O gamau cynnar iawn y fenter hon, roedd hi’n amlwg nad oes dull gweithredu ‘un ateb sy’n addas i bawb’ o ran ymwybyddiaeth o’r cyfryngau. Mae’r argymhellion yn yr adroddiad hwn yn gwahodd sefydliadau cyflenwi a chyd-gomisiynwyr neu gyllidwyr i ddod o hyd i’r dull gweithredu sy’n gweithio orau i’r bobl y maent yn ceisio eu cefnogi. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ni i gyd fod yn siŵr bod ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon o ran ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn y DU. Mae hefyd yn her o ran darparu datrysiadau y gellir eu hehangu, ac mae’n sail i’r farn na all Ofcom ar ei ben ei hun fynd i’r afael â’r mater. Felly, bydd ein strategaeth ymwybyddiaeth o’r cyfryngau sydd ar y gweill yn cyflwyno ymwybyddiaeth o’r cyfryngau fel “busnes pawb” ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chynifer o sefydliadau â phosibl i wireddu hyn.
Rydym ni’n ddiolchgar i’r 13 sefydliad a wnaeth gyflwyno a gwerthuso’r ymyriadau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau. Dewiswyd y rhan fwyaf ohonyn nhw oherwydd eu bod yn arbenigwyr yn y cymunedau maen nhw’n eu cefnogi a’r ffordd orau o gefnogi’r gwaith o ddatblygu sgiliau ar gyfer y bobl hynny yn hytrach nag oherwydd eu bod yn sefydliadau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau. Ar ben hynny, fe wnaethom eu herio i werthuso eu prosiectau mor gadarn â phosibl, yn unol â’r gyllideb a’r amser oedd ar gael. Maent wedi dangos eu bod yn agored i roi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio ac ymrwymiad i sicrhau’r canlyniadau gorau i’r bobl y maent yn eu cefnogi.
Yn y bôn, mae’r gwaith hwn wedi ymwneud â dysgu. Yn aml mae adroddiadau prosiect yn canolbwyntio ar ddathlu llwyddiannau ac, a dweud y gwir, mae llawer i’w ddathlu yn y gwaith a gafodd ei wneud fel rhan o’r prosiect hwn. Yn hytrach, fe wnaethom ganolbwyntio ar sicrhau bod yr adroddiad yn cyfrannu at ddealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio o ran cyflawni prosiectau ymwybyddiaeth o’r cyfryngau, a chanmol y 13 sefydliad am eu parodrwydd i fabwysiadu dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar ddysgu.
Nid yw cyhoeddi’r adroddiad hwn yn nodi diwedd y prosiectau hyn, ond yn hytrach mae’n gatalydd ar gyfer sgyrsiau am yr hyn sy’n gweithio i ymwybyddiaeth o’r cyfryngau. Rydym ni’n eich croesawu i ymuno â’r sgwrs drwy ein rhwydwaith Making Sense of Media.