Heddiw, rydyn ni wedi cyhoeddi llythyr agored i ddarparwyr gwasanaethau ar-lein sy’n gweithredu yn y DU ynghylch sut bydd Deddf Diogelwch Ar-lein y DU yn berthnasol i Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol a sgwrsfotiau.
Dyma’r llythyr yn llawn:
I ddarparwyr gwasanaethau ar-lein sy’n gweithredu yn y Deyrnas Unedig,
Yn ystod yr wythnosau a’r misoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld nifer o achosion o niwed ar-lein lle mae Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol wedi cael ei ddefnyddio, sef modelau deallusrwydd artiffisial sy’n gallu creu testun, delweddau, sain a fideos mewn ymateb i sbardun gan ddefnyddiwr. Mae’r rhain yn cynnwys marwolaeth drasig person ifanc yn ei arddegau o America a oedd wedi datblygu perthynas gyda sgwrsfot (chatbot) yn seiliedig ar gymeriad Game of Thrones, a’r wythnos diwethaf tynnwyd ein sylw at achos arbennig o bryderus, lle roedd defnyddwyr llwyfan sgwrsfot Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol wedi creu sgwrsfotiau i weithredu fel ‘clonau rhithwir’ o bobl go iawn a phlant sydd wedi marw, gan gynnwys Molly Russell a Brianna Ghey.
Mae’r digwyddiadau hyn yn peri gofid mawr ac wedi codi cwestiynau ynghylch sut bydd Deddf Diogelwch Ar-lein y DU yn berthnasol i Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol.
Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i’ch atgoffa o’r hyn sy’n cael ei reoleiddio o dan y Ddeddf, a sut mae’n berthnasol i offer a llwyfannau sgwrsfot Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
- Mae safleoedd neu apiau sy’n caniatáu i’w defnyddwyr ryngweithio â’i gilydd drwy rannu delweddau, fideos, negeseuon, sylwadau neu ddata â defnyddwyr eraill y llwyfan yn ‘wasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr’, yn iaith y Ddeddf.[1] Pan fo safle neu ap yn cynnwys sgwrsfot Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol sy’n galluogi defnyddwyr i rannu testun, delweddau neu fideos sydd wedi’u creu gan y sgwrsfot, gyda defnyddwyr eraill, bydd hyn yn wasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, gwasanaethau â swyddogaeth ‘sgwrs grŵp’ sy’n rhoi cyfle i nifer o ddefnyddwyr ryngweithio â sgwrsfot ar yr un pryd – p’un ai fod y swyddogaeth sgwrsfot hon yn brif nodwedd y gwasanaeth, neu ei bod yn rhan o wasanaeth mwy fel llwyfan cyfryngau cymdeithasol.
- Pan fo safle neu ap yn caniatáu i ddefnyddwyr lwytho i fyny neu greu eu sgwrsfotiau Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol eu hunain – ‘sgwrsfotiau defnyddwyr’ – sydd hefyd ar gael i ddefnyddwyr eraill, mae hyn hefyd yn wasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau sy'n darparu offer i ddefnyddwyr greu sgwrsfotiau sy'n dynwared persona pobl go iawn a ffuglennol, a gellir eu cyflwyno i lyfrgell sgwrsfotiau i eraill ryngweithio â nhw. Mae unrhyw destun, delweddau neu fideos sy’n cael eu creu gan y ‘sgwrsfotiau defnyddwyr’ hyn yn ‘gynnwys sy’n cael ei greu gan ddefnyddwyr’ ac mae’n cael ei reoleiddio gan y Ddeddf.[2]
- Yn wir, mae unrhyw destun, sain, delweddau neu fideos a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial sy’n cael ei rannu gan ddefnyddwyr ar wasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr yn gynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, a byddai hyn yn cael ei reoleiddio yn union yr un ffordd â chynnwys a gynhyrchir gan bobl. Er enghraifft, mae deunydd twyll ffug-ddwfn yn cael ei reoleiddio yn yr un ffordd â deunydd twyll a gynhyrchir gan bobl. Nid oes wahaniaeth a gafodd y cynnwys hwnnw ei greu ar y llwyfan lle mae’n cael ei rannu neu wedi ei lwytho i fyny gan ddefnyddiwr o rywle arall.
Mae’r Ddeddf hefyd yn rheoleiddio offer a chynnwys Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol mewn ffyrdd eraill, gan gynnwys:
- Mae offer Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol sy’n galluogi chwilio am fwy nag un wefan a/neu gronfa ddata yn ‘wasanaethau chwilio’ o fewn ystyr y Ddeddf.[3] Mae hyn yn cynnwys offer sy’n addasu, yn gwella neu’n hwyluso’r gwaith o ddarparu canlyniadau chwilio ar beiriant chwilio sydd eisoes yn bodoli, neu sy’n darparu canlyniadau rhyngrwyd ‘byw’ i ddefnyddwyr ar lwyfan annibynnol. Er enghraifft, mewn ymateb i ymholiad gan ddefnyddiwr am wybodaeth yn ymwneud ag iechyd, gallai offer Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol annibynnol gyflwyno canlyniadau byw o wefannau sy’n rhoi cyngor am iechyd a fforymau sgwrsio i gleifion. Byddai hyn yn ei wneud yn wasanaeth chwilio sy’n cael ei reoleiddio gan y Ddeddf.
