Ymgynghoriad: Adnewyddu trwydded Channel 4

Cyhoeddwyd: 6 Rhagfyr 2023
Ymgynghori yn cau: 14 Chwefror 2024
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Bydd trwydded bresennol Channel 4 yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2024. Mae Ofcom yn gyfrifol am bennu hyd ac amodau trwydded newydd ar gyfer Channel 4 Television Corporation (C4C) i ddarparu’r sianel gwasanaeth cyhoeddus, Channel 4.

Fel rhan o’r broses o adnewyddu trwydded Channel 4, mae C4C wedi gofyn am newidiadau i rai o rwymedigaethau’r drwydded bresennol i gefnogi ei drawsnewidiad i fod yn ddarlledwr digidol yn gyntaf. Mae'r cynigion yr ydym yn ymgynghori arnynt yn ceisio taro cydbwysedd rhwng caniatáu mwy o hyblygrwydd i C4C yn y dyfodol wrth ddatblygu ei strategaeth cynnwys a dosbarthu er mwyn cefnogi ei thrawsnewidiad digidol, tra’n parhau i ddiogelu ei buddsoddiad mewn cynnwys unigryw o’r DU a diogelu’r modd y darperir elfennau craidd ei allbwn llinol ar Channel 4.

Rydym yn cynnig newidiadau nawr, cyn y ddeddfwriaeth ddarlledu newydd, i roi sicrwydd i C4C a’i bartneriaid masnachol ac i sicrhau y gall elwa o’r hyblygrwydd ychwanegol hwn mor fuan â phosibl. Pan gaiff y ddeddfwriaeth newydd ei phasio, bydd yn ofynnol i ni ddiwygio trwyddedau'r holl sianeli gwasanaeth cyhoeddus i roi’r fframwaith newydd ar waith.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad (ODT, 50.6 KB).

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Channel 4 Licence Renewal team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig