Datganiad: Diogelu pobl rhag niwed anghyfreithlon ar-lein

Cyhoeddwyd: 16 Rhagfyr 2024

Heddiw, rydym yn cyhoeddi ein Datganiad polisi mawr cyntaf ar gyfer y drefn Diogelwch Ar-lein. 

Mae’r penderfyniad hwn ar y Codau a’r canllawiau Niwed Anghyfreithlon yn garreg filltir bwysig, gyda darparwyr ar-lein bellach yn gorfod diogelu eu defnyddwyr yn gyfreithiol rhag niwed anghyfreithlon. 

Cyhoeddodd Ofcom gynigion am y camau y dylai darparwyr eu cymryd i fynd i’r afael â niwed anghyfreithlon ar eu gwasanaethau yn fuan ar ôl pasio’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein ym mis Hydref 2023. Ers hynny, rydym wedi bod yn ymgynghori’n ofalus ac yn eang, gan wrando ar ddiwydiant, elusennau ac ymgyrchwyr, rhieni a phlant, yn ogystal â chyrff arbenigol ac asiantaethau gorfodi’r gyfraith. Gyda chyhoeddiad heddiw,1, mae’n rhaid i ddarparwyr ar-lein gymryd camau i ddechrau cydymffurfio â’r rheolau newydd hyn. Y canlyniad fydd bywyd mwy diogel ar-lein i bobl yn y DU, yn enwedig plant. 

Mae gan ddarparwyr ddyletswydd nawr i asesu’r risg o niwed anghyfreithlon ar eu gwasanaethau, gyda dyddiad cau o 16 Mawrth 2025. Yn amodol ar y Codau’n cwblhau’r broses Seneddol, o 17 Mawrth 2025 ymlaen, bydd angen i ddarparwyr gymryd y mesurau diogelwch a nodir yn y Codau neu ddefnyddio mesurau effeithiol eraill i ddiogelu defnyddwyr rhag cynnwys a gweithgarwch anghyfreithlon. Rydym yn barod i gymryd camau gorfodi os nad yw darparwyr yn gweithredu’n brydlon i fynd i’r afael â’r risgiau sydd ar eu gwasanaethau. 

Mae hyn yn cael ei amlinellu ymhellach yn ein dogfen Trosolwg.

Gwneud ein dogfennau’n hygyrch

Hoffem ddiolch i’r nifer fawr o randdeiliaid – o gymdeithas sifil, gwasanaethau o bob maint, arbenigwyr, a chyrff eraill yn y sector cyhoeddus – sydd wedi rhoi o’u hamser i ymgysylltu â’n cynigion. 

Rydym yn rheoleiddiwr sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ac rydym wedi archwilio ymatebion rhanddeiliaid ac ymchwil perthnasol yn drylwyr cyn nodi’r rhesymeg dros ein penderfyniadau. Mae hon wedi bod yn dasg fawr i’w chyflawni, gyda mwy na 130 o droseddau blaenoriaeth a 100K a mwy o wasanaethau o fewn cwmpas ein gwaith rheoleiddio.  

Mae hyd a lled a chymhlethdod y drefn newydd hon yn golygu bod y ddogfen rydym yn ei chyhoeddi heddiw yn berthnasol i lawer o feysydd. Rydym felly wedi cymryd camau i’w gwneud mor hygyrch â phosibl, gan gynnwys: 

  • Crynodeb o’n penderfyniadau a’r gwasanaethau defnyddiwr i ddefnyddiwr a’r gwasanaethau chwilio maent yn berthnasol iddynt.
  • Crynodeb o bob pennod, gan nodi’r hyn mae’n ymwneud ag ef, yr adborth a gafwyd gan randdeiliaid, a’n penderfyniadau. 

Rydym hefyd yn awgrymu dogfennau penodol y gallai gwahanol randdeiliaid fod â diddordeb ynddynt:

  1. Darparwyr gwasanaethau bach/canolig eu maint: efallai byddant eisiau dechrau gyda’n hadnodd digidol pan fydd ar gael ac adolygu ein dogfennau cryno lle bo hynny’n briodol, cyn troi at ein canllawiau asesu risg, wedi’u dilyn gan ein Codau (wedi’u hategu gan ein dogfennau canllaw eraill).
  2. Sefydliadau cymdeithas sifil: efallai y bydd ganddynt ddiddordeb arbennig yn y rhesymeg dros ein penderfyniadau, gan ddechrau gyda’r Trosolwg, a’r crynodebau o benodau. Efallai y byddant yn gweld meysydd o ddiddordeb penodol i’w darllen yn fanylach, er enghraifft ymchwil ar niwed penodol neu wybodaeth am fesurau penodol.
  3. Darparwyr gwasanaethau mawr: maent yn fwyaf tebygol o fod eisiau defnyddio cyfuniad o’n holl ddeunyddiau, gan gynnwys yr adnodd digidol, ond rydym yn disgwyl iddynt ganolbwyntio i ddechrau ar y canllawiau asesu risg, y Codau a’r dogfennau canllaw eraill eu hunain.
  4. Unigolion mewn darparwyr gwasanaethau:
    1. Mae’n bosibl iawn y bydd cyfreithwyr cydymffurfio eisiau canolbwyntio ar ein Codau a’n dogfennau canllaw, yn enwedig ein canllawiau asesu risg.
    2. Efallai y bydd gweithwyr ymddiriedaeth a diogelwch eisiau canolbwyntio ar y Gofrestr Risgiau, Codau ar gymedroli cynnwys a chymedroli chwilio, a’r ICJG.
  5. Unigolion sydd â diddordeb ehangach mewn diogelwch ar-lein: Efallai byddant eisiau dechrau gyda’r Trosolwg a’r crynodeb o’n penderfyniadau.

