Cyfarfu Panel Cronfa Radio Cymunedol Ofcom (‘y Panel’) ddydd Iau 25 Gorffennaf 2024 i ystyried ceisiadau yn y rownd gyntaf o gyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-2025.
Ystyriodd y Panel bob cais a dyfarnu’r cyllid ar sail yr wybodaeth a oedd wedi cael ei chyflwyno, a gan gyfeirio at nodiadau cyfarwyddyd y Gronfa Radio Cymunedol (‘y Gronfa’). Ar gyfer pob cais am grant, penderfynodd y Panel a oedd am roi dyfarniad llawn, dyfarniad rhannol neu beidio â dyfarnu unrhyw gyllid.
Yn y cyfarfod:
- Cafodd 81 o geisiadau am grantiau eu hystyried;
- Roedd cyfanswm y cyllid roedd y ceisiadau hyn yn gofyn amdano yn £1,542,694.29;
- Dyfarnwyd grantiau i 11 o ymgeiswyr a oedd yn rhoi cyfanswm o £205,479;
- Ni ddyfarnwyd grantiau i 70 o ymgeiswyr; ac,
- Roedd y grantiau a ddyfarnwyd yn amrywio o £4,320 i hyd at £33,854 ar gyfer swyddi unigol, ac roedd y cyfartaledd yn £18,679.89. Mae crynodeb o’r dyfarniadau ar gael ar ddiwedd y datganiad hwn.
Roedd y Panel o’r farn y dylai grantiau’r Gronfa helpu, cymaint ag y bo modd, i ddatblygu sefydlogrwydd ariannol gorsaf a’i chynaliadwyedd ar gyfer y dyfodol. Felly, roedd y Panel yn ffafrio cynigion i hybu diogelwch ariannol tymor hir a swyddi a allai gynnal eu hunain yn ystod oes y grant ar draul ceisiadau ar gyfer swyddi cefnogaeth eraill.
O ran y ceisiadau a gafodd eu hystyried ar gyfer y rownd hon o gyllid, hoffai’r Panel wneud y pwyntiau canlynol:
Adborth
Nid yw’r Panel yn rhoi adborth unigol fel mater o drefn. Bydd adborth llafar ar gael os ydy'r gorsafoedd yn dymuno cysylltu ag Ofcom. Byddai’r Panel yn awgrymu’n gryf bod y gorsafoedd yn gofyn am adborth os ydynt yn bwriadu ailgyflwyno cynigion ar gyfer yr un swydd neu brosiect yn y dyfodol. Os nad oedd prosiect wedi llwyddo’r tro hwn, nid yw hynny o reidrwydd yn golygu na chaiff yr un prosiect neu brosiect tebyg ei gyllido yn y dyfodol. Mae nifer o’r pwyntiau sydd wedi cael eu rhestru yn yr wybodaeth isod wedi cael eu cyfleu gan y Panel yn dilyn y rowndiau cyllido blaenorol. Byddai’r Panel yn atgoffa’r ymgeiswyr aflwyddiannus i gofio’r materion hyn mewn unrhyw geisiadau y byddant yn dymuno eu cyflwyno yn y dyfodol.
Darllenwch y nodiadau cyfarwyddyd
Roedd nifer fach o orsafoedd wedi gofyn am grantiau i dalu am eitemau fel rhent, biliau cyfleustodau neu wariant cyfalaf. Mae’r canllawiau (PDF, 244.0 KB) yn egluro na fydd y Gronfa yn cefnogi’r ceisiadau hyn.
Rhowch yr holl wybodaeth y gofynnir amdani
Roedd rhai ymgeiswyr wedi methu darparu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn y ffurflen gais, gan gynnwys disgrifiadau swydd a gwybodaeth ariannol. Roedd ymgeiswyr eraill ond wedi rhoi amlinelliad amwys o’r swydd arfaethedig. Dylai’r ymgeiswyr ddarllen y nodiadau cyfarwyddyd i gael rhagor o fanylion ynghylch beth ddylid ei ddarparu.
Eglurder am swyddi a chyflogau
Wrth wneud cais am swydd i’w chyllido, dylai’r ymgeiswyr egluro sut maent wedi cyrraedd y cyflog a gynigir.
Roedd nifer fach o ymgeiswyr wedi methu datgan a oedd y swyddi yn rhai rhan amser neu lawn amser, ac a oedd y swm a nodwyd yn cynnwys Yswiriant Gwladol, taliadau pensiwn ac ati.
Dylai ymgeiswyr sy’n bwriadu cyflogi aelod o staff sicrhau eu bod yn gyfarwydd â’r ddeddfwriaeth Cyflog Byw Cenedlaethol. Dylai ymgeiswyr sy’n bwriadu cyflogi rhywun yn llawrydd fod yn gyfarwydd â rheolau CThEF ar hunangyflogaeth.
Roedd nifer o ymgeiswyr a oedd yn dymuno cyflogi aelod o staff heb gynnwys cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr yn eu costau neu wedi'u camgyfrifo.
Cyflog ar sail comisiwn
Bydd y Panel ond yn ystyried cyllido swydd sydd ag oriau clir a chyflog sylfaenol sy’n cyrraedd y cyflog byw cenedlaethol. Dylai ceisiadau gyfiawnhau unrhyw “Enillion Ar Darged” a hawlir.
Ffocws clir ar gyfer swyddi
Roedd y Panel yn ffafrio ceisiadau am swyddi yr oedd gan eu disgrifiadau swydd ddiben wedi'i ddiffinio’n glir. Roedd hefyd yn help i’r Panel pan roedd yr ymgeiswyr yn dangos sut bydd llwyddiant y swydd a oedd yn cael ei chynnig yn cael ei fesur ee gosod targedau.
