Rhoi stop ar daliadau cyfradd premiwm

Cyhoeddwyd: 31 Ionawr 2025

Os gwelwch dâl annisgwyl ar eich bil ffôn a chithau eisiau gwybod tâl am beth yw hyn, bydd angen i chi gysylltu â darparwr y gwasanaeth yn gyntaf.

Pwy, mewn gwirionedd, sy’n codi tâl arna i?

Yn debyg i bryniant gyda’ch cerdyn debyd, gall sawl parti fod yn rhan o’r broses o wneud i bryniant ddigwydd y telir amdano dros y ffôn. Ond o safbwynt defnyddwyr, mae dau barti pwysig:

  1. darparwr y gwasanaethau cyfradd premiwm, sef y cwmni sy’n darparu’r gwasanaeth neu’r cynnwys rydych chi ei eisiau, er enghraifft rhodd i elusen neu danysgrifiad cerddoriaeth
  2. eich rhwydwaith llinell sefydlog neu symudol sy’n caniatáu i’r tâl gael ei ychwanegu at eich bil neu ei dynnu o’ch credyd ar ran darparwr y gwasanaethau cyfradd premiwm.

Er bod rhwydweithiau symudol yn codi tâl arnoch chi ar ran darparwr y gwasanaethau cyfradd premiwm, nid y rhwydwaith symudol sy’n gyfrifol am reoli eich gwasanaeth. Felly, os ydych chi eisiau trafod gwasanaeth cyfradd premiwm y codwyd tâl arnoch chi amdano, mae angen i chi gysylltu’n uniongyrchol â darparwr y gwasanaeth cyfradd premiwm.

Os nad ydych chi’n gwybod pwy wnaeth codi tâl arnoch chi na sut mae cysylltu â darparwr y gwasanaeth cyfradd premiwm, gallwch ofyn i’ch rhwydwaith symudol, a byddan nhw’n gallu eich helpu. 

Ar ôl siarad â darparwr y gwasanaeth cyfradd premiwm, os ydych chi’n dal yn anfodlon â’r canlyniad, efallai y byddwch chi’n dymuno siarad â’ch darparwr symudol oherwydd efallai y bydd hwnnw’n gallu helpu.  

Sut ydw i’n gwybod bod tâl am wasanaeth cyfradd premiwm wedi'i godi arna i?

Y ffordd orau o wirio yw edrych ar eich bil ffôn lle bydd yr holl daliadau a godwyd arnoch chi yn cael eu rhestru.

Ni fydd eich bil ffôn bob amser yn rhestru enw darparwr y gwasanaeth cyfradd premiwm; weithiau byddwch yn gweld rhif yn lle hynny. Gallwch ofyn i’ch darparwr symudol am y cwmni sy’n darparu’r gwasanaeth drwy’r rhif hwn a sut mae cysylltu â nhw am y tâl.  

Beth i chwilio amdano ar eich bil:

  • codau byr testun symudol, sydd fel arfer yn 5 neu 6 digid o hyd ac sy’n dechrau gyda 5, 6, 7 neu 8. Efallai eich bod wedi cael negeseuon testun gan rif fel hwn; mae’r negeseuon hyn yn rhoi gwybodaeth i chi am y gwasanaeth, fel manylion cyswllt darparwr y gwasanaeth cyfradd premiwm.
  • efallai y bydd taliadau yn cael eu rhestru fel Taliadau-ar-ffôn-symudol, Bilio drwy Weithredwr, Bilio drwy Ddarparwr Uniongyrchol neu Google Play ar eich bil. Dim ond ffyrdd o dalu yw’r rhain, nid enwau darparwyr y gwasanaethau cyfradd premiwm ydyn nhw. 
  • rhifau llinell sefydlog, fel rhifau 118 a ddefnyddir ar gyfer ymholiadau rhifau ffôn. 
  • defnyddir rhifau 09, 087 ac 084 yn aml ar gyfer llinellau cymorth i gwsmeriaid, llinellau gwybodaeth a llinellau sgwrsio, a chystadlaethau neu bleidleisio ar raglenni teledu. 

Os ydych chi’n dal yn ansicr a oes tâl wedi’i godi arnoch chi am wasanaeth cyfradd premiwm ai peidio, mae’n well gofyn i’ch darparwr rhwydwaith symudol yn uniongyrchol.

Mae ein rheolau’n mynnu na ddylid codi tâl arnoch am unrhyw wasanaeth cyfradd premiwm heb eich caniatâd. Mae ein rheolau hefyd yn mynnu bod cost y gwasanaeth, a sut mae’r gwasanaeth yn gweithio, yn glir. Os ydych chi’n credu bod tâl wedi cael ei godi arnoch chi’n ddiarwybod am wasanaeth cyfradd premiwm, siaradwch â darparwr y gwasanaeth cyfradd premiwm a gododd ffi arnoch chi yn y lle cyntaf.   

Dydw i ddim yn gwybod pwy sydd wedi codi tâl arna i, sut mae dod o hyd i hynny?

