Ofcom yw rheoleiddiwr diogelwch ar-lein y DU ac mae’n gwneud yn siŵr bod sefydliadau sy’n daparu gwasanaethau ar-lein yn cyflawni eu dyletswyddau i gydymffurfio â rheolau newydd, er mwyn helpu i ddiogelu eu defnyddwyr rhag cynnwys niweidiol.
Mae ein hymchwil yn dangos bod dros 100,000 o wasanaethau ar-lein yn debygol o fod o fewn cwmpas y Ddeddf Diogelwch Ar-lein – o’r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol mwyaf i’r fforwm cymunedol lleiaf. Rydyn ni’n gwybod bod rheoliadau newydd yn gallu creu ansicrwydd – yn enwedig i sefydliadau bach sy’n cael eu rhedeg ar sail rhan-amser neu’n wirfoddol efallai.
Rydyn ni wedi clywed pryderon gan rai gwasanaethau llai y bydd y rheolau newydd yn ormod o faich iddyn nhw. Mae rhai yn credu nad oes ganddynt yr adnoddau i’w neilltuo i asesu risg ar eu llwyfannau ac i wneud yn siŵr bod ganddynt fesurau ar waith i’w helpu i gydymffurfio â’r rheolau. O ganlyniad, mae rhai gwasanaethau llai yn teimlo y bydd angen iddynt gau’n gyfan gwbl o bosib.
Felly, roedden ni’n awyddus i sicrhau’r gwasanaethau llai hynny nad yw hyn yn debygol o ddigwydd.
Mae cymesuredd yn allweddol
Mae’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein, a’n dull gweithredu ar gyfer ei rhoi ar waith, yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â niwed i bobl ledled y DU a gwneud hynny mewn ffordd sy’n gymesur ac yn seiliedig ar risg. Os yw gwasanaethau o fewn cwmpas y ddeddf, bydd angen iddynt gymryd camau i gydymffurfio, ond bydd y gofynion mwy beichus ar y gwasanaethau mwyaf sydd â’r cyrhaeddiad uchaf a/neu’r gwasanaethau hynny sydd â risg uchel iawn.
Yn anffodus, gwyddom hefyd y gall niwed fodoli ar y gwasanaethau lleiaf yn ogystal â’r rhai mwyaf. Felly, mae camau sylfaenol y mae angen i bob gwasanaeth o fewn y cwmpas eu cymryd i sicrhau eu hunain a’u defnyddwyr eu bod yn deall y risgiau sy’n bodoli ar eu gwasanaeth a, lle bo angen, y camau y byddant yn eu cymryd i’w lliniaru.
Os yw sefydliadau wedi cynnal asesiad risg addas a digonol ac wedi penderfynu, gyda rheswm da, bod y risgiau maen nhw’n eu hwynebu yn isel, dim ond mesurau pwysig ond sylfaenol y bydd disgwyl iddynt eu rhoi ar waith i ddileu cynnwys anghyfreithlon pan fyddant yn dod yn ymwybodol ohono. Mae’r rhain yn cynnwys:
- telerau ac amodau dealladwy, hawdd eu canfod;
- adnodd cwyno sy’n caniatáu i ddefnyddwyr roi gwybod am ddeunydd anghyfreithlon neu niweidiol pan fyddant yn ei weld, wedi’i ategu gan broses i ddelio â’r cwynion hynny;
- y gallu i adolygu cynnwys a’i dynnu i lawr yn gyflym os oes ganddynt reswm i gredu ei fod yn anghyfreithlon;
- unigolyn penodol sy’n gyfrifol am gydymffurfio ac a fydd yn bwynt cyswllt i ni os bydd angen.
Tri cham ar gyfer eich gwasanaeth ar-lein
Dyma’r tri cham allweddol i’ch helpu chi i ddeall y ddeddf:
Cam 1: Ydw i o fewn y cwmpas? Gallwch chi ddefnyddio ein teclyn gwirio cwmpas i weld yn gyflym a ydych chi’n debygol o fod o fewn cwmpas y Ddeddf ai peidio: Gwiriwch a yw’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn berthnasol i chi – Ofcom.
Cam 2: Rydw i o fewn y cwmpas. Beth sydd angen i fi ei wneud? Mae ein canllaw rheoliadau diogelwch ar-lein yn darparu gwybodaeth am sut mae cydymffurfio, yn enwedig ar gyfer sefydliadau llai. Rydyn ni hefyd wedi lansio pecyn cymorth digidol sy’n darparu canllaw rhyngweithiol cam wrth gam i’r hyn y mae angen i chi ei wneud i gydymffurfio â’r Ddeddf.
Cam 3: Sut mae cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd? Rydyn ni’n anfon diweddariadau rheolaidd am bopeth y mae angen i chi ei wybod. Os nad ydych chi wedi gwneud hynny’n barod, cofrestrwch i gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio.