Diweddarwyd diwethaf 4 Hydref 2024
Heddiw, mae ymchwiliad Ofcom wedi dod i’r casgliad bod People’s Forum: The Prime Minister (PDF, 612.8 KB) ar GB News wedi torri rheolau darlledu o ran didueddrwydd dyladwy. Ein barn gychwynnol yw bod hyn yn cynrychioli achos difrifol o'r rheolau hyn, a bod y rheolau hyn wedi cael eu torri nifer o weithiau. Rydym nawr yn dechrau’r broses o ystyried sancsiwn statudol yn erbyn GB News. Bydd y Panel Sancsiynau yn ailystyried y farn gychwynnol hon.
Cafodd Ofcom 547 o gwynion am y rhaglen materion cyfoes fyw, awr o hyd. Ar y rhaglen roedd Rishi Sunak, y Prif Weinidog, yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda chynulleidfa stiwdio ynghylch polisïau a pherfformiad y llywodraeth, wedi’i chyflwyno yng nghyd-destun Etholiad Cyffredinol nesaf y DU. Mae hyn yn cyfateb i’r diffiniad o fater o bwys o dan ein rheolau, felly roedd y gofynion uwch ar gyfer didueddrwydd arbennig yn berthnasol.
Nid oes gan Ofcom broblem â fformat golygyddol y rhaglen hon mewn egwyddor. Mae rhyddid mynegiant yn golygu bod gan ddarlledwyr ryddid i arloesi a defnyddio gwahanol dechnegau golygyddol ar eu rhaglenni – gan gynnwys cyflwyno ffurfiau arloesol ar ddadleuon i gynulleidfaoedd. Ond mae’n rhaid iddynt ddilyn rheolau ein Cod Darlledu wrth wneud hynny.
Roeddem yn cydnabod y byddai’r rhaglen hon yn canolbwyntio’n bennaf ar bolisïau’r Blaid Geidwadol a’i hanes o gyflawni ar nifer o faterion penodol, a oedd yn golygu mai safbwyntiau Ceidwadol fyddai fwyaf cyffredin. Nodwn yn glir nad yw hyn ynddo’i hun yn golygu na allai’r rhaglen ddilyn y rheolau didueddrwydd dyladwy o dan y Cod.
Fodd bynnag, o ystyried y materion pwysig a oedd yn cael eu trafod, roedd dyletswydd ar GB News i sicrhau bod amrywiaeth briodol o safbwyntiau arwyddocaol yn cael sylw priodol ar y rhaglen neu mewn rhaglenni eraill amserol a oedd yn amlwg yn gysylltiedig.
Ein canfyddiadau
Wrth ystyried a oedd y rhaglen yn ddigon diduedd, roeddem wedi ystyried amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys: cwestiynau’r gynulleidfa i’r Prif Weinidog; ymatebion y Prif Weinidog; cyfraniad y cyflwynydd; ac a oedd didueddrwydd dyladwy drwy raglenni amserol a oedd yn amlwg yn gysylltiedig. Yn gryno, dyma oedd canfyddiadau ein hymchwiliad:
- er bod rhai o gwestiynau’r gynulleidfa’n herio ac yn beirniadu polisïau a pherfformiad y llywodraeth, nid oedd aelodau o’r gynulleidfa’n gallu herio ymatebion y Prif Weinidog ac ni wnaeth y cyflwynydd hynny i unrhyw raddau ystyrlon chwaith;
- roedd y Prif Weinidog yn gallu amlinellu polisïau ar gyfer y dyfodol yr oedd ei lywodraeth yn bwriadu eu rhoi ar waith pe bai mewn pŵer eto ar ôl Etholiad Cyffredinol nesaf y DU. Nid oedd y gynulleidfa na’r cyflwynydd wedi herio’r rhain, nac wedi cyfeirio at safbwyntiau arwyddocaol eraill ynghylch y polisïau hyn;
- roedd y Prif Weinidog wedi beirniadu agweddau ar bolisïau a pherfformiad y Blaid Lafur. Wrth gwrs mae gan wleidyddwyr ryddid i wneud hyn ar raglenni, ond rhaid i ddarlledwyr sicrhau didueddrwydd dyladwy. Ni chafodd safbwyntiau’r Blaid Lafur ynghylch y materion hynny, nac unrhyw safbwyntiau arwyddocaol eraill yn eu cylch, sylw priodol na’u cynnwys ar y rhaglen;
- Nid oedd GB News wedi, nac wedi gallu, cyfeirio ar y rhaglen at raglen yn y dyfodol lle byddai amrywiaeth briodol o safbwyntiau arwyddocaol ar y mater o bwys yn cael eu cyflwyno ac yn cael sylw priodol.
Roeddem wedi ystyried hefyd bod GB News wedi dweud, yn ystod ein hymchwiliad: ei fod yn fwriadol anymwybodol o ba gwestiynau fyddai aelodau o’r gynulleidfa yn eu gofyn i’r Prif Weinidog; ei fod wedi gwneud penderfyniad golygyddol na fyddai’r cyflwynydd yn ymyrryd neu’n herio’r safbwyntiau a fynegir; ac nad oedd dull golygyddol arall o gynnwys safbwyntiau eraill ar y rhaglen.
Ein penderfyniad
O ystyried y risgiau uchel iawn o ran cydymffurfedd a oedd yn gysylltiedig â’r rhaglen hon, rydym wedi canfod bod dull GB News o gydymffurfio yn gwbl annigonol ac yn credu y gallai, ac y dylai, fod wedi cymryd camau ychwanegol i liniaru’r risgiau hynny.
Rydym wedi canfod na chafodd amrywiaeth briodol o safbwyntiau arwyddocaol sylw priodol na’u cyflwyno ar People’s Forum: The Prime Minister, na bod didueddrwydd dyladwy drwy raglenni amserol a oedd yn amlwg yn gysylltiedig. Felly, rydym yn credu bod gan y Prif Weinidog lwyfan diwrthwynebiad yn bennaf i hyrwyddo polisïau a pherfformiad ei lywodraeth yn y cyfnod cyn Etholiad Cyffredinol yn y DU.
Rydym felly wedi cofnodi toriad o Reolau 5.11 a 5.12 o God Darlledu yn erbyn GB News.
Dechrau ein proses sancsiynau
Mae Ofcom yn credu bod methiant GB News i sicrhau didueddrwydd dyladwy yn yr achos hwn yn ddifrifol ac – oherwydd ei fod wedi torri’r rheolau hyn ddwywaith o’r blaen – yn niferus. Rydym felly’n dechrau ein proses o ystyried sancsiwn statudol yn erbyn GB News. Dyma farn gychwynnol y sawl benderfynodd dorri’r rheolau. Bydd yn cael ei ailystyried gan y Panel Sancsiynau.
I gyd-fynd â’n gweithdrefnau sancsiynau cyhoeddedig (PDF, 234.8 KB), ein nod yw peidio â chymryd mwy na 60 diwrnod gwaith i ystyried. Os ydym yn credu y gallai sancsiwn fod yn briodol, bydd y darlledwr yn cael gwybod am ein Safbwynt Rhagarweiniol ac yn cael cyfle i gyflwyno sylwadau i ni yn ysgrifenedig ac ar lafar. Byddwn yn gwneud penderfyniad terfynol ar ôl ystyried y sylwadau hyn.