Heddiw, rydyn ni’n rhannu’r hyn rydyn ni wedi’i ddysgu a’n hargymhellion yn dilyn prosiect 14 mis lle bu sefydliadau ar hyd a lled y DU yn treialu dulliau newydd i roi hwb i sgiliau pobl o ran eu hymwybyddiaeth o’r cyfryngau.
Ystyr ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ar-lein yw bod â’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth i ffynnu yn y byd ar-lein. Mae’n grymuso pobl i wneud penderfyniadau digidol gwybodus ac, yn bwysig iawn, i adnabod cynnwys niweidiol a diogelu eu hunain a phobl eraill rhagddo.
Ym mis Rhagfyr 2022, fe wnaethom gomisiynu 13 o sefydliadau ar hyd a lled y DU i brofi a gwerthuso gwahanol ddulliau o wella sgiliau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ymysg plant a phobl ifanc, oedolion hŷn, pobl anabl a phobl ag anawsterau dysgu. Yn ystod y flwyddyn, cyrhaeddodd y prosiectau 2,717 o bobl ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae’r adroddiad heddiw yn tynnu sylw at y prif ganfyddiadau a’r gwersi a ddysgwyd ar gyfer pob grŵp targed, gan ganolbwyntio’n benodol ar sut cafodd yr effaith ei mesur a’i gwerthuso ar gyfer pobl a gafodd fudd o’r dulliau. Mae’r adroddiad hefyd yn cynnig awgrymiadau ac argymhellion ymarferol i sefydliadau eraill sy’n cynllunio mentrau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ar gyfer y dyfodol.
Estyn allan at amrywiaeth o bobl
Ar draws gwaith y 13 sefydliad a gomisiynwyd gennym, roedd amrywiaeth eang o grwpiau targed ar hyd a lled y DU wedi cael budd o wahanol fentrau, gyda’r nod o wella eu mynediad at dechnoleg a’u sgiliau o ran ei defnyddio.
Fel rhan o’r gwerthusiad, gofynnwyd i’r cyfranogwyr roi eu barn ar yr hyn yr oeddent wedi’i ddysgu a sut y gallai cymryd rhan yn y cynlluniau eu helpu yn y dyfodol. I roi syniad o’r amrywiaeth o bobl a gymerodd ran a sut y bu’r cynlluniau o fudd iddynt, dyma rai dyfyniadau gan y cyfranogwyr:
Bu’r Salford Foundation yn gweithio gyda phobl ifanc 10-14 oed:
Rydw i nawr yn gwybod ei bod hi’n bwysig bod yn garedig â phobl ar-lein, oherwydd dydy pobl ddim yn gallu clywed tôn eich llais, felly, wrth iddyn nhw weld neu ddarllen neges, mae’n anodd iddyn nhw wybod yn union sut roeddech chi’n bwriadu i’r neges gael ei dehongli, a gallech chi frifo rhywun.
Merch, 12 oed.
Rydyn ni i gyd yn dal i fwynhau bod ar-lein ac, er ein bod ni eisoes yn gwybod llawer, rydyn ni’n teimlo ein bod ni’n llawer mwy diogel nawr... rydw i’n teimlo’n fwy ymwybodol o bethau niweidiol neu ffyrdd o fod yn fwy diogel.
Merch, 14 oed.
Bu Red Chair Highland yn gweithio gyda phobl hŷn yn Ucheldiroedd yr Alban:
Rydw i’n teimlo’n llawer mwy hyderus yn defnyddio fy ffôn a’m gliniadur nawr. Maen nhw wedi dweud wrthyf i nad ydw i’n gallu torri’r rhyngrwyd! Rydw i’n teimlo’n hyderus i fynd ati i siopa ar-lein yn ddiogel ac rydw i’n fwy ymwybodol o sgamiau nawr. Rydw i’n llawer mwy gofalus gyda fy negeseuon e-bost bellach.
Menyw, 71, Ardal wledig.
Rydw i’n defnyddio fy ffôn yn llawer amlach nawr ei fod yn haws i mi ei ddefnyddio. Roedd y nodweddion hygyrchedd ar gyfer y sgrin a’r testun yn wych! Rydw i’n defnyddio’r apiau bysiau a threnau erbyn hyn, sydd wedi gwneud fy mywyd bob dydd yn llawer haws.
Menyw, 59, Ardal wledig.
Cafodd y cynllun ‘Be Safe Online’ gan Mencap Gogledd Iwerddon ei gyflwyno i ddau grŵp o bobl ifanc 10-12 a 13-18 oed:
Aeth y sesiwn dysgu am beryglon y rhyngrwyd a’u diffiniadau yn dda, yn enwedig gyda’r grwpiau iau. Fe wnes i hyn drwy argraffu enwau’r gwahanol beryglon a’u diffiniadau, ac yna roedd y bobl ifanc yn ceisio eu paru â’i gilydd – fe wnaethon nhw’n dda iawn.
Aelod o’r tîm ieuenctid.
Roedd un person ifanc yn y grŵp oedran 13-18 yn defnyddio’r rhyngrwyd i ymchwilio i hanes. Mae’r person ifanc hwn nawr yn fwy ymwybodol bod rhai pethau sydd ar y rhyngrwyd ddim yn wir, ac na ddylen nhw gredu popeth maen nhw’n ei weld ar-lein.
Aelod o’r tîm ieuenctid.
Mae’r adroddiadau gwerthuso unigol gan y 13 sefydliad ar gael ar ein gwefan.
Cymorth ymarferol
I gyd-fynd â’n pecyn gwerthuso presennol, mae Ofcom hefyd wedi cyhoeddi adnodd gwerthuso ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ychwanegol heddiw – sef ‘banc canlyniadau’. Lluniwyd hwn i helpu sefydliadau, addysgwyr, llunwyr polisïau ac ymchwilwyr wrth gynllunio a mesur mentrau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau
Ar y gweill
Yn ystod yr hydref, byddwn yn dod â’r canfyddiadau’n fyw drwy gyfres o sesiynau rhannu arferion gorau ar gyfer ein Rhwydwaith Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau. Cofrestrwch i gael rhagor o fanylion.