Deunyddiau hygyrch

Bydd yr adnoddau hyn yn eich helpu i ddeall ein penderfyniadau a'ch dyletswyddau dilynol yn well.

Mae’r ddogfen hon yn rhoi crynodeb lefel uchel o bob pennod o’n Datganiad Niwed Anghyfreithlon i helpu rhanddeiliaid i lywio ac ymgysylltu â’n dogfen.

Crynodeb o bob pennod (PDF, 492 KB)

This document summarises the decisions we are making in our Illegal Harms statement and outlines which services they relate to.

Crynodeb o'n penderfyniadau (PDF, 306KB)

Check how to comply with the illegal content rules 

Yn gynnar yn 2025, byddwn yn lansio adnodd i’ch helpu chi i weld sut mae cydymffurfio â dyletswyddau o ran cynnwys anghyfreithlon.

Bydd yr adnodd yn cael ei rannu’n bedwar cam sy’n dilyn canllawiau asesu risg Ofcom. Bydd dilyn y camau hyn yn eich helpu i gydymffurfio â’r dyletswyddau asesu risg cynnwys anghyfreithlon, a’r dyletswyddau cysylltiedig ar gyfer diogelwch, cadw cofnodion ac adolygu.

Penodau cyd-destun

Rhagymadrodd, ein dyledswyddau, a llywio y gosodiad (PDF, 191 KB) (mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig).

Trosolwg o Niwed Anghyfreithlon (PDF, 242 KB) (mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig).

Trosolwg o wasanaethau rheoleiddiedig (PDF, 709 KB) (mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig).

Ein dull o ddatblygu mesurau Codau (PDF, 532 KB) (mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig).

Cyfrolau

Cyf 1: Llywodraethu a Rheoli Risg (PDF, 1,128 KB) (Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig).

Cynnwys:

  • Pennod 1: Cyflwyniad i'r gyfrol
  • Pennod 2: Cofrestr Risgiau a Phroffiliau Risg
  • Pennod 3: Canllawiau Asesu Risg i Ddarparwyr Gwasanaeth
  • Pennod 4: Cadw cofnodion ac adolygu
  • Pennod 5: Strwythur sefydliadol a llywodraethu

Cyfrol 2 Dylunio Gwasanaeth a Dewis Defnyddwyr (PDF, 4,699 KB) (Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig).

Cynnwys:

  • Pennod 1: Cyflwyniad i'r gyfrol
  • Pennod 2: Cymedroli cynnwys
  • Pennod 3: Chwiliad safoni
  • Pennod 4: Cymedroli cynnwys awtomataidd
  • Pennod 5: Cymedroli chwiliad awtomataidd
  • Pennod 6: Adrodd a chwynion
  • Pennod 7: Systemau argymell
  • Pennod 8: Gosodiadau U2U, swyddogaethau, a chefnogaeth i ddefnyddwyr
  • Pennod 9: Dyluniad chwilio, swyddogaethau, a chymorth i ddefnyddwyr
  • Pennod 10: Telerau gwasanaeth a datganiadau sydd ar gael i'r cyhoedd
  • Pennod 11: Mynediad defnyddwyr
  • Pennod 12: Rheolaethau defnyddwyr
  • Pennod 13: Asesiad Effaith Cyfunol
  • Pennod 14: Profion Statudol

Cyf 3: Tryloywder ac ymddiriedaeth a chanllawiau eraill (PDF, 1,361 KB) (Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig).

Cynnwys:

  • Pennod 1: Cyflwyniad i'r gyfrol
  • Pennod 2: Canllaw Dyfarniadau Cynnwys Anghyfreithlon Ofcom
  • Pennod 3: Pwerau gorfodi Ofcom
  • Pennod 4: Canllawiau ar gynnwys a gyfathrebir yn ‘gyhoeddus’ ac yn ‘breifat’ o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein
Yn ôl i'r brig