Listed-Events-2024-(Web)

Sut fydd rheolau'r dyfodol o ran dangos digwyddiadau chwaraeon mawr yn edrych?

Cyhoeddwyd: 18 Gorffennaf 2024

Heddiw, mae Ofcom yn gofyn am dystiolaeth i gyfrannu at ein gwaith o weithredu newidiadau i reolau'r Digwyddiadau Rhestredig o dan Ddeddf y Cyfryngau 2024.

Digwyddiadau rhestredig yw digwyddiadau chwaraeon neu ddigwyddiadau eraill o “ddiddordeb cenedlaethol” a ddynodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Maent yn cynnwys y Gemau Olympaidd, Cwpan y Byd FIFA y dynion a’r merched, a rownd derfynol Cwpan yr FA.  

Nod rheolau’r digwyddiadau rhestredig yw sicrhau bod darllediadau o’r digwyddiadau hyn ar gael am ddim i’r gynulleidfa ehangaf bosibl. Mewn rhai achosion, rhaid cael caniatâd Ofcom er mwyn dangos darllediad teledu byw ac ecsgliwsif o ddigwyddiad rhestredig.  

Mae’r drefn bresennol yn ceisio sicrhau bod hawliau i ddarlledu digwyddiadau rhestredig byw yn cael eu cynnig i ddarlledwyr sy’n bodloni meini prawf penodol – h.y. eu bod ar gael i'w gwylio am ddim a bod 95% o’r boblogaeth yn gallu eu derbyn. Gelwir y rhain yn “wasanaethau cymwys”.

Y Newidiadau i’r drefn Digwyddiadau Rhestredig

Mae Deddf y Cyfryngau yn gwneud newidiadau sylweddol i’r drefn digwyddiadau rhestredig. Yn hytrach na chael ei chyfyngu i sianeli darlledu traddodiadol, bydd y drefn newydd yn cynnwys unrhyw wasanaethau y gellir eu defnyddio i ddangos darllediadau byw o ddigwyddiadau rhestredig i gynulleidfaoedd yn y DU – gan gynnwys chwaraewyr ar-alw y Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus, llwyfannau cyfryngau byd-eang a gwasanaethau ffrydio eraill ar y rhyngrwyd.

Mae’r Ddeddf hefyd yn newid y diffiniad o “wasanaethau cymwys” i gynnwys gwasanaethau a ddarperir gan Ddarlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus. Mae pob gwasanaeth arall yn rhai “nad ydynt yn gymwys”. Nod y drefn yw sicrhau bod hawliau sy’n cael eu gwerthu ar gyfer digwyddiad rhestredig yn cael eu cynnig i wasanaeth cymwys, a gwasanaethau nad ydynt yn gymwys.

Fel rhan o'r gwaith o weithredu’r newidiadau hyn, mae’n rhaid i Ofcom ddiffinio nifer o dermau sy’n cael eu defnyddio yn y drefn – yn benodol, ‘darllediadau byw,’ ‘darllediadau byw digonol,’ a ‘darllediadau amgen digonol.’ Rhaid i ni hefyd ddiwygio ein Cod sy’n cynnig arweiniad i ddarlledwyr ar reolau’r digwyddiadau rhestredig.

Er mwyn ein helpu i gyflawni’r gwaith hwn, rydym yn chwilio am dystiolaeth am y ffordd y mae arferion gwylio cynulleidfaoedd, technoleg a thirwedd ehangach y cyfryngau wedi effeithio ar ddulliau gwylio digwyddiadau rhestredig. Mae gennym ddiddordeb hefyd yn y ffordd y mae hawliau ar gyfer digwyddiadau rhestredig yn cael eu pecynnu a’u gwerthu.

Rydym yn gwahodd ceisiadau erbyn 5pm ar 26 Medi 2024, ac rydym yn bwriadu ymgynghori ar gynigion yn 2025.

Yn ôl i'r brig