Dylai darparwr y gwasanaeth cyfradd premiwm allu egluro unrhyw ffioedd, esbonio pa wasanaeth roeddech chi wedi’i ddefnyddio a phryd, a rhoi stop ar unrhyw daliadau diangen. Maen nhw’n gyfrifol am ddelio â chwynion am y gwasanaeth, gan gynnwys ceisiadau am ad-daliadau.

Mae dwy ffordd o gael gwybod pwy yw darparwr y gwasanaeth cyfradd premiwm, a sut mae cysylltu â nhw:

  • Fel arfer, fe welwch enw darparwr y gwasanaeth cyfradd premiwm wedi’i restru ar eich bil ffôn, er weithiau efallai mai rhif fydd yn lle hynny. Gallwch ofyn i’ch darparwr ffôn pwy sydd wedi darparu’r gwasanaeth drwy’r rhif hwn a sut mae cysylltu â nhw.
  • Os cawsoch chi unrhyw negeseuon testun am y gwasanaeth yn sôn am god byr neu enw gwasanaeth, gofynnwch i ddarparwr eich ffôn pwy sydd wedi darparu'r gwasanaeth drwy'r rhif hwn a sut mae cysylltu â nhw.

Ydw i’n gallu rhoi stop ar y taliadau am wasanaeth cyfradd premiwm?

Gallwch anfon neges destun at ddarparwr y gwasanaeth cyfradd premiwm i roi stop ar y taliadau. Yn hytrach na defnyddio’r swyddogaeth “ateb” ar y SMS, anfonwch y neges destun ‘STOP ALL’ i’r rhif maen nhw’n ei roi i chi.

Mae rhywun wedi codi tâl arna i’n annisgwyl, ydw i’n gallu cael ad-daliad?

Os ydych chi’n credu bod tâl wedi cael ei godi arnoch chi am wasanaeth cyfradd premiwm a bod hawl arnoch i gael ad-daliad, siaradwch â darparwr y gwasanaeth cyfradd premiwm a gododd ffi arnoch chi yn y lle cyntaf. Gofynnwch iddo am brawf o’r pryniant, logiau negeseuon, deunydd hyrwyddo neu unrhyw beth arall a fydd yn dangos pa wasanaeth roeddech chi wedi’i ddefnyddio ac wedi talu amdano.

Ar ôl siarad â darparwr y gwasanaeth cyfradd premiwm, os ydych chi’n dal yn anhapus â’r canlyniad, efallai y byddwch chi’n dymuno siarad â darparwr eich rhwydwaith symudol a all ymchwilio i hyn ar eich rhan. Yn dilyn hynny, os ydych yn dal yn anhapus ac yn dymuno mynd â’r mater ymhellach, efallai y byddwch yn dymuno cael cyngor cyfreithiol.

Ydy Ofcom yn gallu fy helpu i gael ad-daliad?

Fel y rheoleiddiwr, nid yw'r Senedd Brydeinig wedi rhoi'r pwerau i ni gyfryngu mewn achosion unigol. Felly, ni fyddwn yn gallu eich helpu i gael ad-daliad.

Yn hytrach, fel rheoleiddiwr, rydym yn edrych ar faterion ar draws y farchnad i sicrhau bod gwasanaethau’n cydymffurfio â’n rheoliadau ac nad oes dim drwg yn dod i ddefnyddwyr. Mae ein rheolau’n mynnu’r canlynol:

  • Rhaid i wasanaethau fod yn dryloyw ac wedi’u prisio’n glir – dylai fod yn glir beth rydych chi’n ei brynu
  • Dylai cofrestru ar gyfer y gwasanaeth fod yn glir - ni ddylech gael eich camarwain i brynu rhywbeth
  • Rhaid i’ch cwyn gael ei datrys yn gyflym ac yn hawdd

Os ydych chi wedi defnyddio gwasanaeth cyfradd premiwm nad oedd, yn eich barn chi, yn parchu'r rheolau uchod, gallwch roi gwybod i ni amdano. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i helpu i lywio ein gwaith gorfodi a pholisi.

Nid yw Ofcom yn ymchwilio i gwynion unigol nac yn eu datrys. Fodd bynnag, mae eich help i dynnu sylw at broblemau yn chwarae rhan hanfodol yn ein gwaith.

Os ydych chi wedi defnyddio gwasanaeth cyfradd premiwm ac nad yw wedi dilyn ein rheolau, gallwch herio hyn gyda darparwr y gwasanaeth cyfradd premiwm. Dylai egluro sut mae cofnodi cwyn gyda nhw.

Mae cwsmeriaid yn gallu cael gafael ar gyngor yn rhad ac am ddim drwy’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth. Efallai y byddan nhw’n helpu i ddatrys eich problem os bydd y broblem honno yn dal heb ei datrys ar ôl dilyn proses gwyno’r darparwr.

Gallwch gwyno wrth Ofcom drwy ein ffurflen cwynion am wasanaethau cyfradd premiwm, neu drwy ein ffonio ni ar 0300 123 3333 neu 020 7981 3040.

Os hoffech siarad â ni yn Gymraeg, cysylltwch â’n llinell Gymraeg ar 0300 123 2023.  

Yn ôl i'r brig