woman holding tv remote and mug with pet on her lap.

Trwyddedau darlledu gwasanaeth cyhoeddus newydd am ddeng mlynedd i Channel 3 a Channel 5

Cyhoeddwyd: 12 Medi 2024

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi’r trwyddedau darlledu newydd ar gyfer Channel 3 a Channel 5, gan sicrhau darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar y sianeli hyn am ddeng mlynedd arall.

Mae ITV, STV a Channel 5 yn rhan bwysig o’r system darlledu gwasanaeth cyhoeddus, ochr yn ochr â’r BBC, Channel 4 ac S4C. Mae gan bob un o’r darlledwyr cyhoeddus rôl unigryw o ran sicrhau bod yna rywbeth ar gael at ddant pawb, fel eu bod gyda’i gilydd yn gallu diwallu anghenion a diddordebau cynifer o wahanol gynulleidfaoedd â phosibl.

Mae cyhoeddi’r trwyddedau newydd heddiw yn nodi penllanw sawl cam o broses ail-drwyddedu. Yn gyntaf, gwnaethom gyflwyno adroddiad i’r Ysgrifennydd Gwladol yn amlinellu ein safbwynt ynghylch a fyddai Channel 3 a Channel 5 yn gallu cyflawni eu rhwymedigaethau darlledu gwasanaeth cyhoeddus am gost sy’n gynaliadwy’n fasnachol, dros gyfnod y drwydded ddeng mlynedd nesaf.

Canfuwyd bod achos cryf dros adnewyddu’r drwydded, gan gydnabod, ymysg pethau eraill, fod cynulleidfaoedd yn dal yn gwerthfawrogi’r sianeli a bod modd i’r rhwymedigaethau presennol fod yn gynaliadwy yn fasnachol. Daethom hefyd i’r casgliad y byddai’r ddeddfwriaeth arfaethedig - sef y Ddeddf Cyfryngau erbyn hyn - yn cryfhau sefyllfa pob un o’r trwyddedeion. 

Ar ôl cael cymeradwyaeth yr Ysgrifennydd Gwladol i fwrw ymlaen, y cam nesaf oedd penderfynu ar y telerau ariannol ar gyfer adnewyddu’r trwyddedau. Derbyniodd Channel 3 a Channel 5 y telerau ariannol hyn ym mis Mawrth 2024. 

Daw’r trwyddedau newydd i rym ar 1 Ionawr 2025 a byddant yn parhau i fod ar waith tan 31 Rhagfyr 2034.

Vikki Cook, Ofcom Director of Broadcast & Media PolicyMae hyn yn newyddion gwych i gynulleidfaoedd ledled y DU a fydd yn parhau i elwa o ddeng mlynedd arall o raglenni o ansawdd uchel a newyddion dibynadwy a chywir gan Channel 3 a Channel 5. Wrth i’r sector barhau i esblygu o wasanaeth llinol yn gyntaf i ddarpariaeth ddigidol, mae’r trwyddedau hyn yn helpu i ategu llwyddiant parhaus ein darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus gwerthfawr.

Dywedodd Vikki Cook, Cyfarwyddwr Polisi Darlledu a'r Cyfryngau Ofcom

Rydyn ni wrth ein bodd bod ein trwyddedau Channel 3 ar gyfer rhanbarthau gogledd a chanolbarth yr Alban wedi cael eu hadnewyddu, gan helpu i sicrhau darpariaeth barhaus o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus gwerthfawr ar Channel 3 yn yr Alban tan ddiwedd 2034. Rydyn ni’n falch mai ni yw sianel oriau brig fwyaf poblogaidd yr Alban, sy’n brawf o’r amserlen gref sydd gennym o ran rhaglenni lleol, newyddion a materion cyfoes, a chynnwys rhwydwaith drwy ein cytundeb ag ITV.

Dywedodd Bobby Hain, Rheolwr Gyfarwyddwr Darlledu STV

Mae ITV yn falch o allu parhau â’i rôl ganolog yn y system darlledu gwasanaeth cyhoeddus – gan fuddsoddi mwy mewn cynnwys gwreiddiol o’r DU nag unrhyw ddarlledwr masnachol arall – a hynny ar gyfer cynulleidfaoedd ledled y DU gan ategu diwydiannau creadigol ehangach y DU. Mae ein cynulleidfa’n gwerthfawrogi teledu byw ar ITV1 sy’n dod â’r genedl at ei gilydd, o’r digwyddiadau chwaraeon mwyaf i adloniant ar gyfer pob cenhedlaeth. Maen nhw hefyd am gael gwasanaeth ffrydio o’r radd flaenaf gan ITVX. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gydag Ofcom i ddiwygio’r system darlledu gwasanaeth cyhoeddus, gan adeiladu ar y Ddeddf Cyfryngau, i sicrhau bod darlledu gwasanaeth cyhoeddus – yn llinol ac ar-alw – yn gynaliadwy am y degawd nesaf.

Dywedodd Magnus Brooke, Cyfarwyddwr Strategaeth, Polisi a Rheoleiddio Grŵp ITV

Mewn byd sydd â mwy a mwy o ddewis, mae gwerth cynnwys gwasanaeth cyhoeddus dibynadwy yn bwysicach nag erioed. Bydd cyhoeddiad heddiw yn sicrhau y gall Channel 5 barhau i chwarae rôl unigryw a chydweithredol yn ecoleg darlledu gwasanaeth cyhoeddus hynod lwyddiannus y DU dros y degawd nesaf wrth i ni esblygu o wasanaethau llinol i ddarpariaeth ddigidol, gan ddiddanu cynulleidfaoedd gyda chynnwys cynhenid sy’n adlewyrchu eu bywydau a’u profiadau.

Sarah Rose, Llywydd Channel 5 ac Arweinydd Rhanbarthol y DU, Paramount Global

Yn ôl i'r brig