byddwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwiliad hwn cyn gynted â phosibl.

Typical OS investigation programme process​ CYM

Pwerau gorfodi

Pan fyddwn yn canfod methiannau o ran cydymffurfio, gallwn ei gwneud yn ofynnol i lwyfannau gymryd camau penodol er mwyn cydymffurfio. Gallwn hefyd roi dirwyon o hyd at £18 miliwn, neu 10% o’u refeniw byd-eang cymwys, pa un bynnag sydd fwyaf.

Pan fo’n briodol, yn yr achosion mwyaf difrifol, gallwn ofyn am orchymyn llys ar gyfer ‘mesurau tarfu ar fusnes’, fel mynnu bod darparwyr taliadau neu hysbysebwyr yn tynnu eu gwasanaethau oddi ar blatfform, neu fynnu bod Darparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd yn rhwystro mynediad i safle yn y Deyrnas Unedig.

Gweithgarwch gorfodi parhaus arall

Fis diwethaf, fe wnaethom lansio rhaglen orfodi i asesu’r mesurau diogelwch sy’n cael eu cymryd gan ddarparwyr rhannu a storio ffeiliau i atal troseddwyr rhag lledaenu deunydd cam-drin plant yn rhywiol ar eu gwasanaethau.

Ym mis Ionawr, fe wnaethom agor rhaglen orfodi i fesurau sicrwydd oedran yn y sector i oedolion.

Rydym yn disgwyl gwneud cyhoeddiadau ychwanegol am gamau gorfodi ffurfiol dros y misoedd nesaf, yn enwedig gyda rhagor o ddyletswyddau’n dod i rym o dan y Ddeddf.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

1. Mae gwasanaethau sydd o fewn cwmpas y Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn cynnwys gwasanaethau chwilio a gwasanaethau ‘defnyddiwr-i-ddefnyddiwr’ gyda nifer sylweddol o ddefnyddwyr y Deyrnas Unedig neu sy’n targedu marchnad y Deyrnas Unedig, ni waeth ble mae’r darparwr wedi ei leoli, gan fod y Ddeddf yn cynnwys cymhwyso ac awdurdodaeth all-diriogaethol. Gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr yw lle gall pobl ddod ar draws cynnwys – gan gynnwys delweddau, fideos, negeseuon neu sylwadau – sydd wedi cael eu creu, eu llwytho i fyny neu eu rhannu gan ddefnyddwyr eraill. Er enghraifft, cyfryngau cymdeithasol neu lwyfannau rhannu fideos, negeseuon, apiau gemau a chwrdd â chariadon, fforymau a safleoedd rhannu ffeiliau.

2. Mae’r Ddeddf yn rhestru dros 130 o ‘droseddau blaenoriaeth’ - mae’n rhaid i ddarparwyr asesu a lliniaru’r risg o’r rhain yn digwydd ar eu gwasanaeth. Gellir rhannu’r troseddau blaenoriaeth i’r 17 categori canlynol:

  • Terfysgaeth
  • Troseddau’n ymwneud ag aflonyddu, stelcio, bygwth a cham-drin
  • Ymddygiad sy’n gorfodi ac yn rheoli
  • Troseddau casineb
  • Camddefnyddio delweddau personol
  • Pornograffi eithafol
  • Cam-drin a chamfanteisio ar blant
  • Camfanteisio’n rhywiol ar oedolion
  • Mewnfudo anghyfreithlon
  • Masnachu pobl
  • Twyll a throseddau ariannol
  • Elw troseddau
  • Cynorthwyo neu annog hunanladdiad
  • Cyffuriau a sylweddau seicoweithredol
  • Troseddau’n ymwneud ag arfau (cyllyll, arfau tanio ac arfau eraill)
  • Ymyrraeth dramor
  • Lles anifeiliaid
Yn ôl i'r brig