Heddiw, mae Ofcom wedi lansio pecyn cymorth digidol i helpu busnesau i gydymffurfio â rheolau newydd ar ddiogelwch ar-lein.
Dyma’r cyntaf o’n gwasanaethau cymorth digidol a fydd yn helpu gwasanaethau ar-lein i wneud yn siŵr eu bod yn cyflawni eu cyfrifoldebau o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein.
Beth yw’r pecyn cymorth digidol?
Canllaw cam wrth gam yw’r adnodd hwn, a gall gwasanaethau ar-lein ei ddilyn i’w helpu i gwblhau asesiad ynglŷn â risgiau cynnwys anghyfreithlon ar eu llwyfannau. Bydd hefyd yn eu helpu i gydymffurfio â dyletswyddau ychwanegol o ran diogelwch, cadw cofnodion ac adolygu.
Ar gyfer pwy mae’r pecyn cymorth?
Mae’r adnodd ar gyfer darparwyr gwasanaethau sy’n caniatáu i ddefnyddwyr gynhyrchu, rhannu a llwytho cynnwys i fyny (mae’r rheoliad yn cyfeirio at y rhain fel gwasanaethau defnyddiwr-i-ddefnyddiwr), a gwasanaethau chwilio. Mae wedi cael ei ddylunio gyda busnesau bach a chanolig eu maint mewn golwg, ond gallai fod yn ddefnyddiol i unrhyw sefydliad sy’n dod o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein.
Sut mae’n gweithio?
Mae’r adnodd wedi’i rannu’n bedwar cam sy’n seiliedig ar ganllawiau asesu risg Ofcom.
- Bydd Cam 1 yn helpu gwasanaethau i ddeall pa fath o gynnwys anghyfreithlon i’w asesu, ac i wneud penderfyniadau cywir am y risgiau.
- Bydd Cam 2 yn nodi sut mae asesu’r risg o niwed sy’n deillio o bob math o gynnwys anghyfreithlon â blaenoriaeth ar wasanaeth, a chynnwys anghyfreithlon arall.
- Bydd Cam 3 yn helpu gwasanaethau i nodi unrhyw fesurau perthnasol y gellir eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â risg, i gofnodi unrhyw fesurau maent wedi'u cymryd, ac i gadw cofnod o’u hasesiad.
- Bydd Cam 4 yn helpu gwasanaethau i ddeall sut i ddiweddaru eu hasesiad risg a chymryd camau i’w asesu.
Pan fydd gwasanaethau’n defnyddio’r adnodd am y tro cyntaf, rhoddir cyfeirnod unigryw iddynt sy’n eu galluogi i gadw eu cynnydd a dychwelyd at yr adnodd ar unrhyw adeg.
Beth yw manteision defnyddio’r adnodd?
Ar sail yr atebion mae gwasanaeth yn eu rhoi wrth ddefnyddio’r pecyn cymorth, byddan nhw’n cael argymhellion wedi’u teilwra ar sut mae cydymffurfio â’r rheolau diogelwch ar-lein newydd. Mae’r adnodd yn rhoi trosolwg o sut gallai risgiau o wahanol fathau o niwed anghyfreithlon godi ar wasanaeth, a pha fesurau diogelwch y mae angen iddo eu rhoi ar waith i ddiogelu ei ddefnyddwyr.
Bydd symud ymlaen drwy’r adnodd yn helpu gwasanaethau i gwblhau asesiad risg o niwed anghyfreithlon a gwneud y cofnodion gofynnol. Mae hyn yn rhan bwysig o gydymffurfio â’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein.
Mae’r drefn diogelwch ar-lein bellach ar waith, a 2025 yw’r flwyddyn pan mae’n rhaid i wasanaethau weithredu. Erbyn hyn, mae’n rhaid i safleoedd ac apiau gymryd camau i ddiogelu defnyddwyr yn well ar-lein, yn enwedig plant. Bydd ein bwletin newydd yn helpu gwasanaethau i ddeall ein gwaith yn y maes hwn ac i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae’n rhaid iddyn nhw ei wneud a phryd, a’r meysydd lle rydyn ni’n disgwyl gweld gwelliannau mawr yn 2025.
Rydym hefyd yn egluro’r cymorth a’r adnoddau sydd ar gael i helpu gwasanaethau, gan gynnwys adnoddau ar-lein fel y pecyn cymorth sy’n cael ei lansio heddiw.