- Mae safleoedd ac apiau sy’n cynnwys offer Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol sy’n gallu cynhyrchu deunydd pornograffig yn cael eu rheoleiddio o dan y Ddeddf hefyd.[4] Mae’n rhaid i’r gwasanaethau hyn ddefnyddio dulliau hynod effeithiol i sicrhau oedran fel nad yw plant yn gallu cael gafael ar ddeunydd pornograffig.
Os yw’r senarios uchod yn berthnasol i’ch gwasanaeth, byddem yn eich annog yn gryf i baratoi nawr i gydymffurfio â’r dyletswyddau perthnasol. Ar gyfer darparwyr gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a gwasanaethau chwilio, mae hyn yn golygu, ymysg gofynion eraill, cynnal asesiadau risg i ddeall y risg y bydd defnyddwyr yn dod ar draws cynnwys niweidiol; rhoi mesurau cymesur ar waith i liniaru a rheoli’r risgiau hynny; a galluogi defnyddwyr i roi gwybod yn hawdd am negeseuon a deunydd anghyfreithlon sy’n niweidiol i blant. Bydd y dyletswyddau cyntaf yn dechrau dod i rym o fis Rhagfyr eleni ymlaen pan fyddwn yn cyhoeddi ein Canllawiau a’n Codau Ymarfer terfynol ar yr Asesiad Risg o Niwed Anghyfreithlon.
Bydd llawer o’r mesurau yn ein Codau Ymarfer drafft yn helpu gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr a gwasanaethau chwilio i fodloni’r dyletswyddau hyn a diogelu eu defnyddwyr rhag risgiau a achosir gan Ddeallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- cael person a enwir yn atebol am gydymffurfio â’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein;
- cael swyddogaeth cymedroli cynnwys sy’n caniatáu i negeseuon anghyfreithlon gael eu tynnu i lawr yn gyflym ar ôl eu canfod ac i blant gael eu hamddiffyn rhag deunydd sy’n niweidiol iddyn nhw;
- cael swyddogaeth cymedroli cynnwys sydd â digon o adnoddau a’r cymedrolwyr wedi’u hyfforddi’n dda;
- defnyddio dulliau hynod effeithiol i sicrhau oedran i atal plant rhag dod ar draws y mathau mwyaf niweidiol o gynnwys lle caniateir hyn ar y llwyfan; a
- meddu ar brosesau cwyno ac adrodd sy’n hygyrch ac yn hawdd eu defnyddio.
Mae’r dyletswyddau a nodir yn y Ddeddf yn orfodol. Os bydd cwmnïau’n methu â’u bodloni, mae Ofcom yn barod i gymryd camau gorfodi, a allai gynnwys rhoi dirwyon. Y garreg filltir bwysig gyntaf ar gyfer safleoedd ac apiau sy’n dod o dan Ran 3 y Ddeddf yw cwblhau eu Hasesiad Risg o Niwed Anghyfreithlon, a bydd angen iddyn nhw ei wneud erbyn canol mis Mawrth 2025. Ar gyfer safleoedd pornograffi sy’n dod o dan Ran 5, rydyn ni’n disgwyl i’r llywodraeth ddechrau’r Rhan o’r Ddeddf sy’n berthnasol i’r darparwyr hyn tua’r adeg y bydd Ofcom yn cyhoeddi ei Ganllawiau ar Ran 5 ym mis Ionawr 2025, a bydd modd gorfodi eu dyletswyddau sicrhau oedran erbyn hynny. Mae gwefan Ofcom yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ddyletswyddau llwyfannau sy’n cael eu rheoleiddio a dyddiadau cau perthnasol.
Mae ein tîm goruchwylio wrth law i’ch helpu gydag unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol a’r hyn y gallwch ei wneud i barhau i gydymffurfio â'r Ddeddf. Gallwch gyflwyno ymholiadau i ni ar-lein yma, a gweld a yw’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn berthnasol i chi drwy ddefnyddio ein hadnodd ‘gwiriwr rheoliadau’ yma. Er nad yw’r dyletswyddau ar waith eto, nid oes rheswm pam na allwch gymryd camau ar unwaith heddiw i osod y sylfeini ar gyfer cydymffurfio ac i ddiogelu eich defnyddwyr rhag unrhyw risgiau y gallent fod yn eu hwynebu’n barod.
Lindsey Fussell
Cyfarwyddwr Grŵp Dros dro ar gyfer Diogelwch Ar-lein
NODIADAU:
- Mae’r mathau hyn o lwyfannau o fewn cwmpas dyletswyddau yn Rhan 3 o'r Ddeddf.
- Mae cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr yn cynnwys delweddau, fideos, negeseuon neu sylwadau, yn ogystal â mathau eraill o ddata, sy’n cael eu cynhyrchu, eu llwytho i fyny neu eu rhannu gan y defnyddiwr ac y gall defnyddwyr eraill ddod ar eu traws.
- Mae gan wasanaethau chwilio swyddogaethau peiriannau chwilio sy’n galluogi person i chwilio mwy nag un wefan neu gronfa ddata – neu bob un ohonynt o bosibl. Mae’r mathau hyn o lwyfannau o fewn cwmpas dyletswyddau yn Rhan 3 o'r Ddeddf hefyd.
- Yn benodol, byddent yn dod o fewn cwmpas y dyletswyddau a nodir yn Rhan 5 o’r Ddeddf. Mae’r dyletswyddau hyn yn berthnasol i ddarparwyr gwasanaethau sy’n dangos neu’n cyhoeddi pornograffi ar ffurf delwedd, fideo neu sain ar eu llwyfannau.