Yn gynnar yn 2025, byddwn yn lansio adnodd i’ch helpu chi i weld sut mae cydymffurfio â dyletswyddau o ran cynnwys anghyfreithlon.
Bydd yr adnodd yn cael ei rannu’n bedwar cam sy’n dilyn canllawiau asesu risg Ofcom. Bydd dilyn y camau hyn yn eich helpu i gydymffurfio â’r dyletswyddau asesu risg cynnwys anghyfreithlon, a’r dyletswyddau cysylltiedig ar gyfer diogelwch, cadw cofnodion ac adolygu.
Bydd yr amser sydd ei angen i gwblhau pob cam yn amrywio.
Cam 1 - deall y niwed
Bydd Cam 1 yn eich helpu i wybod pa fath o gynnwys anghyfreithlon i’w asesu, ac i wneud penderfyniadau cywir am eich risgiau.
Cam 2 - asesu’r risg o niwed
Bydd Cam 2 yn eich helpu i ddefnyddio tystiolaeth i asesu a neilltuo lefel risg i’r canlynol: y risg o niwed i ddefnyddwyr sy’n dod ar draws pob un o’r 17 math o gynnwys anghyfreithlon â blaenoriaeth a chynnwys anghyfreithlon arall; a’r risg o niwed o os caiff eich gwasanaeth defnyddiwr-i-ddefnyddiwr ei ddefnyddio i gyflawni neu hwyluso trosedd â blaenoriaeth.
Cam 3 - penderfynu ar fesurau, gweithredu a chofnodi
Bydd Cam 3 yn eich helpu i nodi unrhyw fesurau perthnasol i'w rhoi ar waith i fynd i'r afael â risg, cofnodi unrhyw fesurau rydych chi wedi'u cymryd, a chofnodi eich asesiad.
Cam 4 - adrodd, adolygu a diweddaru
Bydd Cam 4 yn eich helpu i ddeall sut i ddiweddaru eich asesiad risg a chymryd camau priodol i adolygu eich asesiad.
Ar sail eich atebion i gwestiynau sy’n cael eu gofyn yn yr adnodd, byddwn yn rhoi argymhellion cydymffurfio i chi ar gyfer eich gwasanaeth. Bydd fwyaf defnyddiol i fusnesau bach a chanolig, ond gallai fod yn ddefnyddiol i unrhyw fusnes sy’n darparu’r gwasanaethau sydd o fewn y cwmpas.