Roedd rhai ceisiadau aflwyddiannus yn awgrymu swyddi lle’r oedd gan ddeiliad y swydd ystod enfawr o gyfrifoldebau gan gynnwys rheoli gwirfoddolwyr, rhaglennu a hyd yn oed cyflwyno rhaglenni bob dydd, ochr yn ochr â datblygu refeniw. Ceisiadau ar gyfer swyddi Rheolwyr Gorsafoedd oedd y rhain yn aml. Nid oedd y Panel yn debygol o ffafrio ceisiadau o’r fath gan nad oedd deiliad y swydd yn debygol o roi digon o amser i gynhyrchu incwm, gan wneud y buddsoddiad yn anghynaliadwy.
Ceisiadau am fwy nag un swydd
Gwelodd y Panel nifer o geisiadau am fwy nag un swydd. Argymhellir bod yr ymgeiswyr yn penderfynu pa swydd fyddai fwyaf gwerthfawr a gwneud cais am yr un swydd honno.
Ceisiadau am gyllid sy’n ailadrodd
Roedd nifer fach o orsafoedd wedi gwneud cais am gyllid estynedig ar gyfer swyddi sydd wedi cael eu cyllido yn y gorffennol. Mewn ceisiadau am gyllid sy’n ailadrodd, byddai’r Panel yn disgwyl gweld tystiolaeth fel perfformiad deiliad y swydd hyd yma (gan gynnwys yr incwm a godwyd, er enghraifft). Byddai angen i’r Panel hefyd weld rheswm da dros roi cyllid sy’n ailadrodd ac ystyried y galw am y Gronfa.
Pan roedd ffactorau a oedd yn cael effaith negyddol ar ddefnyddio cyllid blaenorol, byddai’r Panel yn disgwyl gweld manylion er mwyn iddo allu gwneud asesiad mor deg â phosibl.
Eglurder ynghylch sefyllfa ariannol gorsaf
Byddai’n helpu’r Panel petai’n cael gweld yr wybodaeth ddiweddaraf am y cyfrifon – nid yw cyfrifon o ganol 2022 o reidrwydd yn adlewyrchu'r sefyllfa gyfredol felly mae’n gallu bod yn anodd i’r Panel eu hystyried.
Roedd rhai ceisiadau yn cynnwys gwybodaeth ariannol a oedd i bob golwg yn dangos cronfeydd mawr anghyfyngedig neu elw mawr o flynyddoedd blaenorol. Yn ddoeth, roedd rhai ymgeiswyr wedi darparu gwybodaeth am eitemau o’r fath, ond nid oedd rhai eraill wedi gwneud hynny.
Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol y gallai unrhyw ddiffyg eglurder fod yn anfantais i’w cais, gan y gallai roi argraff gamarweiniol o gyflwr eu cyllid.
Roedd y Panel hefyd yn nodi bod rhai gorsafoedd yn rhan o sefydliadau ehangach a allai gynnig cymorth ariannol iddynt, ond nid oedd gorsafoedd eraill yn glir am eu perthynas â’r sefydliadau mwy hyn.
Ffioedd rheoli
Roedd nifer o geisiadau wedi gofyn am ganran fawr o’r cyflog y gwnaed cais amdano ar gyfer “ffioedd rheoli”. Nid yw’r Gronfa yn talu’r rhain.
Gofynnwch i rywun ddarllen dros eich cais
Roedd un neu ddau o geisiadau yn aneglur mewn rhai llefydd, neu’n anodd eu darllen. Mae hefyd yn helpu cais os bydd rhywun nad oedd yn ymwneud ag ysgrifennu’r cais yn wreiddiol yn “prawfddarllen” y cais cyn ei gyflwyno.
Rhowch eich llwyddiannau
Roedd y Panel wedi mwynhau darllen disgrifiadau cryno o hanes gorsafoedd a’u gweithgareddau cyfredol, yn enwedig y gorsafoedd hynny a oedd yn gallu dangos eu gwaith gwych a'u gwerth cymdeithasol.
Trwyddedai | Gorsaf | Pwrpas | Swm a Ddyfarnwyd |
BANG Media and Entertainment Ltd | The Beat London 103.6 | Swyddog Gweithredol Gwerthu a Nawdd | £23,933 |
BGFM Limited | BGFM | Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata | £14,027 |
Drive 105 FM Community Radio Ltd | Drive 105FM | Cyllid sefydliad trydydd parti | £4,320 |
Jorvik Radio Limited | Jorvik Radio | Rheolwr Datblygu Busnes | £12,480 |
KensingtonVision Community Interest Company | Liverpool Community Radio | Rheolwr Swyddog Cynhyrchu Incwm | £18,533 |
Legacy901 CIC | Legacy 90.1FM | Rheolwr Incwm a Chynaliadwyedd | £15,444 |
Rutland and Stamford Sound Community Interest Company | Rutland and Stamford Sound | Swyddog Datblygu Busnes | £20,808 |
Sound Communities Community Interest Company | Ocean City Radio | Rheolwr Datblygu Busnes | £22,000 |
Sunny Govan Community Media Group | Sunny Govan Radio | Rheolwr Nawdd a Chodi Arian | £22,000 |
The Adelphe Community Outreach SCIO | Heartsong Live Radio | Rheolwr Ymgysylltu â’r Gymuned a Strategydd Busnes | £33,854 |
The NR5 Project | Future Radio | Swyddog Codi Arian Cymunedol | £18,080 |