Y Gronfa Radio Cymunedol

Cyhoeddwyd: 27 Chwefror 2024

Ar ôl diwedd y Rownd flaenorol, arian grant a ddychwelwyd gan ddyfarnai blaenorol a chadarnhad o ymchwydd o £50,000 gan DCMS ar 26 Ionawr 2024, y cyfanswm sydd ar gael yn y rownd bresennol yw £257,832.27.

Mae'r Gronfa'n cefnogi costau craidd rhedeg gorsafoedd radio cymunedol a drwyddedir gan Ofcom, fel y nodir yn y nodiadau cyfarwyddyd isod. Dylai ymgeiswyr ddarllen y nodiadau cyfarwyddyd hyn yn llawn cyn cyflwyno cais.

Mae trwyddedeion sydd eisoes yn dal trwydded Rhaglenni Sain Ddigidol Cymunedol (C-DSP) yn gymwys i ymgeisio i'r Gronfa os yw’r orsaf yn darlledu ar amlblecs radio digidol ar ddyddiad eu cais.

Gellir gwneud grantiau ddim ond i orsafoedd radio cymunedol sydd wedi cael eu trwyddedu gan Ofcom yn y DU ac sy'n darlledu ar AM, FM neu drwy drwydded C-DSP ar amlblecs radio digidol. Gall ceisiadau gan ddeiliaid trwydded presennol gael eu cyflwyno yn Gymraeg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Cyfarfu Panel y Gronfa Radio Cymunedol ddydd Mawrth 13 Chwefror 2024 i ystyried y ceisiadau.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â thîm y Gronfa Radio Cymunedol yn communityradiofund@ofcom.org.uk.

Gallwch ddod o hyd i ddyfarniadau grantiau'r gorffennol ar wefan yr Archifau Gwladol.

Yn ôl i'r brig