Mae Ofcom heddiw wedi cwblhau ei ymchwiliad i Good Morning Britain a ddarlledwyd ar ITV ar 8 Mawrth 2021, gwnaeth ganfod nad oedd y cynnwys wedi torri ei reolau darlledu.
Roedd hwn yn benderfyniad cafodd ei bwyso a’i fesur yn ofalus iawn. Gallai sylwadau Mr Morgan fod yn niweidiol ac yn sarhaus i wylwyr, ac yr ydym yn cydnabod yr ymateb cyhoeddus cryf iddynt. Ond gwnaethom hefyd ystyried rhyddid mynegiant yn llawn. O dan ein rheolau, gall darlledwyr gynnwys barn ddadleuol fel rhan o ddadl ddilys er budd y cyhoedd, ac roedd yr herio cryf gan gyfranwyr eraill tuag at Mr Morgan yn rhoi cyd-destun pwysig i wylwyr.
Er hynny, rydym wedi atgoffa ITV i gymryd mwy o ofal ynghylch cynnwys sy'n trafod iechyd meddwl a hunanladdiad yn y dyfodol. Efallai bydd ITV yn ystyried defnyddio rhybuddion amserol neu gyfeirio at wasanaethau cymorth i sicrhau bod gwylwyr yn cael eu diogelu'n briodol.
Mae'r penderfyniad llawn (PDF, 1012.8 KB) ar gael.
Cysylltwch â thîm y cyfryngau
Os ydych yn newyddiadurwr sydd am gysylltu â thîm cyfryngau Ofcom:
Ffoniwch: +44 (0) 300 123 1795 (newyddiaduron yn unig)
Anfonwch eich ymholiad atom (newyddiaduron yn unig)
Os ydych yn aelod o'r cyhoedd sydd eisiau cyngor neu am gwyno i Ofcom: