Ailymgynghoriad: Adnewyddu Trwydded Channel 4

Cyhoeddwyd: 19 Gorffennaf 2024
Ymgynghori yn cau: 16 Awst 2024
Statws: Agor

Fe wnaethom ymgynghori ar ein cynigion ar gyfer trwydded newydd Channel 4 ym mis Rhagfyr 2023 (‘ymgynghoriad mis Rhagfyr’). Roedd y cynigion yn ceisio taro cydbwysedd rhwng rhoi mwy o hyblygrwydd i C4C yn y dyfodol i ddatblygu ei strategaeth cynnwys a dosbarthu er mwyn cefnogi ei drawsnewidiad digidol, gan barhau i sicrhau ei fuddsoddiad mewn cynnwys unigryw yn y DU, a’r gwaith o gyflawni elfennau craidd ei allbwn llinol ar Channel 4. Ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwnnw, rydym bellach yn ymgynghori ar gynnig diwygiedig ar gyfer cwotâu Gwnaed y tu allan i Loegr (‘MoE’) Channel 4 ar gyfer oriau a gwariant. 

  • Rydym yn cynnig cynyddu’r gofynion ar Channel 4 mewn perthynas â chynhyrchu rhaglenni yn y DU y tu allan i Loegr o 2030 ymlaen. 
  • Rydym yn cynnig, o 2030 ymlaen, y bydd yn rhaid i o leiaf 12% o’r oriau o raglenni ym mhob blwyddyn galendr a gaiff eu gwneud yn y DU i’w gwylio ar wasanaeth Channel 4 gael eu cynhyrchu y tu allan i Loegr, ac y bydd yn rhaid i o leiaf 12% o’r gwariant ar raglenni a gaiff eu gwneud yn y DU i’w gwylio ar y gwasanaeth gael ei ddyrannu i gynhyrchu rhaglenni y tu allan i Loegr a defnyddio canolfannau cynhyrchu yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. 
  • Rydym yn cynnig ei gwneud yn ofynnol i C4C fynd ati bob blwyddyn i nodi ei strategaeth ar gyfer comisiynu yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon dros y flwyddyn i ddod a sut mae wedi cyflawni ei strategaeth ar gyfer y flwyddyn flaenorol, er mwyn sicrhau tryloywder ac atebolrwydd i’w randdeiliaid allweddol. 

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad (ODT).

Sut i ymateb

Cyfeiriad

Channel 4 Licence Renewal Team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA

Yn ôl i'r brig