Mae ar Ofcom eisiau sicrhau bod pawb yn cael y gorau o’u gwasanaethau ffôn a band eang.
Ni allwn ddelio â chwynion unigol
Rydym yn deall y gall fod yn rhwystredig pan fydd pethau’n mynd o chwith.
Dyna pam rydym wedi gwella'r ffordd mae darparwyr ffonau a band eang yn delio â’ch cwynion.
I gael cymorth â phroblemau unigol, dilynwch y camau hyn:
- Cysylltwch ag adran gwasanaeth i gwsmeriaid eich darparwr ac egluro’r broblem.
- Os na fydd hyn yn datrys y broblem, dylech chi gyflwyno cwyn ffurfiol i’r cwmni. Dylai fod manylion ynghylch sut mae gwneud hyn ar gefn eich bil, ar eu gwefan neu drwy ofyn i’w hadran gwasanaeth i gwsmeriaid.
- Os nad ydy’ch darparwr yn gallu datrys eich cwyn, gofynnwch am lythyr sefyllfa ddiddatrys. Mae hyn yn eich galluogi chi i fynd â'ch cwyn at gynllun Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR).
Mae cynlluniau ADR yn gweithredu fel cyfryngwr annibynnol. Byddant yn ystyried yr achos o'r ddwy ochr ac yn dod i benderfyniad sy’n deg yn eu barn nhw.
Os oes wyth wythnos wedi mynd heibio ers ichi gwyno’n ffurfiol am y tro cyntaf, gallwch gysylltu â’r cynllun ADR yn uniongyrchol.
Mae dau gynllun ADR: Gwasanaethau’r Ombwdsmon: Cyfathrebiadau, a Chynllun Dyfarnu’r Gwasanaethau Cyfathrebiadau a’r Rhyngrwyd (CISAS). Rhaid i bob darparwr fod yn perthyn i un o’r cynlluniau.
Bydd eich darparwr yn dweud wrthych chi pa gynllun mae’n aelod ohono, neu gallwch chi ddefnyddio ein gwiriwr Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod.
Dweud wrth Ofcom
Os ydych chi wedi cael problemau â’ch bil, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein ffurflen fonitro fer.
Er nad ydym yn ymchwilio i gwynion unigol, mae eich help chi yn dwyn sylw at broblemau yn hollbwysig i’n gwaith ac efallai byddwn yn ymchwilio i gwmni os bydd data monitro yn dangos bod problem benodol yn bodoli.
Tariffau incwm isel
Os yw eich problem gyda BT Basic neu becyn mynediad cymdeithasol Kingston Communications, cwynwch wrth eich darparwr.
Os nad yw hynny'n datrys y broblem, cysylltwch â Thîm Cyswllt Defnyddwyr Ofcom ar 0300 123 3333 neu 020 7981 3040. Os ydych chi eisiau cwyno yn Gymraeg, ffoniwch 020 7981 3042.
Gwasanaethau cyfradd premiwm
Yn gyffredinol, mae rhifau cyfradd premiwm yn dechrau gyda 09, 118, 0871, 0872 a 0873.
Rhifau byr testun symudol - mae'r rhifau pump a chwe digid y gallwch eu defnyddio i roi cynnig ar gystadlaethau testun, rhoi i elusen drwy eich ffôn symudol, llwytho gemau symudol i lawr, ac ati - hefyd yn cael eu hystyried yn rhai cyfradd premiwm.
Os ydych chi'n poeni am wasanaeth cyfradd premiwm penodol, neu'r ffordd y cafodd ei hysbysebu, gallwch gwyno wrth yr Awdurdod Gwasanaethau Talu dros y Ffôn (PhonepayPlus gynt).
Mae Casglwyr Dyledion wedi eu trwyddedu gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA).
Os ydych chi o'r farn nad yw asiantaeth gasglu yn cadw at y rheolau, dywedwch wrthyn nhw.
Os ydych chi’n dal i boeni, gallwch gael cyngor gan Gyngor ar Bopeth