Adnewyddu trwyddedau Channel 3 a Channel 5

Cyhoeddwyd: 1 Mawrth 2024
Diweddarwyd diwethaf: 1 Mawrth 2024

Pennu telerau ariannol ar gyfer trwyddedau Channel 3 a Channel 5

Bydd y trwyddedau Channel 3 a Channel 5 presennol yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2024. O dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, mae gan drwyddedeion yr hawl i wneud cais i Ofcom am adnewyddu eu trwyddedau am gyfnod trwydded deng mlynedd arall (rhwng 1 Ionawr 2025 a 31 Rhagfyr 2034). Mae pob un o’r deiliaid trwydded presennol wedi gwneud cais am adnewyddu eu trwyddedau ac rydym wedi penderfynu eu hadnewyddu am ddeng mlynedd arall.

Ar 1 Mawrth 2024 gwnaethom gyhoeddi ein penderfyniad ar delerau ariannol ar gyfer trwyddedau Channel 3 a Channel 5. Mae'r telerau ariannol wedi'u gosod ar gyfer pob trwydded Channel 3 a Channel 5 ar swm cynnig arian parod enwol o £1,000 y flwyddyn gyda PQR o 0%. Mae swm y cynnig arian parod yn codi'n unol â chwyddiant bob blwyddyn.

Rhaid i ni hysbysu'r trwyddedeion am ein penderfyniad ac os ydynt yn derbyn y telerau, rhaid i ni wedyn roi'r trwyddedau newydd cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Mae gan ymgeiswyr hyd at 22 Mawrth 2024 i dderbyn neu wrthod y telerau ariannol. Byddwn yn diweddaru ein gwefan ar ôl y dyddiad hwn gyda'r canlyniad.

Cyn y gallwn adnewyddu trwyddedau Channel 3 a Channel 5, mae'n ddyletswydd ar Ofcom o dan adran 229 o’r Ddeddf Cyfathrebiadau i gyflwyno adroddiad i’r Ysgrifennydd Gwladol cyn rownd drwyddedu newydd yn nodi ein barn ar allu trwyddedeion Channel 3 a Channel 5 i gyfrannu at gyflawni dibenion darlledu gwasanaeth cyhoeddus (PSB), am gost fasnachol gynaliadwy, dros gyfnod y drwydded deng mlynedd nesaf. Ar ôl derbyn yr adroddiad hwn, rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol benderfynu a fydd yn rhwystro adnewyddu'r trwyddedau neu ddiwygio rhai agweddau ar y drwydded.

Yn dilyn hyn, rhaid i ni bennu'r telerau ariannol ar gyfer adnewyddu'r trwyddedau. Rhaid i ni hysbysu'r trwyddedeion am ein penderfyniad ac os ydynt yn derbyn y telerau, rhaid i ni wedyn roi'r trwyddedau newydd cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Ym mis Medi 2023, cyhoeddwyd ein datganiad yn nodi ein methodoleg ar gyfer pennu telerau ariannol trwyddedau Channel 3 a Channel 5. Rydym wedi dilyn yr un dull yn fras â'r fethodoleg a ddefnyddiwyd y tro diwethaf y gwnaethom bennu telerau ariannol trwyddedau Channel 3 a Channel 5 yn 2014. Rydym wedi gwneud rhai diweddariadau i adlewyrchu ansicrwydd cyfredol y farchnad a rheoleiddio, megis y newidiadau arfaethedig i’r fframwaith rheoleiddio yn y Bil Cyfryngau drafft, a sylwadau gan randdeiliaid mewn ymateb i’n hymgynghoriad, a ddaeth i ben ar 28 Gorffennaf 2023.

Methodoleg arfaethedig ar gyfer adolygu telerau ariannol y trwyddedau Channel 3 a Channel 5.

Ar 29 Mawrth 2023, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Gwladol nad yw'n bwriadu rhwystro adnewyddu trwyddedau Channel 3 a Channel 5, na defnyddio ei phwerau i ddiwygio cylch gwaith y gwasanaeth cyhoeddus a/neu ofynion statudol eraill sydd ynghlwm wrth y trwyddedau.

Mae gan y deiliaid trwydded presennol (ITV, STV a Paramount Global) tan 30 Ebrill 2023 i gyflwyno eu ceisiadau am adnewyddu trwydded. Ar ôl derbyn eu ceisiadau, byddwn yn bwrw ymlaen â'r broses adnewyddu trwyddedau, mae hyn yn cynnwys ystyried i ba raddau y bydd y trwyddedeion yn cyflawni eu rhwymedigaethau PSB dros y deng mlynedd nesaf ac rydym yn disgwyl cyhoeddi ein penderfyniad terfynol yn gynnar yn 2024. Byddwn hefyd yn penderfynu ar ba delerau ariannol y bydd trwyddedau Channel 3 a Channel 5 yn cael eu hadnewyddu.

Llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol ynghylch adnewyddu'r trwyddedau

Mae'n ddyletswydd ar Ofcom o dan adran 229 o'r Ddeddf Cyfathrebiadau i gyflwyno adroddiad i'r Ysgrifennydd Gwladol erbyn 30 Mehefin 2022 gan ragweld rownd drwyddedu newydd ar gyfer gwasanaethau Channel 3 a Channel 5.

Mae'r adroddiad yn rhoi ein barn ar allu trwyddedeion Channel 3 a Channel 5 i gyfrannu at gyflawni dibenion darlledu gwasanaeth cyhoeddus (PSB), am gost fasnachol gynaliadwy, dros gyfnod y drwydded deng mlynedd nesaf. Mae dibenion PSB wedi'u dylunio i sicrhau darpariaeth ystod eang a chytbwys o raglenni o ansawdd uchel, sy'n diwallu anghenion ac yn bodloni buddiannau cynifer o gynulleidfaoedd ag sy'n ymarferol. Mae'r adroddiad yn rhan o'r broses sy'n arwain at naill ai adnewyddu neu ail-hysbysebu a dyfarnu'r trwyddedau, mewn pryd ar gyfer cyfnod nesaf y drwydded sy'n dechrau ar 1 Ionawr 2025.

Mae pob un o'r 16 o drwyddedau Channel 3 wedi'u dal gan is-gwmnïau naill ai ITV plc neu STV plc. Mae trwydded Channel 5 wedi'i dal gan Channel 5 Broadcasting Limited (is-gwmni i Paramount Global).

Mae Channel 3 a Channel 5 yn rhan bwysig o'r system darlledu gwasanaeth cyhoeddus, ochr yn ochr â'r BBC, Channel 4 ac S4C. Mae pob un o'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn chwarae rôl unigryw wrth sicrhau bod gan y system rywbeth at ddant pawb, fel y gallant gyda'i gilydd ddiwallu anghenion a diddordebau cynifer o wahanol gynulleidfaoedd â phosibl.

Ein canfyddiadau allweddol

  • Y rhwymedigaethau trwydded cyfredol yw'r lleiafswm cyfraniadau at ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yr ydym yn ei ddisgwyl ar gyfer cynulleidfaoedd, ac mae gan Channel 3 a Channel 5 hanes da wrth eu cyflawni.
  • Yn ychwanegol at y rhwymedigaethau trwydded penodol, mae trwyddedeion Channel 3 a Channel 5 yn cyfrannu'n ehangach at ddibenion ac amcanion  darlledu gwasanaeth cyhoeddus, er enghraifft trwy fuddsoddi mewn ystod eang o gynnwys gwreiddiol yn y DU sy'n diwallu anghenion a diddordebau cynulleidfaoedd gwahanol. Mae ein hymchwil yn dangos bod y sianeli'n parhau i gael eu gwerthfawrogi gan gynulleidfaoedd.
  • Gallai'r rhwymedigaethau presennol fod yn fasnachol gynaliadwy, gan olygu y gall y trwyddedeion barhau i'w cyflwyno dros gyfnod y drwydded nesaf. Byddai'r sefyllfa hon yn cael ei chryfhau trwy weithredu diwygiadau deddfwriaethol arfaethedig Llywodraeth y DU i sefydlu rheolau amlygrwydd ac argaeledd newydd ar gyfer gwasanaethau teledu darlledu gwasanaeth cyhoeddus ar-lein.

Am y rhesymau hyn, credwn fod achos da dros fwrw ymlaen ag adnewyddu, ac nid ydym yn gwneud argymhelliad, yn ein hadroddiad, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn defnyddio ei bwerau gwneud gorchmynion i ddiwygio neu ddileu'r amodau y mae'n rhaid eu cynnwys yn y trwyddedau neu i rwystro adnewyddu'r trwyddedau.

Adroddiad Adran 229

Licensing of Channel 3 and Channel 5: Report to the Secretary of State under section 229 of the Communications Act 2003 (PDF, 1.6 MB)

Trwyddedu Sianel 3 a Sianel 5: Adroddiad i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 229 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (PDF, 994.7 KB)

Adroddiad Adran 229 - dogfennau ategol

Hysbysiad o dan adran 216(3)(b) Deddf Cyfathrebiadau 2003 i drwyddedeion Channel 3 a Channel 5: terfyn amser ar gyfer ceisiadau am adnewyddu trwydded (PDF, 187.1 KB)

Llythyr Agored wrth Kate Biggs, 29 Hydref 2021 (PDF, 222.4 KB)

Yn ôl i'r brig