Canllaw cyflym i wasanaethau cyfradd premiwm

Cyhoeddwyd: 31 Ionawr 2025

Gwasanaethau cyfradd premiwm yw’r enw a roddir ar yr holl gynnwys, nwyddau neu wasanaethau y codir ffi amdanyn nhw ar fil ffôn. Mae talu dros y ffôn yn ffordd boblogaidd a hawdd o dalu am amrywiaeth o wasanaethau, fel tanysgrifiadau cerddoriaeth, gemau, rhoddion i elusennau, a phleidleisio ar sioeau talent ar y teledu.

Mae hyn yn golygu pan fyddwch chi’n ffonio neu’n anfon negeseuon testun i rifau premiwm, yn prynu pethau mewn apiau neu’n chwarae gemau a chwisiau ar eich ffôn, gallwch ychwanegu’r costau at eich bil ffôn neu at eich credyd talu-wrth-ddefnyddio. 

Mae brandiau mawr fel Apple, Google, Spotify, ITV, Capital FM a Comic Relief i gyd yn cynnig gwasanaethau y gallwch dalu amdanyn nhw drwy eich bil ffôn. Gall talu dros y ffôn fod yn ffordd gyfleus o dalu am bethau rydych chi eu heisiau. Mae’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd gan 20 miliwn o bobl yn y DU yn unig, ond os nad ydych chi’n ymwybodol eich bod wedi gwneud taliad dros y ffôn, gall fod yn ddryslyd. 

Mae llawer o wahanol fathau o wasanaethau cyfradd premiwm ac mae rheolau Ofcom yn ei gwneud yn ofynnol bod cost y gwasanaeth, a sut mae’r gwasanaeth yn gweithio, yn glir.  

Dyma ganllaw cyflym i beth yw gwasanaethau cyfradd premiwm a sut maen nhw’n gweithio:

Pan fyddwch yn chwilio ar y rhyngrwyd am rifau llinell gymorth cwmnïau a sefydliadau cyhoeddus adnabyddus, efallai y byddwch yn eu ffonio drwy gwmni trydydd parti ar rif 09, 087 neu 084. Dyma’r Gwasanaethau Gwybodaeth, Cysylltu a Chyfeirio. Gall y gwasanaethau hyn ei gwneud yn hawdd ac yn gyflym i chi gyrraedd y sefydliad sydd ei angen arnoch, ond maen nhw’n gallu bod yn ddrutach na ffonio’r cwmni hwnnw yn uniongyrchol.

Rhaid i bob un o’r gwasanaethau Gwybodaeth, Cysylltu a Chyfeirio nodi’r gost yn glir, egluro beth mae eu gwasanaeth yn ei wneud, a’i gwneud yn glir eu bod yn drydydd parti, nid y cwmni y gallech fod wedi bod yn chwilio amdano.

Mae llawer o elusennau’n derbyn rhoddion drwy neges destun gan ddefnyddio cod byr testun sy’n dechrau gyda 70xxx. Gallwch hefyd gofrestru i roi’n fisol.

Gall y rhain gynnwys llinellau sgwrsio, gwasanaethau horosgop, gwybodaeth am groeseiriau neu gystadlaethau, rhagolygon tywydd, ac amrywiaeth o wybodaeth neu gyngor arall. Mae modd codi tâl am y gwasanaethau hyn ar eich bil ffôn. 

Os ydych chi’n chwilio am rif ffôn, gallwch ffonio rhif sy’n dechrau gyda 118 ar gyfer Ymholiadau Rhifau Ffôn. Byddan nhw’n rhoi’r rhif rydych chi’n chwilio amdano a gwybodaeth arall i chi. Mae’r galwadau hyn yn costio mwy na galwadau ffôn arferol.

Bydd rhai gwasanaethau Ymholiadau Rhifau Ffôn yn rhoi'r dewis i chi gael eich cysylltu'n uniongyrchol â'r rhif roeddech chi’n chwilio amdano. Mae’n debygol y codir tâl arnoch am hyn ar ben cost yr alwad gychwynnol.

