A person talking into a studio microphone

Cronfa Radio Cymunedol 2024-25 ar agor ar gyfer ceisiadau

Cyhoeddwyd: 21 Mai 2024

Heddiw, mae Ofcom yn gwahodd gorsafoedd cymwys i wneud cais am gyllid o rownd gyntaf y Gronfa Radio Cymunedol 2024-25.

Mae'r Gronfa Radio Cymunedol yn cael ei dyrannu gan yr Adran dros faterion Digidol, Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ac yn cael ei rheoli gan Ofcom. Y cyfanswm sydd ar gael yn ystod 2024-25 yw £400,000. Yn y rownd derfynol, roedd y grantiau a ddyfarnwyd yn amrywio o £9,100 hyd at £28,536.

Mae gorsafoedd radio cymunedol yn gwasanaethu amrywiaeth o gymunedau lleol ledled y DU. Yn seiliedig ar waith caled a brwdfrydedd gwirfoddolwyr, maent yn adlewyrchu cymysgedd amrywiol o ddiwylliannau a diddordebau ac yn darparu cymysgedd cyfoethog o gynnwys a gynhyrchir yn lleol yn bennaf.

Mae’r Gronfa Radio Cymunedol yn helpu i dalu am gostau craidd rhedeg gorsafoedd radio cymunedol sy’n cael eu trwyddedu gan Ofcom, gan gynnwys:

  • Rheoli
  • Codi arian i gefnogi’r orsaf (e.e. grantiau, cyllid masnachol)
  • Gweinyddiaeth
  • Rheolaeth ac adroddiadau ariannol
  • Allgymorth cymunedol
  • Trefnu a chefnogi gwirfoddolwyr

Gellir dyfarnu grantiau i orsafoedd radio cymunedol yn y DU sydd wedi’u trwyddedu gan Ofcom yn unig – ac sy’n darlledu ar AM, FM, neu drwy drwydded rhaglenni Sain Ddigidol Cymunedol  ar amlblecs radio digidol.

Bydd ceisiadau yn cau am 5pm ddydd Gwener 14 Mehefin 2024. Rydym yn disgwyl i Banel y Gronfa Radio Cymunedol gyfarfod ddiwedd mis Gorffennaf 2024 i ystyried y ceisiadau a ddaw i law.

Yn ôl i'r brig