Amateur radio microphone on a studio desk.

Y Gronfa Radio Cymunedol – 2024/25 Rownd Un

Cyhoeddwyd: 19 Awst 2024

Heddiw mae Ofcom wedi cyhoeddi bod grantiau wedi cael eu dyfarnu i 11 o orsafoedd radio cymunedol yn dilyn cwblhau rownd un.

Mae’r Gronfa Radio Cymunedol yn cael ei dyrannu gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ac yn cael ei rheoli gan Ofcom.

Sefydlwyd y gronfa i helpu gyda’r costau craidd o redeg gorsafoedd radio cymunedol, sy’n gweithredu ar sail dim-er-elw i ddarparu buddion cymdeithasol penodol i ardal ddaearyddol neu gymuned fuddiant benodol.

Yn y rownd gyllid hon, dyfarnwyd gwerth £205,479 o grantiau i 11 o orsafoedd radio cymunedol. Roedd symiau’r grantiau a ddyfarnwyd yn amrywio o £4,320 i £33,854, a £18,680 oedd y dyfarniad cyfartalog. Cyfanswm y cyllid y gofynnwyd amdano ar draws yr 81 o geisiadau oedd £1,542,694.29.

Dyfarnwyd grantiau i’r canlynol:

  • The Beat London 103.6 – gorsaf radio cymunedol ddinesig i bobl ifanc yn Llundain. 
  • BGFM – gorsaf i gynulleidfaoedd ym Mlaenau Gwent sy’n cynnig rhaglenni o bob math, gan gwmpasu amrywiaeth o genres a chyflwynwyr, a hybu’r iaith Gymraeg. 
  • Drive 105FM – nod yr orsaf hon yw creu synnwyr o gymuned yn ninas Derry/Londonderry, gan adlewyrchu’r amlddiwylliannaeth yn y ddinas.
  • Future Radio – nod yr orsaf hon yw ymgysylltu â’r gymuned yn Norwich, datblygu sgiliau, a chynnig cyfleoedd drwy gerddoriaeth, sgyrsiau a phobl.
  • Heartsong Live Radio – yn gwasanaethu’r gymuned Gristnogol yng Nghaeredin. 
  • Jorvik Radio – yn darlledu rhaglenni sy’n berthnasol i’r ardal leol yn Efrog a’r cyffiniau. 
  • Legacy 90.1FM – gorsaf radio cymunedol Affricanaidd a Charibïaidd ym Manceinion, sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr. 
  • Liverpool Community Radio – gorsaf sy’n darlledu amrywiaeth o raglenni 24/7 i aelodau o’r gymuned sydd dan anfantais.
  • Ocean City Radio – gorsaf yn Plymouth a lansiwyd yn 2018 mewn carafán wedi’i throi’n stiwdio, gyda thîm o 35 o wirfoddolwyr. 
  • Rutland and Stamford Sound – gorsaf sy’n canolbwyntio ar gefnogi’r gymuned leol drwy hyrwyddo busnesau a digwyddiadau lleol. 
  • Sunny Govan Radio – gorsaf sy’n cynnig rhaglenni newyddion lleol a gyflwynir gan wirfoddolwyr i gynulleidfaoedd yn Glasgow. 
Yn ôl i'r brig