Mae llawer o bobl yn pryderu am gostau byw cynyddol ac yn edrych ar ffyrdd y gallent arbed arian ar y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio bob dydd. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau ffôn, band eang a theledu-drwy-dalu.
Yn ffodus, mae yna gamau y gallwch eu cymryd i sicrhau nad ydych yn talu gormod, neu i arbed arian ar y gwasanaethau rydych chi'n eu defnyddio.
Bwrw golwg ar ein hawgrymiadau i weld a allent eich helpu.
A allech chi fod yn gymwys i gael pecyn ffôn neu fand eang rhatach?
Os ydych yn cael trafferth talu am eich gwasanaeth ffôn neu fand eang, siaradwch â'ch darparwr cyn gynted â phosib i weld sut y gallent eich helpu.
Mae nifer o bethau y gallant eu cynnig – gelwir un o'r rhain yn 'dariff cymdeithasol', sy'n becyn rhatach a gynigir gan rai darparwyr i rai cwsmeriaid gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau, sef derbyn budd-daliadau gan y llywodraeth megis Credyd Cynhwysol fel arfer.
I gael gwybod mwy am yr ystod o becynnau sydd ar gael ac i weld a allech chi fod yn gymwys, gweler ein canllaw.
Os ydych chi allan o gontract fe allech gael bargen well
Mae miliynau o bobl allan o gontract, a gallent fod yn cael gwell bargen ar eu contractau ffôn, band eang a theledu-drwy-dalu. Os ydych chi'n meddwl y gallech chi fod yn un ohonynt, mae tri cham syml i'w cymryd.
1. Gwiriwch a ydych chi mewn contract neu allan o gontract
Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer gwasanaeth newydd, yn gyffredinol rydych wedi'ch clymu i mewn am 12, 18 neu 24 mis. Mae hyn fel arfer yn golygu nad ydych yn gallu gadael eich darparwr gwasanaeth heb dalu ffi. I wirio a ydych o fewn y cyfnod contract hwn o hyd, gofynnwch i'ch darparwr neu gwiriwch gan ddefnyddio eu gwefan neu ap. Os nad ydych chi wedi siarad â’ch darparwr yn ystod y cwpl o flynyddoedd diwethaf, mae’n debyg eich bod chi allan o gontract.
2. Dewch o hyd i'r bargeinion gorau yn y farchnad
Os ydych chi allan o gontract, mae’n hawdd cael gwybod a oes bargen well ar gael i chi. Mae gwefannau cymharu prisiau, fel y rhai a achredir gan Ofcom, yn rhoi gwybodaeth am y bargeinion gorau sydd ar gael.
Ni fu newid erioed yn symlach - gallwch newid rhwydwaith symudol gyda neges destun syml, a chanslo eich contract band eang os nad ydych yn derbyn y cyflymder a addawyd i chi pan wnaethoch chi gofrestru. I gael gwybod mwy, gweler ein canllaw i newid.
3. Gofynnwch i’ch darparwr presennol a yw’n fodlon cynnig bargen gyfatebol.
Os ydych chi allan o gontract, mae’n debyg eich bod yn talu gormod, ac mae’n amser i siarad â’ch darparwr. Efallai y bydd eich darparwr yn gallu cynnig yr un bargeinion â’r rhai rydych chi wedi’u gweld yn rhywle arall, neu fargen well hyd yn oed.
Trwy dreulio cyn lleied â phum munud ar y ffôn gyda’ch darparwr, gallech chi arbed cannoedd o bunnau. Os nad ydych yn siŵr beth i ofyn am, dylai’r cwestiynau canlynol helpu:
- Ydw i yn fy nghyfnod contract cychwynnol o hyd?
- Faint ydw i'n ei dalu?
- Beth ydw i'n cael am y pris hwnnw?
- Alla i gael gwasanaeth gwell, a faint fydd hynny’n ei gostio?
- Pa mor hir fydd y contract hwnnw yn para?
- A oes angen i mi dalu unrhyw ffioedd i gael bargen newydd?
- Beth fydd yn digwydd pan ddaw’r contract hwnnw i ben?
Gwiriwch eich pecynnau teledu-drwy-dalu – oes angen nhw i gyd arnoch chi?
Mae gan lawer o gartrefi danysgrifiadau lluosog ar gyfer gwahanol wasanaethau teledu-drwy-dalu a ffrydio. Fodd bynnag, yn aml mae gorgyffwrdd o ran y cynnwys a ddangosir ar y gwasanaethau hyn – efallai bod mwy nag un gwasanaeth yn cyflwyno'r un ffilmiau a chyfresi teledu i chi, er enghraifft.
Edrychwch ar ba becynnau ffilm a theledu rydych chi'n eu cael drwy eich gwasanaethau ac ystyriwch a fyddech chi'n colli allan yn sylweddol pe byddech chi'n canslo un neu fwy ohonynt.
Gellir canslo llawer o wasanaethau ffrydio ar unwaith heb fod yn ddarostyngedig i unrhyw fath o dâl cosb, felly hyd yn oed os yw'n fesur dros dro mae'n werth ystyried a allwch ddod i ben heb unrhyw un o'r gwasanaethau rydych chi'n eu defnyddio ar hyn o bryd.
Byddwch yn ymwybodol o gostau galwadau
Mae gan y rhan fwyaf ohonom maint penodol o alwadau a negeseuon testun wedi'u cynnwys yn ein pecynnau ffôn cartref a symudol, ond mae'n werth cofio na fydd y rhain bob amser yn cynnwys rhifau cyfradd premiwm, er enghraifft.
Os oes angen i chi wneud llawer o alwadau ffôn a allai gynnwys rhai sydd y tu allan i'ch pecyn galwadau cynhwysol, gwiriwch ymlaen llaw faint y gallai'r galwadau hynny ei gostio.
Mae ein canllaw costau galwadau yn dangos costau amrywiol ffonio rhifau gwahanol. Bwrw golwg ar ein canllaw am fwy o wybodaeth.
Mwy o wybodaeth
Os ydych yn cael trafferth talu bil, peidiwch â'i anwybyddu - siaradwch â'ch darparwr cyn gynted â phosib, oherwydd y byddant o bosib yn gallu helpu. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, darllenwch ein canllaw.
Mae gennym amrywiaeth o wybodaeth am gostau, bilio a newid a allai eich helpu i arbed arian ar eich ffôn, band eang a theledu-drwy-dalu. Edrychwch i weld a allech chi gael bargen well.