Dyma'n heiriolwr dros ddefnyddwyr a Chyfarwyddwr Grŵp Ofcom, Lindsey Fussell, yn esbonio'r cynnydd mewn prisiau telathrebiadau a beth i'w wneud amdano.
Efallai eich bod wedi gweld adroddiadau yn ddiweddar am gynlluniau cwmnïau band eang a ffôn i godi'r prisiau y mae eu cwsmeriaid yn eu talu.
Rydym yn deall y bydd y newyddion hyn yn arbennig o annymunol ar adeg pan fydd cyllidebau cartrefi eisoes o dan straen sylweddol, gyda'r cynnydd sydyn mewn costau byw.
Er nad yw Ofcom yn pennu prisiau manwerthu, rydym yn pryderu am y posibilrwydd o godiadau sy'n sylweddol uwch na chwyddiant – a fydd yn rhoi straen ar y rhai sy'n gallu eu fforddio leiaf.
Rydym yn disgwyl i ddarparwyr wneud mwy i roi gwybod i gwsmeriaid cymwys sy'n derbyn budd-daliadau penodol am y bargeinion rhatach arbennig y gallant eu cael, a elwir weithiau'n 'dariff cymdeithasol’. Mae'n rhaid hefyd iddynt sicrhau bod cofrestru am y rhain yn gyflym ac yn syml.
Dod o hyd i fargen rhatach
Mae marchnad ffôn a band eang y DU yn gystadleuol dros ben. Felly, os ydych wedi mynd heibio (neu'n agosáu at) isafswm cyfnod eich contract, gallwch chwilio am fargen rhatach – naill ai gyda'ch darparwr presennol, neu drwy newid i un newydd.
Awgryma ein hymchwil y gallai pobl sy'n bargeinio gyda'u darparwr neu'n siopa o gwmpas osgoi cynnydd costus mewn prisiau – ac efallai y byddant yn cael gwell gwasanaeth heb orfod talu mwy.
O dan reolau Ofcom mae'n rhaid i ddarparwyr roi gwybod i’w cwsmeriaid pan fydd eu contract yn dod i ben, a dweud wrthynt faint y gallen nhw ei arbed drwy ddechrau cytundeb newydd. Mae hyn wedi arwain at fwy na miliwn o bobl yn sicrhau gwell bargen mewn un flwyddyn. A gallai miliynau yn fwy sydd allan o gontract heddiw wneud yr un peth.
Darganfyddwch a ydych chi'n un ohonynt, a siaradwch â'ch darparwr presennol ynghylch y fargen orau y gallan nhw ei chynnig i chi. Yna cymharwch hynny â bargeinion gan ddarparwyr eraill gan ddefnyddio gwefan cymharu prisiau a achredir gan Ofcom i weld pa un sy'n diwallu eich anghenion a'ch cyllideb orau. Dyma rai cwestiynau i'w gofyn:
- 1. Ydw i dal yn fy nghyfnod contract cychwynnol?
- Faint dylwn i fod yn talu?
- Sut gallai'r pris newid yn ystod y cyfnod contract hwn?
- Sut gallaf gael gwell gwasanaeth a faint fydd y pris?
- Pa mor hir bydd y contract yma'n para?
- Oes angen i mi dalu unrhyw ffoedd ar gyfer contract newydd?
- Beth sy'n digwydd pan ddaw'r contract yna i ben?
Ble mae fy arian yn mynd?
Bydd llawer o gwsmeriaid yn gofyn iddynt eu hunain pam mae eu darparwr yn codi ei brisiau, a ble mae'r arian hwnnw'n mynd?
Mae angen rhywfaint o'r arian hwn i fuddsoddi mewn rhwydweithiau gwell. Rydym yn cydnabod, er mwyn cynnal ac uwchraddio'r gwasanaethau cyfathrebu yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt, y bydd angen i ddarparwyr telathrebu adeiladu rhwydweithiau ar gyfer y dyfodol.
Mae'r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw gwasanaethau telathrebu dibynadwy i'r ffordd yr ydym yn byw. Cyrhaeddodd y defnydd o'r rhyngrwyd y lefelau uchaf erioed, ar adeg pan fu'n rhaid i filiynau o deuluoedd ledled y DU jyglo eu gwaith, eu haddysg a'u bywydau cymdeithasol i gyd o dan yr un to.
O ganlyniad i hynny, mae pobl yn defnyddio tair gwaith cymaint o ddata â phum mlynedd yn ôl. Disgwylir i'r galw gan aelwydydd sy'n llwglyd o ran data gynyddu ymhellach yn y dyfodol wrth i'r defnydd o ddyfeisiau cysylltiedig o amgylch y cartref fynd yn fwy cyffredin.
Gallai pobl sy'n bargeinio gyda'u darparwr neu sy'n siopa o gwmpas osgoi pris uchel
Mae Ofcom wedi bod yn gweithio gyda'r diwydiant telathrebu i sicrhau bod y rhwydweithiau rydym yn dibynnu arnynt i ddarparu'r gwasanaethau hyn yn gallu ymdrin â'r cynnydd sylweddol hwnnw yn y galw. Mae hyn yn gofyn am gyllid sylweddol – a chynyddodd buddsoddiad yn seilwaith y rhwydweithiau telathrebu bron 10% yn 2020 i fwy na £6.3bn.
O ganlyniad, mae mwy nag wyth miliwn o gartrefi bellach yn gallu elwa o fand eang ffeibr llawn, technoleg sy'n gadarn at y dyfodol gyda'r cyflymder uchaf a mwyaf dibynadwy i aelwydydd. Mae'r ffigur hwnnw'n tyfu'n gyflym iawn, gyda thair miliwn ychwanegol yn elwa yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Ond mae cydbwysedd rhwng buddsoddi mewn rhwydweithiau a chadw prisiau'n fforddiadwy. Mae cwmnïau nad ydynt cael y cydbwysedd cywir yn wynebu'r risg o golli cwsmeriaid i'r rhai sydd yn ei gael yn iawn. Ac mae gan bob darparwr ddewis ynghylch pryd i godi prisiau.
Bydd Ofcom yn parhau i fonitro prisiau'n ofalus, wrth i ni gadw pwysau ar gwmnïau ffôn a band eang i sicrhau nad yw pobl yn cael eu prisio allan o wasanaethau fforddiadwy, a bod y rhai sy'n cael trafferth wrth dalu eu biliau'n derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt. Hefyd, byddwn yn nodi'n fuan gynlluniau i gryfhau mesurau diogelu ar gyfer cwsmeriaid mewn dyled a'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd talu.