Gall y rhain gynnwys gwasanaethau ffrydio cerddoriaeth, fideos, ffilmiau a rhaglenni teledu. Mae Spotify ac Apple Music yn enghreifftiau o hyn. Pan gaiff y rhain eu hychwanegu at fil ffôn, maen nhw’n wasanaethau cyfradd premiwm. Codir tâl tanysgrifiad am rai o’r rhain.

Gallwch ddefnyddio gwasanaethau cyfradd premiwm i gamblo ar-lein a dros ffôn symudol. Dim ond pobl dros 18 oed sy’n gallu defnyddio’r rhain, a rhaid egluro’r gost a’r math o wasanaeth yn glir. Mae rheolau ychwanegol hefyd ar gyfer gwasanaethau gamblo sy’n cael eu gosod gan y Comisiwn Hapchwarae.

Gall gemau ar ddyfeisiau symudol gynnwys prynu pethau mewn apiau, lle gallwch ddewis talu am gynnwys ychwanegol yn y gêm gydag arian go iawn. Gall y taliadau hyn gael eu hychwanegu at eich bil ffôn. Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau nodi’n glir bod hyn yn costio. Weithiau, codir tâl tanysgrifiad am fynediad i gemau.

Mae rhai apiau a gwefannau yn cynnig gwasanaethau ffordd o fyw, fel gwybodaeth am ffitrwydd ac ymarfer corff, ryseitiau, deiet, a chyngor da am iechyd. Gellir ychwanegu’r rhain at eich bil ffôn hefyd, weithiau fel tâl tanysgrifiad.

Efallai eich bod wedi gweld hysbysebion yn cynnig cyfle i chi ennill gwobrau ar-lein. Weithiau, bydd angen i chi dalu i gymryd rhan, a gellir ychwanegu’r gost honno at eich bil ffôn. Gellir codi am y rhain fel tâl tanysgrifiad.

Mae llawer o raglenni teledu poblogaidd yn rhoi’r dewis i chi bleidleisio dros eich hoff gystadleuydd, cymryd rhan mewn cystadleuaeth, neu gymryd rhan mewn ffordd arall drwy anfon neges destun neu ffonio. Fel arfer, mae’r rhifau i ffonio neu anfon negeseuon testun, a manylion am gymryd rhan, yn cael eu darparu yn ystod y rhaglen. Mae enghreifftiau o raglenni sy’n gwneud hyn yn cynnwys Strictly Come Dancing, Love Island a Britain’s Got Talent. Pan fyddwch yn pleidleisio neu’n cymryd rhan yn y gystadleuaeth gan ddefnyddio eich ffôn, codir tâl am wneud ar eich bil ffôn.

Gall gwasanaethau adloniant a sgwrsio i oedolion dros 18 oed yn unig gael eu hychwanegu at eich bil ffôn hefyd. Gall y rhain gynnwys llinellau sgwrsio ac apiau cwrdd â chariad.

Cwynion

Nid yw Ofcom yn ymchwilio i gwynion unigol nac yn eu datrys, ond mae eich help chi i dynnu sylw at broblemau yn rhan hanfodol o’n gwaith.

Os ydych chi wedi defnyddio gwasanaeth cyfradd premiwm ac nad yw wedi dilyn ein rheolau, gallwch herio hyn gyda darparwr y gwasanaeth cyfradd premiwm. Dylai egluro sut mae cofnodi cwyn gyda nhw.

Mae cwsmeriaid yn gallu cael gafael ar gyngor yn rhad ac am ddim drwy’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth. Efallai y byddan nhw’n helpu i ddatrys eich problem os bydd y broblem honno yn dal heb ei datrys ar ôl dilyn proses gwyno’r darparwr.

Gallwch gwyno wrth Ofcom drwy ein ffurflen cwynion am wasanaethau cyfradd premiwm, neu drwy ein ffonio ni ar 0300 123 3333 neu 020 7981 3040.

Os hoffech siarad â ni yn Gymraeg, cysylltwch â’n llinell Gymraeg ar 0300 123 2023.  

Yn ôl i'r brig