Heddiw yw’r 500fed rhifyn Bwletin Darlledu Ofcom – y lle i fynd i gael gwybod am waith Ofcom i gynnal safonau ar y teledu a’r radio.
Bob pythefnos ar ddydd Llun, mae’n cael ei gyhoeddi ar wefan Ofcom – ac felly y bu ers y Bwletin cyntaf erioed ar 27 Ionawr 2004 (gallwch gael golwg arno ar wefan yr Archifau Cenedlaethol!).
Beth bynnag fo’r mater, y sianel neu’r rhaglen, mae pob cwyn yn bwysig i ni; maent yn ffon fesur hanfodol o sut mae cynulleidfaoedd yn meddwl ac yn teimlo, ac rydym yn ystyried pob un yn ofalus yn erbyn ein rheolau, sef y Cod Darlledu.
Mae’r Cod yn gosod safonau mewn rhaglenni – gan gynnwys rheolau ynghylch amddiffyn plant, niwed a thramgwydd, a chywirdeb a didueddrwydd dyladwy mewn newyddion – yn ogystal â nawdd, gosod cynnyrch, a thegwch a phreifatrwydd. Mae pob darlledwr yn cael ei drin yn gyfartal ac yn deg ac yn gorfod cadw at yr un safonau uchel.
Mae’r Bwletin Darlledu yn cynnwys cofnod o unrhyw ymchwiliadau newydd rydym wedi’u sefydlu mewn perthynas â rhaglenni, yn ogystal â chanlyniad yr ymchwiliadau hynny. Mae hefyd yn cynnwys rhestr o unrhyw gwynion rydym wedi edrych arnynt, ond wedi penderfynu yn y pen draw nad ydynt yn codi materion o dan ein rheolau (wedi’u categoreiddio fel ‘wedi’u hasesu, heb fwrw ymlaen â nhw’).
Gallwch bori drwy’r Bwletin yn rhyngweithiol a gosod hidlyddion i edrych ar hanes cydymffurfio a chwynion gwasanaethau teledu a radio penodol.
Mae’n bwysig nodi, o dan Siarter y BBC, oni bai fod amgylchiadau eithriadol, bod rhaid i’r BBC ymdrin â chwynion am raglenni ar y BBC yn y lle cyntaf. Gallwch chwilio’r Bwletin am gwynion ‘BBC yn gyntaf’ sydd wedi eu cyflwyno i Ofcom ac sydd wedi cael eu cyfeirio at y BBC, a hefyd cwynion sydd wedi cael eu hystyried o dan broses y BBC ac wedi cael eu hasesu gan Ofcom.
Cerrig milltir
- 2005 - Jerry Springer the Opera, sydd yn y nawfed safle ar y rhestr o raglenni y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdanynt. Dyma oedd y tro cyntaf i ni weld nifer fawr o gwynion am safonau i Ofcom. Roedd ein hymchwiliad yn cynnwys y pwynt fod hon yn lefel o gwynion ‘na welwyd mo’i thebyg ar gyfer Ofcom nac unrhyw reoleiddiwr darlledu blaenorol a’i bod yn ymddangos mai dyma’r ymgyrch rhyngrwyd gyntaf ar raddfa fawr i Ofcom ar unrhyw fater darlledu.’
- 2007 - ein moment fawr nesaf o ran cwynion oedd Celebrity Big Brother, sy’n ail ar y rhestr o raglenni y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdanynt. Methodd gwefan Ofcom, a chafwyd nifer enfawr o alwadau i Ofcom yn sgil hyn a chafwyd dadl Seneddol ar y mater, a ddenodd sylw rhyngwladol.
- 2008 – fe wnaethom roi dirwy o £5,675,000 i ITV am rai o’r achosion mwyaf difrifol o dorri Cod Darlledu Ofcom. Cododd y ‘sgandal rhifau ffôn cyfradd premiwm’ gwestiynau difrifol am ymddiriedaeth rhwng darlledwyr a gwylwyr. Fe wnaethom ymchwilio i amryw o raglenni ynghylch eu defnydd o linellau ffôn cyfradd premiwm, a rhoddwyd dirwyon gwerth cyfanswm o £11m i ddarlledwyr.
- 2009 - Rhoddodd Ofcom ddirwy o £150,000 i’r BBC ynghylch y ffrae “Sachsgate”, gan ddisgrifio penderfyniad Radio 2 i ddarlledu negeseuon llais a adawyd gan Jonathan Ross a Russell Brand i’r actor Andrew Sachs fel un “tramgwyddus iawn, a oedd yn bychanu ac yn diraddio”.
- 2016 - fe wnaethom adolygu ein rheolau darlledu ar ddeunydd sy’n debygol o annog neu gymell troseddu, gan gyflwyno dwy reol ychwanegol i fynd i’r afael â chynnwys sy’n cynnwys iaith casineb a thriniaeth sarhaus neu ddifrïol.
- 2020 - fe wnaethom gryfhau ein rheolau ar ôl gwrando ar bryderon gwylwyr am les pobl sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni. Fe wnaethom gyflwyno mesurau diogelu cryfach yn y maes hwn: nawr, mae’n rhaid i ddarlledwyr ofalu’n briodol am bobl maen nhw’n eu cynnwys yn eu rhaglenni a allai fod mewn perygl o niwed sylweddol, fel pobl agored i niwed neu’r rheini nad ydyn nhw wedi arfer bod yn llygad y cyhoedd.
- 2021- cawsom 173,132 o gwynion a oedd yn golygu mai 2021 oedd y flwyddyn â’r nifer uchaf o gwynion i Ofcom erioed.
- 2022 - fe wnaethom ddiddymu trwydded Russia Today a chanfod bod eu darpariaeth newyddion a materion cyfoes wedi torri ein rheolau 29 gwaith yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin.
Y 10 rhaglen y cafwyd y nifer mwyaf o gwynion amdanynt i Ofcom erioed
- Good Morning Britain, ITV, 8 Mawrth 2021 – 54,595 o gwynion am y rhaglen hon a oedd yn canolbwyntio ar y cyfweliad rhwng Oprah Winfrey a Dug a Duges Sussex. Mewn penderfyniad a gafodd ei bwyso a’i fesur yn ofalus iawn, dyfarnodd ein hymchwiliad na wnaeth hyn dorri rheolau darlledu. Fe wnaethom atgoffa ITV o’r angen i fod yn fwy gofalus ynghylch cynnwys sy’n trafod iechyd meddwl a hunanladdiad yn y dyfodol.
- Celebrity Big Brother, Channel 4, 10 Ionawr 2007 – 45,159 o gwynion yn ymwneud â’r honiad fod Jade Goody, y model Danielle Lloyd a’r gantores Jo O’Meara wedi bwlio eu cyd-gystadleuydd, yr actores Bollywood Shilpa Shetty. Dyfarnwyd bod Channel Four wedi torri’r Cod Darlledu a chawsant eu cyfarwyddo i ddarlledu crynodeb o ganfyddiad Ofcom ar dri achlysur gwahanol.
- Celebrity Big Brother, Channel 5, 30, 31 Awst ac 1 Medi 2018 – 25,327 o gwynion am honiad gan un o’r cystadleuwyr, Roxanne Pallett, fod ei chyd-gystadleuydd Ryan Thomas wedi ymosod arni’n fwriadol ac yn gorfforol dro ar ôl tro. Dyfarnodd ein hymchwiliad na wnaeth hyn dorri rheolau darlledu. Roedd hwn yn amlwg yn fater sensitif iawn, ac roedd llawer o wylwyr yn teimlo’n gryf yn ei gylch. Ar y cyfan, roeddem o’r farn y byddai’r rhan fwyaf o wylwyr rheolaidd yn disgwyl i’r mater gael sylw estynedig, ac fe wnaethom hefyd ystyried y rhybuddion cyson y rhoddodd y darlledwr i’r gwylwyr.
- Britain’s Got Talent, ITV, 5 Medi 2020 – 25,017 o gwynion am berfformiad gan y grŵp dawnsio Diversity nad oedd rhai gwylwyr o’r farn ei fod yn addas ar gyfer rhaglen deuluol gan gynnwys mynegi cefnogaeth i’r sefydliad gwleidyddol ‘Black Lives Matter’. Fe wnaethom gyhoeddi ein rhesymau dros ddod i’r casgliad nad oedd y rhaglen wedi codi materion o dan ein rheolau.
- Love Island, ITV2, 6 Awst 2021 – 24,921 o gwynion am ymddygiad Faye tuag at Teddy. Ar ôl ystyried y mater yn ofalus, fe wnaethom benderfynu nad oedd hyn yn codi materion o dan ein rheolau.
- Julia Hartley-Brewer, TalkTV, 3 Ionawr 2024 – 17,351 o gwynion am gyfweliad Julia Hartley-Brewer gyda’r gwleidydd o Balesteina, Dr Mustafa Barghouti. Nid oedd hyn yn codi materion o dan ein rheolau ond fe ddywedom wrth TalkTV am gymryd gofal arbennig i sicrhau bod cyfiawnhad dros sylwadau a allai fod yn sarhaus.
- I’m a Celebrity, Get me out of Here!, ITV, Rhagfyr 2020 – 11,516 o gwynion yn ymwneud â lles anifeiliaid a ddefnyddiwyd mewn treialon (cwynion a dderbyniwyd fel rhan o ddeiseb RSPCA). Nid oedd hyn yn codi materion o dan ein rheolau.
- Dan Wootton Tonight, GB News, 26 Medi 2023 – 8,867 o gwynion am sylwadau misogynistiadd a wnaed gan Laurence Fox am y newyddiadurwraig, Ava Evans. Torri rheolau tramgwydd Ofcom.
- Jerry Springer the Opera, BBC2, 8 Ionawr 2005 – 8,860 o gwynion am gynrychiolaeth y rhaglen o’r gymuned Gristnogol. Dyfarnodd ein hymchwiliad na wnaeth hyn dorri rheolau darlledu.
- King Charles III: The Coronation, ITV1, 6 Mai 2023 – 8,421 o gwynion am sylw a wnaed gan yr actores Adjoa Andoh yn ystod y darllediad byw, a oedd yn canolbwyntio ar ymddangosiad y Teulu Brenhinol ar falconi Palas Buckingham. Fe wnaethom gyhoeddi ein rhesymau dros ddod i’r casgliad nad oedd y rhaglen wedi codi materion o dan ein rheolau.