Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi ei ymateb i Ddatganiad Polisi Cynnwys Cyfryngau Corfforaeth Channel 4.
Yn unol â Deddf Cyfathrebiadau 2003, mae’n rhaid i Channel 4 baratoi Datganiad Polisi Cynnwys Cyfryngau blynyddol sy'n amlinellu ei chynlluniau ar gyfer cyflawni ei dyletswyddau cynnwys cyfryngau yn ystod y flwyddyn nesaf, ac adrodd ar ei pherfformiad dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n rhaid i'r darlledwr ymgynghori ag Ofcom, ac ystyried ein canllawiau, cyn cyhoeddi'r datganiad.
Mae hi wedi bod yn flwyddyn heriol i Channel 4 yn ariannol, ac mae’n debyg y bydd effaith hynny yn dal i gael ei deimlo ym misoedd cyntaf 2025. Serch hynny, rydyn ni wedi dod i’r casgliad bod y Gorfforaeth wedi perfformio’n dda yn erbyn ei chylch gwaith a’i dyletswyddau cynnwys cyfryngau yn 2023. Rydyn ni’n cydnabod yn bennaf:
- perfformiad cynnwys newyddion a materion cyfoes Channel 4, sy’n cael ei werthfawrogi gan y gynulleidfa am ei fod yn gywir, yn ddibynadwy, ac yn unigryw. Cafodd safon newyddiadurol Channel 4 ei chydnabod yng ngwobrau BAFTA ac yng Ngwobrau’r Gymdeithas Deledu Frenhinol yn 2024, ac enillon nhw ddwy wobr am ymchwiliad Dispatches i’r honiadau yn erbyn Russell Brand;
- llwyddiant cynlluniau a chynnwys sydd wedi eu hanelu at gynulleidfaoedd ifanc. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth materion cyfoes digidol, Untold, a’r sianel YouTube Channel 4.0. Roedd perfformiad y ddau yn addawol yn 2023;
- twf parhaus gwasanaeth ffrydio Channel 4, a recordiwyd y nifer mwyaf o wylwyr erioed yn 2023.
Mae yna feysydd pwysig yr ydym ni’n disgwyl i Channel 4 ganolbwyntio arnynt yn y dyfodol.
Yn gyntaf oll, rydyn ni’n cydnabod ei strategaeth Fast Forward fel cam ymlaen cadarnhaol tuag at drawsnewid Channel 4 i fod yn ffrydiwr gwasanaeth cyhoeddus digidol-yn-gyntaf. Ond, rydyn ni’n gobeithio y bydd mwy o fanylion yn cael eu rhannu â ni am sut y bydd yr amcanion uchelgeisiol hyn yn cael eu rhoi ar waith, yn ogystal â thargedau penodol ynglŷn â’u cyflawni. Wrth gyflawni strategaeth y comisiwn digidol-yn-gyntaf, rydyn ni eisiau gweld Channel 4 yn canfod y cydbwysedd rhwng hen ffefrynnau a rhaglenni newydd, gwreiddiol ac arloesol.
Yn ail, dylai Channel 4 sicrhau ei bod yn buddsoddi mewn comisiynu rhaglenni y tu allan i Lundain. Mae hyn yn cynnwys bod yn fwy gonest am ei heffaith yn y gwledydd, cyhoeddi data yn gyson ar ei ddull gweithredu wrth gomisiynu, a sicrhau presenoldeb cryf ym mhob un o’r gwledydd. Bydd Ofcom yn monitro’r maes hwn yn fanwl dros y blynyddoedd nesaf.
Mae’r ymateb hwn heddiw wedi ei baratoi ochr yn ochr â’r gwaith i adnewyddu trwydded Channel 4. Yn dilyn cyfnod hir o ymgynghori, byddwn ni’n cyhoeddi ein penderfyniadau ar y drwydded newydd yn fuan, er mwyn sicrhau bod Channel 4 yn gallu parhau i ddarparu gwasanaeth o safon uchel i’r cyhoedd yn y dyfodol.