Cais am Dystiolaeth: Digwyddiadau Rhestredig Gweithredu’r Ddeddf Cyfryngau 2024

Cyhoeddwyd: 18 Gorffennaf 2024
Ymgynghori yn cau: 26 Medi 2024
Statws: Agor

Deddf Cyfryngau 2024 yw’r diweddariad mawr cyntaf i ddeddfwriaeth cyfryngau’r DU ers 20 mlynedd. Ei nod yw sicrhau bod pobl ledled y wlad yn parhau i gael mynediad at amrywiaeth eang o deledu byw ac ar-alw o ansawdd uchel, gan sicrhau bod cynulleidfaoedd yn cael eu diogelu rhag niwed a bod strwythurau rheoleiddio’n cael eu diwygio i alluogi’r diwydiant cyfryngau yn y DU i ffynnu.

Un newid a gyflwynwyd gan Ddeddf y Cyfryngau yw’r drefn digwyddiadau rhestredig, sy’n berthnasol i ddarlledu digwyddiadau penodol o ddiddordeb cenedlaethol, fel y Gemau Olympaidd, Cwpan y Byd y dynion a’r menywod a thwrnameintiau pêl-droed Pencampwriaeth Ewrop, a’r Grand National. Nod y drefn digwyddiadau rhestredig yw sicrhau bod y sylw a roddir i’r digwyddiadau hyn yn dal ar gael yn eang i gynulleidfaoedd. Fodd bynnag, nid yw’n gwarantu y bydd digwyddiadau rhestredig yn cael eu darlledu’n fyw neu ar sianel am ddim, gan nad oes rhaid i ddeiliaid hawliau werthu hawliau byw ac nad oes rhaid i ddarlledwyr eu prynu na dangos y digwyddiadau.

Mae’r Ddeddf Cyfryngau yn diwygio’r drefn digwyddiadau rhestredig, fel mai dim ond darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, fel y BBC ac ITV, sy’n gallu darparu “gwasanaethau cymwys” sy’n elwa o’r drefn. Ei nod yw sicrhau bod hawliau i ddarllediadau byw o ddigwyddiadau rhestredig yn cael eu cynnig i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, yn ogystal â gwasanaethau eraill sy’n cael eu galw’n “wasanaethau nad ydynt yn gymwys”. Mae’r Ddeddf Cyfryngau hefyd yn ehangu cwmpas y drefn er mwyn i amrywiaeth o ddarparwyr newydd, gan gynnwys gwasanaethau ffrydio, fod yn ddarostyngedig i’r rheolau yn y dyfodol. Nid yw’n newid pa ddigwyddiadau sy’n rhai rhestredig neu nad ydynt yn rhestredig (sy’n fater i’r Ysgrifennydd Gwladol).

Fel rhan o weithredu’r newidiadau hyn, mae’n rhaid i Ofcom ddiffinio nifer o dermau sy’n cael eu defnyddio yn y drefn a diwygio ein Cod ar ddigwyddiadau rhestredig.

Yn y cais hwn am dystiolaeth, rydym yn gofyn am fewnbwn i’n helpu i gyflawni’r gwaith hwn. Byddem yn croesawu’n benodol dystiolaeth ynghylch sut mae newidiadau yn arferion gwylio cynulleidfaoedd wedi effeithio ar wylio digwyddiadau rhestredig, a newidiadau mewn technoleg ac yn y dirwedd cyfryngau ehangach. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn gweld sut mae hawliau ar gyfer digwyddiadau rhestredig yn cael eu pecynnu a’u gwerthu.

Ymateb i'r alwad hon am dystiolaeth

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb erbyn 5pm ar 26 Medi 2024.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad

Tîm digwyddiadau rhestredig
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA

Yn ôl i'r brig