Mae ein Rhwydwaith a Phanel Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau yn dod â phobl ynghyd sydd â diddordeb mewn hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ar draws y DU.
Wedi ei sefydlu yn 2019, mae gan ein rhwydwaith 460 o aelodau ar hyn o bryd, sy'n cynrychioli amrywiaeth o sefydliadau yn y DU ac yn rhyngwladol. Y nod yw cynyddu cydweithio, rhannu gwybodaeth a thrafodaeth er mwyn gwella ymwybyddiaeth o'r cyfryngau yn y DU.
Rydym am ddefnyddio ein hymchwil a'n mewnwelediad ar draws sectorau fel sylfaen ar gyfer datblygu'r mentrau mwyaf effeithiol ac i gyfeirio polisi ymwybyddiaeth o'r cyfryngau. Ein nod yw i'r rhwydwaith barhau i adeiladu a rhannu tystiolaeth o ddealltwriaeth a defnydd oedolion a phlant y DU o gyfryngau electronig
Pam ymuno â’r rhwydwaith?
Fel aelod rhwydwaith byddwch yn:
- cael eich gwahodd i fynychu ac i gymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n arddangos yr ymchwil ymwybyddiaeth o’r cyfryngau diweddaraf, i hwyluso trafodaeth, cydweithio a gweithgarwch ledled y DU;
- cyfrannu i Fwletinau Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau rheolaidd sy'n crynhoi gweithgareddau ymwybyddiaeth y cyfryngau gan ystod o sefydliadau yn y DU a thramor. Mae'r gweithgareddau hyn yn cynnwys ymchwil, digwyddiadau, prosiectau a mentrau;
- cymryd rhan mewn grwpiau gwaith rhwydweithio.
Ein nod yw cael cymaint o randdeiliaid newydd a chyfredol Ofcom sydd â diddordeb yn ymwybyddiaeth y cyfryngau i ymuno â'r rhwydwaith. Does dim angen i chi fod â rôl ffurfiol yn y maes i ymuno. P'un a ydych chi eisiau clywed mwy am weithgareddau ac ymchwil llythrennedd y cyfryngau, neu os ydych chi'n awyddus i gymryd rhan fwy gweithredol mewn trafodaethau, digwyddiadau neu weithgorau, hoffem i chi fod yn rhan o'r rhwydwaith.